Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 28 Medi 2022.
Diolch. Wel, cyhoeddodd y Prif Weinidog ddatganiad ysgrifenedig ar 1 Awst, ac roedd hwnnw'n nodi rhaglen waith fanwl a chamau gweithredu y cytunwyd arnynt yn yr uwchgynhadledd a gynhaliodd yn Sioe Frenhinol Cymru ym mis Gorffennaf i fynd i’r afael â llygredd ffosfforws yn afonydd ardaloedd cadwraeth arbennig Cymru. Yn fy marn i, ni ellir datrys yr argyfwng hwn drwy un mesur unigol. Nid oes ateb cyflym, a chredaf mai’r hyn yr oedd y Prif Weinidog am ei gyfleu yn yr uwchgynhadledd honno oedd bod angen dull tîm Cymru o weithredu, lle mae gennym y Llywodraeth, y rheoleiddwyr a’r holl sectorau perthnasol yn gweithio gyda’i gilydd yn y tymor byr a’r tymor canolig i wireddu'r canlyniadau hirdymor yr ydym am eu gweld i wella ansawdd dŵr yn ein hafonydd.