Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 27 Medi 2022.
Diolch. Fe wnaethoch chi sôn am gael gorchmynion gwasgaru—rwy'n credu eich bod chi wedi dweud ychydig y tu allan i'ch etholaeth chi. Yn amlwg, mater i weithrediadau'r heddlu yw hynny, ond mae'n sicr yn tanlinellu pwysigrwydd y dull ataliol yr ydym ni fel Llywodraeth yn ei fabwysiadu i ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Soniais fod gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, yn sicr, y dull partneriaeth hwnnw ym mhopeth y mae'n ei wneud o amgylch yr agenda hon, ac mae hynny'n cynnwys gweithio gydag awdurdodau lleol ac unrhyw bartner arall a all ein helpu ni yn y frwydr hon yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol.