Part of the debate – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 28 Medi 2022.
Felly, mae CCW, a arferai gael ei alw'n Gyngor Defnyddwyr Dŵr, yn galw ar Lywodraethau Cymru a'r DU i weithredu cynllun fforddiadwyedd dŵr unigol ar gyfer Cymru a Lloegr, er mwyn sicrhau nad oes neb yn ei chael hi'n anodd talu eu bil dŵr. Ac fe hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i annog Llywodraeth Cymru i gefnogi cynllun fforddiadwyedd cyffredinol ledled Cymru a Lloegr, ac i weithio gyda'r Cyngor Defnyddwyr Dŵr, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, a Llywodraeth y DU i helpu i gyflawni hyn. Rwy'n ymwybodol fod Llywodraeth y DU wedi sefydlu gweithgor i archwilio hyfywedd cynllun fforddiadwyedd dŵr unigol, ac yn bwriadu ymgynghori ar y cynnig, gyda'r cynllun arfaethedig yn cael ei ariannu o gronfa ganolog ac yn helpu i sicrhau nad yw'r costau'n anghymesur i'r ardaloedd daearyddol sydd â'r problemau tlodi dŵr mwyaf, fel Cymru. Mewn gwirionedd, mae modelau'n awgrymu y byddai cynllun unigol i'r diwydiant yn debygol o leihau'r croes-gymorthdaliadau cyfartalog presennol ar gyfer biliau dŵr yng Nghymru, gan ddarparu cymorth mwy cynhwysfawr, ac fe fyddwn i felly'n argymell, yn y ffordd gryfaf bosibl, fod Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu'n llawn â'r ymgynghoriad a'r cynnig hwn.
Yn ogystal â'r cynllun fforddiadwyedd hwn, hoffwn annog y Llywodraeth hon hefyd i annog cwmnïau dŵr yng Nghymru i lansio ymgyrchoedd cydgysylltiedig ar lefel genedlaethol i roi gwybod i bobl am y cymorth sydd eisoes ar gael iddynt, a gwneud cymorth sy'n gysylltiedig â dŵr yn fwy gweladwy drwy asiantaethau cynghori eraill, fel y canolfannau cyngor ar bopeth. Credaf y byddai hyn yn gam gwerthfawr i helpu pobl ledled Cymru, yn enwedig gan fod tystiolaeth wedi dangos bod pobl sy'n cael trafferthion gyda dyled ac sy'n fregus yn ariannol yn cymryd dros ddwy flynedd ar gyfartaledd i ofyn am help ac o ganlyniad, mae eu trafferthion ariannol yn aml iawn yn arwain at broblemau iechyd meddwl. Mewn llawer o achosion, gellid bod wedi osgoi'r trafferthion hyn gydag ymyrraeth gynharach ac ymwybyddiaeth o'r cynlluniau fforddiadwyedd a dileu dyledion sydd ar gael iddynt. Hoffwn atgoffa'r Llywodraeth hon a'r Aelodau yma ei bod o fudd i bawb pan fydd y rhai sy'n ei chael hi'n anodd talu biliau dŵr yn cael yr help a'r cymorth sydd ei angen arnynt cyn gynted â phosibl, nid yn unig oherwydd ei fod yn eu helpu hwy i leddfu'r pryder a'r straen sy'n deillio o'i chael hi'n anodd fforddio biliau a rheoli cyllid aelwyd, ond oherwydd bod y ddyled y maent yn mynd iddi yn aml yn cael ei hadennill gan gwmnïau dŵr drwy filiau uwch i gwsmeriaid eraill, a allai fod yn ei chael hi'n anodd hefyd.
I droi at reoli tir a dyfrffyrdd a materion sy'n effeithio ar ein hamgylchedd naturiol, fel newid hinsawdd, rydym yn gwybod bod gan gwmnïau dŵr ddyletswydd gofal i gynnal a gofalu am rannau o'n hamgylchedd naturiol, ac mae'r arian sydd ei angen i wneud hyn yn dod o refeniw biliau. Os caiff sefyllfa ei chreu lle mae cwmnïau dŵr yn mynd yn brin o refeniw oherwydd bod lefelau dileu dyled yn rhy uchel, mae'n lleihau'r arian sydd ar gael i gwmnïau reoli asedau, a allai arwain yn anffodus at lawer o'r problemau amgylcheddol y clywn amdanynt yn y Siambr hon. Yng Nghymru, a ledled y Deyrnas Unedig, mae angen buddsoddiad sylweddol mewn rhwydweithiau dŵr a charthffosiaeth i sicrhau y gallant wrthsefyll pwysau hinsawdd sy'n newid a phoblogaeth sy'n tyfu, er mwyn datblygu ffynonellau dŵr newydd a pharhau i leihau gollyngiadau a gwastraff o'r rhwydwaith. Mae'n hanfodol fod pobl ar incwm isel yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i gadw biliau'n fforddiadwy.
