5. Cynnig i gymeradwyo'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y Chweched Senedd a nodi'r adroddiad blynyddol ar y Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer 2021-22

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 28 Medi 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:20, 28 Medi 2022

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae'n bleser cyflwyno dwy ddogfen gerbron y Senedd heddiw, sef yr adroddiad blynyddol ar gynllun ieithoedd swyddogol y Senedd ar gyfer 2021-22, a'r cynllun ieithoedd swyddogol ar gyfer y chweched Senedd.

Gadewch i fi droi, yn y lle cyntaf, at yr adroddiad blynyddol. Mi fydd Aelodau yn gyfarwydd efo'r drefn o gynnal dadl flynyddol ar ein gwaith dros y flwyddyn. Yn unol â gofynion Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012, mae'n rhaid i Gomisiwn y Senedd adrodd yn flynyddol ar ei waith yn darparu gwasanaethau dwyieithog, ac unrhyw gwynion neu achosion fu o fethu â chydymffurfio. Yn ôl yr arfer, mi gafodd yr adroddiad ei gyhoeddi ar y cyd ag adroddiad blynyddol a chyfrifon Comisiwn y Senedd, a'r adroddiadau blynyddol ar amrywiaeth a chynhwysiant a chynaliadwyedd, fis Mehefin.

Eleni, mae gwaith y tîm ieithoedd swyddogol wedi canolbwyntio yn bennaf ar y broses o baratoi'r cynllun ieithoedd swyddogol ar gyfer y chweched Senedd—mi fyddaf i'n troi at y cynllun hwnnw yn nes ymlaen—a chau pen y mwdwl ar gynllun y bumed Senedd.

Dros y flwyddyn, mi groesawyd nifer fawr o Aelodau newydd o'r Senedd, wrth gwrs, ac mi fu'r tîm yn gweithio efo'r Aelodau hynny i sicrhau eu bod nhw'n ymwybodol o ofynion y cynllun, a hefyd i sicrhau eu bod nhw'n gallu gweithio yn eu dewis iaith neu ieithoedd swyddogol yn ddiofyn. Dwi eisiau diolch i'r holl Aelodau a'u staff cymorth nhw hefyd am eu cefnogaeth wrth inni roi gofynion y cynllun ar waith, ac am gynnig adborth, sydd mor bwysig, ar ein gwasanaethau dwyieithog.  

Wrth sôn am wasanaethau dwyieithog, mae'n bwysig hefyd nodi bod nifer y dysgwyr sy'n derbyn gwersi gan y tîm tiwtora wedi cynyddu; mae hynny'n dda iawn i'w weld bob amser wrth gwrs, p'un ai'n Aelodau gafodd eu hailethol yn dychwelyd i'w gwersi neu'n ddysgwyr cwbl newydd. Mae'n braf gweld yr Aelodau sy'n dysgu wedyn yn defnyddio eu sgiliau mewn trafodion, a'r ffordd y mae eu cyd-Aelodau nhw ar draws y Senedd yn dathlu eu llwyddiannau wrth iddyn nhw gyfrannu, am y tro cyntaf o bosib, yn gyhoeddus yn y Gymraeg. Nid peth hawdd ydi mentro ac mae'r gefnogaeth honno yn bwysig er mwyn annog Aelodau i gario ymlaen i ddysgu, ar un llaw, ond yn bwysicach, mae'n siŵr, i ddefnyddio eu Cymraeg.

Mi fydd Aelodau yn ymwybodol o'r wybodaeth ystadegol sy’n rhan o'r adroddiadau blynyddol erbyn hyn. Mae'r wybodaeth yn bwysig. Mae o'n caniatáu inni fonitro sawl maes, gan gynnwys nifer y swyddi sy'n cael eu hysbysebu ar lefel cwrteisi, neu sydd â gofyniad am sgiliau ar lefel uwch na hynny, sy'n rhan o'n prosesau cynllunio ieithyddol parhaus. Rydyn ni hefyd yn monitro canran y cyfraniadau cyfrwng Cymraeg sy'n cael eu gwneud mewn Cyfarfodydd Llawn fel hyn, neu mewn cyfarfodydd pwyllgorau. Mae casglu gwybodaeth o'r math yma yn ein helpu ni i fonitro effeithiolrwydd y gefnogaeth sydd ar gael i Aelodau, i'w helpu nhw i ddefnyddio'u dewis iaith wrth baratoi ac wrth gymryd rhan mewn trafodion. Mi fyddwn ni'n parhau i fonitro ac i chwilio am ffyrdd o annog a thyfu hyder i ddefnyddio'r Gymraeg, ac i ddeall a chael gwared ar y rhwystrau sydd yn bodoli o bryd i'w gilydd, er mwyn sicrhau bod y patrwm sydd ar y cyfan yn bositif yn parhau.

Ac wrth gwrs, mae hyn yr un mor bwysig wrth hwyluso pobl sy'n dod i gyswllt efo'r Senedd, i'w cael nhw i deimlo’n gyfforddus yn defnyddio'r Gymraeg—tystion i bwyllgorau ac yn y blaen. Dwi wedi sôn o'r blaen fy mod i'n credu bod gweithio ar-lein o ganlyniad i'r pandemig wedi tynnu rhai o'r rhwystrau mewn rhai ffyrdd, bod cyfieithu'n digwydd yn gwbl naturiol ac yn llifo'n haws, mewn llawer o ffyrdd, heb yr angen am roi a thynnu clustffonau ac ati. Mae eisiau dysgu o hynny, dwi'n meddwl, ar gyfer cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu hybrid hefyd.

Cyn imi droi at y cynllun newydd, mae'n werth imi dynnu sylw at y ffaith na chafodd unrhyw gwynion eu derbyn eleni am ein gwasanaethau dwyieithog, a phrin iawn hefyd fu'r nifer o achosion o fethu â chydymffurfio efo'r cynllun—adlewyrchiad, efallai, o'r ffaith bod egwyddorion y cynllun wedi eu gwreiddio go iawn i brosesau a gwaith bob dydd y sefydliad. Wrth gwrs, pan fydd achosion o’r fath yn codi, mi fyddwn ni yn sicrhau ein bod ni’n cymryd camau i unioni’r sefyllfa ac yn cofnodi ac yn rhannu unrhyw wersi sydd angen eu dysgu er mwyn osgoi achosion tebyg rhag codi yn y dyfodol. Dysgu ydym ni o hyd.