Part of the debate – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 27 Medi 2022.
Rwy'n credu ei bod hi'n rhy gynnar, mae'n debyg, i gyflwyno datganiad ar hynny. Rwy'n gwybod mai un o'r materion, ac yn sicr yn fy etholaeth fy hun—mae'n rhywbeth sydd wedi'i godi gyda mi—yw'r diffyg swyddogion cynllunio yn ein hawdurdodau lleol ledled Cymru. Rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth y mae'r Gweinidog, yn amlwg, yn ymwybodol ohono ac yn ei drafod gyda chydweithwyr llywodraeth leol.