2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru ar 28 Medi 2022.
5. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu'r cyflenwad o fwydydd sy'n dod o ffynonellau lleol? OQ58450
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru'n darparu buddsoddiad a chymorth sylweddol i'r diwydiant bwyd. Mae ein rhaglen masnachu bwyd yn sicrhau archebion cynnyrch Cymreig newydd gan fanwerthwyr, a bydd canllawiau caffael cyhoeddus newydd yn blaenoriaethu buddion economaidd-gymdeithasol ehangach. Bydd ein polisi prydau ysgol am ddim hefyd yn agor cyfleoedd i gyflenwyr a chynhyrchwyr lleol.
Diolch am eich ateb. Wrth gwrs, mae dwy ochr i gynhyrchu bwyd—cyflenwad a galw. Rydym yn nesu'n gyflym at y Nadolig, a bydd pobl yn prynu bwyd o ffynonellau lleol, ac rwy'n credu bod cyfle go iawn yma, efallai'n fwy nag erioed, i ganolbwyntio meddyliau pobl ar brynu'n lleol—y bobl hynny, wrth gwrs, sydd ag unrhyw arian ar ôl i brynu unrhyw beth o gwbl ar ôl y gyllideb hon. Hoffwn ofyn i chi, Weinidog, a wnewch chi weithio gyda chyflenwyr lleol i allu gwerthu eu nwyddau i'r farchnad leol. Rydym wedi gweld llawer o hyn yn ystod y cyfyngiadau symud, a mabwysiadwyd arferion da iawn gan gyflenwyr lleol ar ffurf hamperau bwyd a phethau tebyg. Rwy'n credu y gallem fod yn wynebu argyfwng arall yn y farchnad, felly hoffwn ofyn a ydych chi'n meddwl ar hyd y llinellau hynny, a pharhau a hyrwyddo'r arferion da iawn a welwyd ddwy flynedd yn ôl, ac i gymhwyso hynny yn awr.
Diolch. Rwy'n credu eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn. Yn sicr yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf a'r cyfyngiadau symud dilynol, ond yn ystod y pandemig, mewn gwirionedd, rwy'n credu bod llawer o bobl wedi mynd ati am y tro cyntaf i brynu gan eu cigyddion lleol, eu marchnad leol, ac fel y dywedwch, daeth llawer o'n cynhyrchwyr bwyd a diod o hyd i ffyrdd newydd o werthu eu cynnyrch yn lleol.
Mae hi'n dymor y gwyliau bwyd—ar ôl sioeau amaethyddol yr haf, rwy'n credu ein bod ni'n troi at gyfnod y gwyliau bwyd. Roeddwn yn fy etholaeth ddydd Sadwrn yng Ngwledd Wrecsam, ac roedd hi'n wych gweld cymaint o gynhyrchwyr lleol yno. Mae Gŵyl Fwyd Llangollen ar y gorwel, ynghyd ag Aberhonddu, ac rwy'n siŵr fod pawb am weiddi enwau eu gwyliau bwyd lleol yn awr. Mae'n gyfle da iawn, ac rwy'n falch iawn fel Llywodraeth ein bod ni'n gallu cefnogi'r gwyliau bwyd lleol hyn, oherwydd efallai y bydd rhywun yn mynd yno am y tro cyntaf a chyfarfod â chynhyrchwyr lleol nad ydynt wedi'u gweld o'r blaen o bosibl, ac yna'n parhau i wneud hynny. Felly, rwy'n credu bod yna gyfle enfawr, ac rwy'n hapus iawn i allu cefnogi cymaint o wyliau bwyd â phosibl.
