Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 28 Medi 2022.
Diolch, Weinidog. Mae gwaith modelu Asiantaeth yr Amgylchedd yn awgrymu bod ffynonellau llygredd yn afon Gwy yn dod yn bennaf o amaethyddiaeth. Gwyddom fod llygredd ffosfforws yn achosi proses ewtroffigedd mewn afonydd, mater hynod broblemus sy'n achosi tyfiant gormodol o algâu, sy'n mygu ac yn rhwystro golau rhag cyrraedd planhigion ac anifeiliaid dyfrol eraill. Dywedodd CNC fod
'ymlediad ffosfforws yn gyffredin yn afonydd ACA Cymru gyda dros 60% o'r cyrff dŵr yn methu yn erbyn y targedau heriol a osodwyd.'
A yw’r Gweinidog yn cytuno â mi yn awr fod angen i dargedau o’r fath fod yn ofyniad cyfreithiol, yn hytrach na tharged yn unig?