Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 4 Hydref 2022.
Rwy'n cofio, Prif Weinidog, eich bod wedi ymdrechu i reoli'r arfer o ddefnyddio e-sigaréts pan wnaethoch chi gyflwyno'r Bil yn 2015, ond doedd dim cefnogaeth gan y meinciau Ceidwadol ar gyfer y mesur hwn felly bu'n rhaid tynnu'n ôl. Felly, rwy'n falch o weld bod y strategaeth rheoli tybaco yn cydnabod bod e-sigaréts yn borth i smygu, ac mae gennym epidemig gwirioneddol erbyn hyn ymhlith pobl ifanc o smygu e-sigaréts. Tybed pa gynlluniau, os o gwbl, sydd gan Lywodraeth Cymru i wahardd hyn mewn ysgolion a cholegau, oherwydd, heb os, mae'r cwmnïau tybaco yn ei ddefnyddio fel ffordd o gael pobl i smygu, a gwyddom ei fod mor niweidiol.