Part of the debate – Senedd Cymru am 5:26 pm ar 27 Medi 2022.
Diolch i'r Gweinidog am y datganiad. Rydym ni'n byw mewn cyfnod digynsail, onid ydym? Mae’r sector amaeth a’r cymunedau a theuluoedd sydd ynghlwm â’r sector o dan bwysau rhyfeddol ac, yn fwy na dim arall, maen nhw'n chwilio am sefydlogrwydd, tra, ar yr un pryd, mae cymdeithas ehangach yn galw allan am ddiogelwch a fforddiadwyedd bwyd. Mae rhyfel Wcráin, Brexit a COVID-19 wedi dwyn ffocws ar freuder y gadwyn fwyd. Ar yr un pryd, mae'r Llywodraeth wedi gosod targedau clodwiw i sicrhau twf y Gymraeg, a gwyddom hefyd fod y sector amaethyddol yn greiddiol i gynnal yr iaith a'n diwylliant. A goruwch hyn oll, mae'r argyfwng newid hinsawdd angheuol, sydd yn taflu cysgod dros bob dim. Nid tasg hawdd felly mae cadw’r balans yma rhwng y gwahanol elfennau, ond dyna mae'n rhaid trio ei wneud. Nid gormodaeth felly ydy dweud fod y Bil yma a fydd yn cael ei gyflwyno yn drobwynt hanesyddol, a bydd yn gosod y cywair ar gyfer amaeth yng Nghymru am sawl cenhedlaeth i ddod.
Roeddwn i'n pryderu yn arw yn ystod y trafodaethau blaenorol na fyddai'r Bil yn cydnabod rôl ffermwyr wrth gynhyrchu bwyd. Wedi'r cyfan, dyma pam mae ffermwyr yn ffermio—maen nhw’n cynhyrchu bwyd er mwyn i'r gweddill ohonom ni fedru bod allan yn gweithio fel nad ydym ni'n gorfod bod ar y tir. Diolch iddyn nhw am eu gwaith. Dwi’n croesawu felly fod annog cynhyrchu bwyd yn ddeilliant penodol yn y dibenion cymorth, ac mi fyddaf yn edrych yn arbennig yn ystod proses craffu'r Bil ar sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu asesu diogelwch ein cyflenwad bwyd. Ond mi fyddaf i'n canolbwyntio fy ngwaith craffu ar y ddwy adran gyntaf. Dyma’r adrannau sy’n gosod y sylfaen, wedi'r cyfan. Bydd y Bil yn llwyddo neu yn methu yn ddibynnol ar gynnwys yr adrannau yma.
Dwi’n croesawu’r hyn y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud am y gwaith pellach sy'n digwydd gyda Phlaid Cymru, a dwi'n edrych ymlaen at weld y gwelliannau pellach sydd am gael eu cyhoeddi.
Rŵan, dywed y memorandwm esboniadol, yn rhan 1, fod o’n rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i arfer rhai swyddogaethau yn y modd maent yn ystyried sy'n cyfrannu orau at gyflenwi amcanion rheoli tir yn gynaliadwy—yr SLM—i'r graddau bod hynny’n gyson ag arfer y swyddogaeth honno'n briodol. Y cwestiwn i ni felly ydy: a yw hyn yn rhoi gormod o rym i'r Gweinidog? Sut fydd y Gweinidog ar y pryd yn penderfynu beth sydd yn cyfrannu orau at gyflawni amcanion yr SLM? Beth fydd y ffon fesur? Mae'n sôn am dri philer cynaliadwyaeth—sôn am economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol—felly y rôl i ni wrth graffu fydd sicrhau bod y balans yma yn cael ei gynnal ac nad ydy un elfen yn gorbwysleisio yr elfennau eraill. Sut mae'r Gweinidog felly’n cynnig y bydd hynny yn cael ei wneud yn effeithiol? Felly, er enghraifft, dywed y memorandwm esboniadol:
'Mae cynhyrchu bwyd yn elfen sylfaenol o SLM, fel rhan o gynhyrchu nwyddau i ddiwallu anghenion dyn. Mae gwneud hynny mewn ffordd gynaliadwy yn golygu bod ffermwyr yn sicrhau canlyniadau amgylcheddol a chymdeithasol cadarnhaol'.
Ymhlyg yn y datganiad yna, mae'r pwyslais yn cael ei roi ar anghenion amgylcheddol, nid o reidrwydd anghenion cynhyrchu bwyd. Ydy'r balans yn gywir yma, felly? Dyna'r cwestiwn i ni wrth inni ddechrau ar y gwaith craffu, oherwydd mae yna glorian, onid oes? Yr amcan ydy sicrhau bod y glorian honno yn hafal rhwng anghenion cynhyrchu bwyd a phopeth sydd ynghlwm â hynny yn economaidd ac yn gymdeithasol, ac anghenion amgylcheddol. Pa sicrwydd all y Gweinidog felly roi fod y Bil fel y'i cyflwynwyd yn taro'r cydbwysedd cywir yn y glorian honno?
Mae'r adran ariannu yn benagored. Tra'n adran hollbwysig, ychydig iawn o gig sydd wedi cael ei roi ar yr asgwrn. Bydd y gwaith ar hynny yn digwydd maes o law, wrth gwrs, wrth i reoliadau felly gael eu gosod. Felly, dwi am ofyn i'r Gweinidog pryd mae hi'n rhagweld bydd y manylion ar ariannu a thaliadau ar gael i ni yn y Senedd ac i'r sector amaethol. A pha sicrwydd fedrith hi ei roi y cawn ni fel Senedd gyfle i graffu ar y rheoliadau yma yn llawn pan ddaw'r amser?
Ac i gloi, felly, mae'n afraid dweud fod amaethyddiaeth o bwys anferthol i Gymru, i'n hanes, i'n hunaniaeth, i'n hiaith, i'n heconomi ac i'n dyfodol. Y Bil yma fydd yn golygu naill ai ein bod yn gweld parhad y ffarm fach deuluol Gymreig neu a fyddwn ni'n gweld amaeth yng Nghymru yn dilyn yr un trywydd ag y mae e wedi gwneud mewn cynifer o wledydd eraill, gan arwain at ffermydd mawr a ffermio dwys. Mae'r risg felly yn un mawr ac mae'n rhaid inni sicrhau bod dyfodol ffermio teuluol Cymru yn parhau am genedlaethau i ddod tra bod y ffermydd yma yn chwarae eu rhan yn llawn yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Rwy'n mawr obeithio mai dyma fydd pen draw'r daith yma, ac rwy'n edrych ymlaen i chwarae rhan yn y broses.