Mae pandemig COVID-19, rhyfel Wcráin, ac wrth gwrs, ein hargyfwng hinsawdd wedi ei gwneud hi'n gwbl glir fod rhaid i ni leihau ein dibyniaeth ar fwyd wedi'i fewnforio. Wrth gwrs, gall y sector bwyd a ffermio Cymreig gwerth £8.5 biliwn ein helpu i wneud hynny, ac mae angen inni ddiolch i'n ffermwyr yng Nghymru, sy'n chwarae rhan enfawr yn y gwaith o gynhyrchu cynnyrch lleol sy'n hinsawdd-gyfeillgar ac o safon uchel. Nawr, rydym yn croesawu'r Bil Amaeth (Cymru), ond mae un diffyg sylweddol a sylfaenol ynddo. Er i chi nodi'n gwbl briodol mai cynhyrchu bwyd ddylai fod yn amcan cyntaf, nid yw hynny'n cyd-fynd mewn gwirionedd â gorfodi ein ffermwyr i bob pwrpas i gael gorchudd coed dros 10 y cant o'u tir drwy'r cynllun ffermio cynaliadwy, a'r mesur ofnadwy hwnnw o ehangu'r parthau perygl nitradau o 2.4 y cant i 100 y cant o dir ffermio Cymru. Nawr, yn hytrach na chefnogi fy ffermwyr yn Aberconwy i gynhyrchu bwyd lleol sy'n hinsawdd-gyfeillgar, yr hyn y maent yn ei weld yw Llywodraeth Cymru—ac maent yn dweud hyn wrthyf—sy'n codi bwyell at eu busnesau, yn torri eu gallu i gynhyrchu a'u gobaith o oroesi. Felly, a wnewch chi sicrhau nad amcan deddfwriaethol yn unig yw cynhyrchu bwyd a'i fod yn dod yn realiti, ac a wnewch chi hefyd adolygu rhai o'r beichiau rheoleiddiol a osodwyd gennych cyn yr argyfyngau a ddisgrifiais yn awr, fel bod gan ein ffermwyr obaith da o leiaf o gynhyrchu a darparu'r bwyd lleol y mae cymaint o'i angen arnom i gyd?
Nid wyf yn credu bod yna ddiffyg. Credaf ei bod yn agenda gyflenwol. Felly, mae’n wirioneddol bwysig fod ein ffermwyr yn cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, ac maent yn gwneud hynny, a byddant yn cael eu gwobrwyo am hynny; mae hynny'n gwbl briodol. Mae'r gorchudd coed o 10 y cant y gofynnwn amdano'n golygu rhannu'r baich ledled Cymru. Os nad yw ffermwyr yn dymuno plannu coed, nid oes raid iddynt blannu coed, ond i mi, mae'n amlwg mai hwy yw'r bobl y byddem yn gofyn iddynt wneud hynny yn y lle cyntaf, ond os nad ydynt yn dymuno gwneud hynny, nid oes raid iddynt; nid oes raid iddynt fod yn rhan o’r cynllun.
Nid oes y fath beth â pharthau perygl nitradau bellach. Gwnaethom gyflwyno'r rheoliadau diogelu ansawdd dŵr rhag llygredd amaethyddol; mae'r parthau perygl nitradau wedi mynd. Mae gennym ein huchelgeisiau sero net. Mae gennym ein targedau hinsawdd i’w cyflawni, ac mae arnaf ofn—. Rydym yn gweld effaith newid hinsawdd yn awr. A gwyddom y bydd ffermwyr cenedlaethau'r dyfodol yn ffermio o dan amgylchiadau anodd iawn a gwahanol iawn i nawr. Gallwn weld y tywydd yn newid; nid oes ond angen ichi edrych ar yr haf hwn, ac ar yr hyn y mae'n rhaid iddynt ymgodymu ag ef.
Dylwn ddweud mai un o'r pethau y gallem eu gwneud i gefnogi ein ffermwyr—a hoffwn alw ar bob Aelod yn y Siambr hon, ac mae hynny'n cynnwys Aelodau o'ch grŵp chi—yw lobïo Llywodraeth y DU i sicrhau nad ydym yn colli'r un geiniog o'r gyllideb amaethyddol, fel y cafodd ei haddo i ni.