Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 27 Medi 2022.
Yn sicr. Mae gan bawb yr hawl i brotestio'n heddychlon, ac rwy'n clywed yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud ynghylch datganoli cyfiawnder. Yn amlwg, mae hynny'n rhywbeth sy'n cael ei drafod ar hyn o bryd. Mae'r Bil Trefn Gyhoeddus, rwy'n credu, wedi cael ei ohirio bellach. Yn sicr, ni fyddwn ni'n cyflwyno Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol i'r Senedd ar hyn o bryd.