Part of the debate – Senedd Cymru am 4:41 pm ar 27 Medi 2022.
Yn eich diweddariad ar ddatganiadau Wcráin cyn toriad yr haf, fe wnaethoch sôn am y berthynas waith adeiladol a oedd gennych gyda Gweinidog dros Ffoaduriaid Llywodraeth y DU ar y pryd, Yr Arglwydd Harrington. Ac wrth gwrs rydych chi wedi cyfeirio ato yn eich datganiad heddiw hefyd. Pan ymddiswyddodd o'r swyddogaeth hon yn gynharach y mis hwn, dywedodd yr Arglwydd Harrington nad oedd angen y swyddogaeth mwyach oherwydd bod system barhaol bellach ar waith ar gyfer cyrraedd, bod y swyddogaeth bob amser wedi bod yn un dros dro a bod ei waith yn gyflawn yn y bôn. Ychwanegodd y byddai nawr yn ymgymryd â swyddogaeth wirfoddol yn helpu ffoaduriaid. Sut ydych chi'n ymateb i'w ddatganiad, wedi ei seilio ar ofynion ymarferol y gwaith rhyng-lywodraethol yng Nghymru?
Yn y cyd-destun hwn, rwy'n deall bod y Gweinidog dros Ymfudo newydd yn y Swyddfa Gartref, Tom Pursglove AS, wedi bod yn ymateb i gwestiynau ynghylch cynlluniau'r DU ar gyfer ffoaduriaid Wcreinaidd. A yw hyn yn cyd-fynd â'ch dealltwriaeth chi, o ystyried eich bod wedi datgan eich bod wedi ysgrifennu at, rwy'n credu, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro a'r Ysgrifennydd Cartref newydd, yn eich datganiad? Ac os yw hyn yn cyd-fynd â'ch dealltwriaeth, pa ymgysylltu ydych chi'n ei geisio â Tom Pursglove?
Yn dilyn cyflwyno Link International i chi, rwy'n falch bod yr elusen a'i rhaglen gyswllt Wcreinaidd yn gweithio'n dda gydag awdurdodau lleol y gogledd, ar y cyd ag asiantaethau statudol eraill a Llywodraeth Cymru, wrth ddod â grwpiau cymunedol a ffydd a sefydliadau trydydd sector ynghyd i gefnogi Wcreiniaid sy'n cyrraedd y gogledd. Pan es i i farbeciw Link International ar gyfer ffoaduriaid Wcráin yng Nghonwy ym mis Gorffennaf, cefais wybod, er mwyn cadw pobl fel lletywyr o dan gynllun Cartrefi i Wcráin ac i atal pobl rhag cael eu symud ymlaen, byddai angen cefnogaeth ychwanegol ar y lletywyr, gan gynnwys cymorth gyda biliau tanwydd gaeaf. Pan ysgrifennais atoch ynghylch hyn ateboch eich bod yn ymwybodol o'r risg o nawdd yn peidio â pharhau y tu hwnt i chwe mis oherwydd nad yw'r lletywyr yn gallu fforddio'r cynnydd mewn costau tanwydd. Pa drafodaethau ydych chi felly wedi'u cael yn uniongyrchol neu yr ydych chi'n bwriadu eu cael gyda Llywodraeth y DU, y tu hwnt i ohebiaeth, ynglŷn â chynnydd posibl i'r taliad misol o £350 i bobl sy'n lletya Wcreiniaid yn eu cartrefi eu hunain?
Yn ystod fy ymweliad â Chonwy ym mis Gorffennaf, roedd yr angen am Saesneg ar siaradwyr ieithoedd eraill, neu ESOL, gwersi, wyneb yn wyneb ac ar-lein, ac am weithredu i gefnogi trosglwyddo sgiliau a chymwysterau—pryd yr oedd ffoaduriaid yn y digwyddiad yn cynnwys meddyg, deintydd, parafeddyg, peirianwyr, ymgynghorwyr TG, pobl ag arbenigedd cyfryngau a digidol a llawer o rai eraill—hefyd yn cael ei bwysleisio i mi. Yn dilyn eich ateb ar 9 Awst i mi ynglŷn â'r rhain, byddwn yn ddiolchgar am ddiweddariad ar y materion hyn yng nghyd-destun y gwasanaethau datganoledig y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanyn nhw.
Yn y digwyddiad ym mis Gorffennaf, roedd newydd-ddyfodiaid yn cyrraedd mewn bysiau a chlywais am bobl yn cael eu rhoi, mewn niferoedd cynyddol, mewn llety brys, gwestai, ysgolion, ac ati. Ym mrecwast gweddi seneddol Dewi Sant ar gyfer Cymru ar 3 Mawrth, eisteddais wrth ochr rhywun a oedd yn gweithio gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn ar atebion tai modwlar cynaliadwy ar gyfer ffoaduriaid Wcreinaidd. Pa fath, os o gwbl, o drafodaethau ydych chi'n eu cael gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn am hyn ar gyfer Cymru ar ôl i mi godi hyn gyda chi cyn toriad yr haf?
Yn dilyn digwyddiad Diwrnodau Treftadaeth Pwylaidd yn y Senedd ar 13 Gorffennaf, anfonais ddogfen atoch a luniwyd gan y Ganolfan Cymorth Integreiddio Pobl Gwlad Pwyl, neu PISC, yn Wrecsam, yn nodi eu hymdrechion dyngarol i helpu ffoaduriaid Wcreinaidd a chynnig ar gyfer cefnogaeth gyfunol a chynaliadwy i bobl o Wcráin, yn cynnwys adeiladu tai dros dro. Yn dilyn ein cyfarfod yr wythnos diwethaf—a diolch i chi am hwnnw—sut byddwch chi felly'n ymgysylltu â nhw ynglŷn â hyn?
Yn olaf, cefais e-bost gan etholwr ar restr aros am dai yn disgrifio sefyllfa sy'n herio fy nealltwriaeth fy hun o'r trefniadau ar waith. Mae'n gofyn, ac rwy'n dyfynnu, 'Pam mae'r Wcreiniaid yn cael £500 yr wythnos, a rhai wedi symud allan o barc gwyliau a chael llety, ac rwyf innau'n dal yn ei chael hi'n anodd iawn?' Beth, felly, yw eich dealltwriaeth o'r sefyllfa y mae'n ei disgrifio, a sut byddech chi'n ymateb iddo?