Fel y nododd fy nghyd-Aelod Peter Fox yn ei gwestiwn i'r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, mae Cymru bellach yn swyddogol mewn sychder yn dilyn y cyfnod o bum mis sychaf mewn 40 mlynedd, cyfnod lle na chafwyd ond 61 y cant o'r glawiad blynyddol disgwyliedig rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf yng Nghymru. Felly, mae angen inni feddwl yn ofalus iawn, fel poblogaeth, ynglŷn â sut yr ydym yn defnyddio dŵr. Mae Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Lloegr, NIC, yn argymell, er mwyn mynd i'r afael â'r bwlch cynyddol rhwng cyflenwad a galw, y gellir lleihau traean o'r galw am ddŵr drwy helpu ac annog pobl i newid eu hymddygiad a defnyddio llai o ddŵr. Mae NIC hefyd yn awgrymu y gallai lleihau dŵr fod y cam mwyaf cost-effeithiol y gellid ei gymryd i addasu i newid hinsawdd, a byddai cyflwyno mesuryddion deallus yn gyffredinol yn niwtral o ran cost. Hoffwn herio Llywodraeth Cymru felly i sicrhau bod mesurau cynllunio sychder Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnwys cyfathrebu cyhoeddus ac addysg ar y ffyrdd gorau o ddefnyddio dŵr, yn enwedig gan ein bod yn debygol o brofi tywydd sychder yn amlach, a gofyn iddynt dynnu sylw at unrhyw fentrau y maent yn eu cynllunio ar gyfer y dyfodol. Ar ben hynny hefyd, hoffwn gefnogi galwad y Cyngor Defnyddwyr Dŵr i gael asesiad trylwyr o adnoddau dŵr yng Nghymru a datblygu cydnerthedd y seilwaith cyflenwi, ac i hyn gael ei flaenoriaethu yn rhaglenni gwaith Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru yn y dyfodol.
Yng Nghymru, credaf fod yna islif o farn gyhoeddus sy'n ystyried dŵr fel rhywbeth y ceir digonedd ohono, ac felly, nad oes angen inni fod yn ymwybodol o unrhyw broblemau cyflenwi. Fodd bynnag, nid yw hyn o reidrwydd yn wir. Er bod Cymru'n wlad lle mae gennym ddigon o lawiad, nid oes gennym gapasiti i storio llawer iawn o ddŵr, oherwydd, yn hanesyddol, nid ydym erioed wedi gorfod gwneud hynny. Oni bai ein bod yn mynd i wario symiau enfawr o arian yn cynyddu ein gallu i gadw dŵr, mae angen inni flaenoriaethu newid ymddygiad ac agweddau'r cyhoedd.
Mae angen i Lywodraeth Cymru, yn fy marn i, dalu mwy o sylw i archwilio ffyrdd y gellir annog pobl i leihau'r galw ar gyflenwadau drwy helpu defnyddwyr i newid eu hymddygiad. I ategu hyn, rwy'n credu y gellir gwneud mwy i annog arloesedd a darparu cynhyrchion pellach sy'n effeithlon o ran y defnydd o ddŵr, a fydd yn ei gwneud hi'n haws i bobl arbed dŵr.
Ymhellach, hoffwn ofyn i Lywodraeth Cymru sut y maent wedi pwyso ar gwmnïau dŵr i gyflymu amseroedd ymateb i ollyngiadau gweladwy. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar adeg pan ofynnir i bobl arbed dŵr oherwydd bod y cyfraddau glawiad wedi bod yn isel. Bydd dangos penderfyniad i fynd i'r afael â gollyngiadau yn helpu i annog pobl i wneud newidiadau bob dydd i'w defnydd o ddŵr.
Ar gyfer fy mhwynt olaf, rwyf am drafod yn fras ansawdd dŵr afonydd a gorlifoedd storm. Nid problem i Gymru'n unig yw hon ond un sy'n effeithio ar y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, ac rwy'n credu ei bod yn hanfodol fod gennym ddull cydweithredol o weithio gyda Llywodraeth y DU a'r holl gwmnïau dŵr i wella ansawdd dŵr, ac yn arbennig, i atal carthion rhag gorlifo i afonydd.
Er gwaethaf yr esboniadau niferus ynghylch pam fod gorlifoedd storm yn rhan angenrheidiol o seilwaith carthffosiaeth a nifer gymharol isel o ddigwyddiadau, ni allaf gredu ein bod, yn yr unfed ganrif ar hugain, yn dal i lygru ein hafonydd a'n dyfroedd arfordirol â charthion. Mae hyn yn niweidiol i'r amgylchedd ac yn gallu bod yn beryglus i nofwyr, a'r canfyddiad y mae'n ei roi i dwristiaid a phoblogaeth Cymru yw nad oes ots gennym am ein hamgylchedd, sydd, fel y gŵyr pawb ohonom, ymhell iawn o'r gwir.
Gyda diddordeb cynyddol y cyhoedd yn effaith gorlifoedd storm ar ansawdd dŵr amgylcheddol, credaf y dylai'r Gweinidog gefnogi'r Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i ymestyn ei waith yn adolygu llu o argymhellion ar gyfer cynyddu cydnerthedd y seilwaith dŵr gwastraff, gyda'r nod o leddfu perygl llifogydd i'n cymunedau, sicrhau gwasanaethau carthffosiaeth gwydn a gwarchod yr amgylchedd naturiol, gan ddiogelu economïau lleol hefyd.
Hoffwn ddod â fy nghyfraniad i ben drwy ddweud bod gennym rai heriau difrifol i'r diwydiant dŵr yng Nghymru, o ran helpu pobl i allu fforddio eu biliau ac uwchraddio'r rhwydwaith dŵr a charthffosiaeth i ddarparu mwy o gydnerthedd yn erbyn newidiadau hinsawdd a lleihau effaith carthion ar ein hamgylchedd. Er fy mod yn cydnabod bod llawer o waith da iawn yn digwydd, rhaid inni fod yn ymwybodol fod angen mwy o benderfyniad yn y gwaith hwnnw a mwy o frys i'w gyflawni. Diolch, Ddirprwy Lywydd.