Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 27 Medi 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 1:35, 27 Medi 2022

Diolch yn fawr, Trefnydd, am eich atebion. Y broblem gyda hyn yw nad oes gyda ni'r offer fan hyn yn y Senedd i ddelio â fe. Dwi'n mawr obeithio y bydd y Prif Weinidog, pan fydd, o'r diwedd, Liz Truss yn rhoi galwad ffôn iddo fe, yn dweud yn glir wrthi hi, ac wrth Keir Starmer, fod angen datganoli cyfiawnder fan hyn i fynd i wraidd y problemau yma. Dwi hefyd yn gobeithio y cymeriff e'r cyfle i ddweud wrth y Prif Weinidog fod y Public Order Bill, sy'n gwahardd protestio cyfreithlon, yn hollol warthus. Dwi'n siwr, Trefnydd, y byddwch chi'n cytuno â fi ei bod hi'n bwysig i bob yr un ohonom ni fel gwleidyddion i wrando ar bam mae pobl yn protestio—beth yw gwraidd a rheswm y brotest—yn hytrach na thrio stopio protestio rhag digwydd yn y lle cyntaf.