5. Cynnig i gymeradwyo'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y Chweched Senedd a nodi'r adroddiad blynyddol ar y Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer 2021-22

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 28 Medi 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:25, 28 Medi 2022

Mi symudaf i ymlaen rŵan at y cynllun ieithoedd swyddogol newydd ar gyfer y chweched Senedd. Mi fydd y rheini sy’n gyfarwydd â’r cynllun ieithoedd swyddogol ar gyfer y bumed Senedd yn gweld yn syth ein bod ni wedi gwneud newid eithaf sylweddol i ddiwyg y cynllun ar gyfer y chweched Senedd. Mae hyn mewn ymateb i sylwadau gan Aelodau a staff ynglŷn â hyd y ddogfen, o bosib, ac ambell dro beth oedd yn cael ei weld efallai fel natur ychydig yn amwys i rai elfennau o’r safonau gwasanaeth. Wrth ddrafftio’r cynllun ar gyfer y chweched Senedd felly, mi oedd yna ymdrech fwriadol i gwtogi rhywfaint ar y naratif ac i lunio safonau gwasanaeth mwy penodol, a'u gwneud nhw mor glir ag sy'n bosib. Ein gobaith ni ydy y bydd hyn yn creu dogfen sy’n fwy perthnasol ac yn haws i’w defnyddio i’n holl randdeiliaid ni.

Rydyn ni hefyd wedi cyfuno’r strategaeth sgiliau iaith, oedd yn arfer bod yn ddogfen ar wahân, efo’r cynllun ei hun. Wrth drafod efo rhanddeiliaid a defnyddwyr dros gyfnod y bumed Senedd, y teimlad oedd bod y strategaeth yn rhan annatod mewn difrif o’r cynllun ieithoedd swyddogol ac felly y byddai’n fwy synhwyrol cyfuno’r ddwy ddogfen yn un. Cawn ni weld os ydych chi'n cytuno â hynny. Mi fydd hyn, dwi’n meddwl, nid yn unig yn sicrhau ein bod ni’n cadw gofynion y strategaeth mewn cof wrth ddatblygu a darparu gwasanaethau dwyieithog yn y dyfodol, ond mi fydd o hefyd yn ei gwneud hi’n haws i Aelodau ein dal ni i gyfrif ar y cynnwys yn ystod y dadleuon blynyddol fel hyn, ac mae hynny'n bwysig iawn, wrth gwrs.

Yn unol â gofynion y Ddeddf, mae’r cynllun ar gyfer y chweched Senedd hefyd yn nodi’r meysydd gwaith hynny y bydd Comisiwn y Senedd yn canolbwyntio arnyn nhw dros gyfnod y chweched Senedd, a hynny ar ffurf themâu. Mae’r themâu yn cynnwys amcanion fydd yn llywio ein gwaith ni ac yn sicrhau ein bod ni, gobeithio, yn parhau i ddarparu gwasanaeth dwyieithog o’r radd flaenaf. Rydyn ni’n trio gwella a chryfhau’r gwasanaethau o hyd. Mi fyddwn ni, er enghraifft, yn adolygu’r systemau recriwtio o ran gofynion sgiliau iaith a gafodd eu rhoi ar waith yn ystod y bumed Senedd. A dweud y gwir, ein teimlad ni ydy mai mireinio a chynnal safonau ydy prif ddiben y themâu, er mwyn sicrhau ein bod ni'n cynnal ein henw da fel sefydliad gwirioneddol ddwyieithog sy’n arwain y ffordd yn y maes yma. A thra ein bod ni'n chwilio wastad, fel dwi'n ei ddweud, am gyfleoedd i ddysgu oddi wrth eraill, rydyn ni hefyd yn eiddgar iawn i rannu’n profiadau ni a’n harbenigedd efo eraill.

A ninnau bellach wedi dod i arfer efo’r normal newydd yn dilyn y pandemig, mi fyddwn ni, fel y gwnes i gyfeirio ato fo’n gynharach, hefyd yn cyflwyno thema fydd yn nodi sut y byddwn ni'n dysgu o’n profiadau yn ystod y pandemig, yn benodol o ran y defnydd o’n hieithoedd swyddogol mewn trafodion, ond hefyd yn gyffredinol o ran yr heriau a’r cyfleoedd sydd wedi codi o ran darparu gwasanaethau dwyieithog.

Fel y gwyddoch chi, cyn y gall cynllun ieithoedd swyddogol newydd gael ei gyflwyno, mae’n rhaid i Gomisiwn y Senedd ymgynghori ar y cynnwys ac ystyried unrhyw sylwadau a ddaw i law drwy'r broses honno. Mi ddigwyddodd yr ymgynghoriad hwnnw ar sawl ffurf, gan gynnwys trafodaethau wyneb yn wyneb ac ar-lein, cyflwyno sylwadau ar ffurf electronig, ac ymgynghoriad ffurfiol ar ein gwefan ni hefyd, a buaswn i'n licio defnyddio'r cyfle yma i ddiolch i bawb a wnaeth ein helpu ni drwy'r broses honno i lunio'r cynllun fel ag y mae o erbyn hyn. Mi oedd pob un sylw yn werthfawr ac yn ddefnyddiol. Diolch yn arbennig i’r Aelodau a’u staff cymorth am eu hamser a’u sylwadau, a hefyd i’r pwyllgor diwylliant am gymryd amser i ystyried drafft. Mi gawson ni sylwadau hefyd gan sefydliadau allanol, a mewnbwn gan yr undebau llafur a staff Comisiwn y Senedd. Ac wrth gwrs dwi’n ddiolchgar tu hwnt i’r tîm wnaeth roi y cyfan at ei gilydd.

Wrth orffen am y tro, mi liciwn i ategu’r hyn ddywedais i yn y rhagair i’r cynllun newydd, sef ein bod ni fel Senedd yn gwasanaethu cenedl amrywiol, cenedl sy’n cynnwys yr ystod lawn o allu ieithyddol, cenedl aml-ddiwylliannol. Mae pobl Cymru yn disgwyl ein gweld ni yn gosod y safonau uchaf posibl ar draws ein holl wasanaethau, a gadewch i fi ddweud hyn: mae Senedd Cymru yn sefydliad i bawb, mae'r iaith Gymraeg yn iaith i bawb, ac mae’r cynllun yma, dwi'n ffyddiog, yn gosod fframwaith ar gyfer darparu gwasanaethau dwyieithog sy’n cefnogi pawb, sy’n eu hannog nhw i fynegi eu hunaniaeth, ac i wneud defnydd o'u sgiliau iaith waeth bynnag yw lefel y sgiliau hynny. Dwi'n edrych ymlaen at y cyfraniadau. Diolch yn fawr iawn ichi.