Part of the debate – Senedd Cymru am 4:57 pm ar 28 Medi 2022.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o weld fy mod wedi denu tyrfa o'r fath ar gyfer fy nadl ar ddŵr, felly mae hynny'n wych. Hoffwn gadarnhau fy mod wedi cytuno i roi munud o fy amser i Mike Hedges a Sam Kurtz. Roeddwn am godi’r ddadl hon heddiw ar faterion dŵr yng Nghymru am amryw o resymau, a’r prif reswm oedd am fy mod yn credu nad ydym, fel Senedd, yn rhoi digon o sylw i’r heriau a wynebir gan y diwydiant dŵr yn y wlad hon. Yn benodol, o ran cynnal fforddiadwyedd biliau a’r rhan gymhleth y mae’n ei chwarae yn y gwaith o reoli tir a dyfrffyrdd.
Fel y gŵyr pob un ohonom yn y Siambr hon, nid biliau ynni cartrefi a busnesau yw’r unig filiau cyfleustodau y mae’r cynnydd digynsail mewn costau ynni cyfanwerthol yn effeithio arnynt. Nid yn unig fod y diwydiant dŵr yn wynebu costau ynni uwch ei hun, ond yn aml iawn, hwnnw yw'r bil cyntaf sy'n mynd heb ei dalu pan fo defnyddwyr yn ei chael hi'n anodd talu costau. Mae’r diwydiant dŵr felly’n wynebu her anghymesur, yn yr ystyr fod ei gostau’n cynyddu a’i refeniw'n agored i ansefydlogrwydd a dirywiad, sydd yn y pen draw yn cynyddu biliau i gwsmeriaid eraill. Mae hyn yn bwysig, nid yn unig oherwydd yr effaith ar gyllid cartrefi a busnesau, ond oherwydd y goblygiadau hirdymor i’r sector dŵr. O ganlyniad i newid hinsawdd a thwf y boblogaeth, ymhlith ffactorau eraill, ni allwn anwybyddu anghenion y sector dŵr o ran deddfwriaeth briodol a’r gofyniad i ysgogi newid ymddygiad ymhlith ein poblogaeth. Er mwyn gwneud gwell defnydd o’n hadnoddau naturiol, mae angen inni feddwl yn fwy gofalus am ddefnyddio dŵr yn gynaliadwy a’r effeithiau y mae gorlif carthffosiaeth yn eu cael ar ansawdd dŵr ein hafonydd a’n hamgylchedd naturiol.
Yng Nghymru, o’r 1.37 miliwn o aelwydydd sydd gennym, mae nifer syfrdanol, 175,000, yn wynebu tlodi dŵr, sy’n golygu bod dros 5 y cant o incwm eu haelwyd, ar ôl costau tai, yn cael ei wario ar eu biliau dŵr. O’r 175,000 o aelwydydd hynny, dim ond 35 y cant sy’n cael cymorth ariannol i dalu eu biliau dŵr, gan olygu bod 114,000 amcangyfrifedig o aelwydydd yn ei chael hi'n anodd talu eu biliau dŵr. Canfu ymchwil ar y cyd gan y Cyngor Defnyddwyr Dŵr ac Ofwat, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, fod traean o gwsmeriaid yn ei chael hi'n anodd talu biliau’n weddol aml, ac mae hon yn broblem enfawr sy’n cael ei gwaethygu gan y cynnydd digynsail mewn costau ynni a’r cynnydd mewn cyfraddau llog a chwyddiant. Ar hyn o bryd, mae cynlluniau fforddiadwyedd yn wahanol ar gyfer pob cwmni dŵr yng Nghymru, ac mae hyn yn creu problemau, gan fod gennym loteri cod post, bron â bod, o ran eich cymhwystra i gael cymorth ai peidio, a faint.