Part of the debate – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 27 Medi 2022.
Trefnydd, byddwn i'n ddiolchgar iawn am ddatganiad ynglŷn â'r economi. Mae'n eithaf clir nawr fod Llywodraeth y DU, a'r Canghellor yn enwedig, wedi colli rheolaeth ar economi'r DU, gan arwain at ganlyniadau ofnadwy i bob un ohonom ni. A gawn ni ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan Weinidog yr economi yn benodol ynghylch busnesau a chanlyniadau tebygol i fusnesau Cymru yn sgil y bunt yn plymio, cyfraddau llog yn cynyddu'n aruthrol a hefyd chwyddiant ar garlam?