1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 4 Hydref 2022.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i helpu i hyrwyddo e-sigarennau i annog ysmygwyr presennol i roi'r gorau i ysmygu? OQ58468
Llywydd, mae ein dull o weithredu o ran e-sigaréts wedi'i nodi yn ein strategaeth rheoli tybaco a'i chynllun cyflawni, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf eleni. Fel y nodir yn y cynllun, byddwn yn comisiynu adolygiad ar sail tystiolaeth o'r defnydd o e-sigaréts yng Nghymru.
Diolch Prif Weinidog. Yn fy ardal i yn y de-ddwyrain, mae'r gyfradd smygu uchaf ym Merthyr Tudful mewn gwirionedd, lle mae 23 y cant o oedolion yn smygwyr. Mae hyn yn uwch na chyfartaleddau Cymru a'r DU. Os yw Cymru am gyrraedd ei tharged di-fwg erbyn 2030, yna bydd angen i gyfradd y rhai sy'n rhoi gorau i smygu gynyddu 40 y cant. Canfu astudiaeth ddiweddar gan Brifysgol y Frenhines Mary, a gefnogir gan Cancer Research UK, y gallai defnyddio e-sigaréts fod ddwywaith mor effeithiol â thriniaethau disodli nicotin traddodiadol wrth helpu smygwyr i roi'r gorau iddi. Mae sawl adolygiad, gan gynnwys y rhai gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr a Choleg Brenhinol y Meddygon y DU, wedi canfod nad oes unrhyw risgiau i iechyd pobl yn smygu e-sigaréts yn oddefol yng nghyffiniau smygwyr. Felly, nid yw'r dystiolaeth bresennol yn cyfiawnhau gwahardd smygu e-sigaréts mewn mannau cyhoeddus. Prif Weinidog, ydych chi'n cytuno ei bod hi'n hanfodol bod smygwyr yn deall bod newid i e-sigaréts yn debygol o leihau eu risg o niwed yn sylweddol o'i gymharu â smygu sigaréts confensiynol, a beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i annog y GIG yng Nghymru i weithio gyda chwmnïau e-sigaréts i gyflenwi'r rhai sy'n dymuno rhoi'r gorau i smygu â'u cynnyrch er mwyn eich helpu i gyrraedd eich targed o Gymru ddi-fwg erbyn 2030?
Wel, Llywydd, gadewch i mi yn gyntaf oll dalu teyrnged i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r ymgyrchoedd rhoi'r gorau i smygu yng Nghymru yn ddiweddar. Yn 2012, fe wnaethom osod targed ar gyfer lleihau smygu yng Nghymru—pa mor gyffredin yw smygu—i 20 y cant erbyn 2016. Fe wnaethom ragori ar hynny; fe wnaethom gyrraedd 18 y cant erbyn 2015. Yna fe osodom ni darged arall i gyrraedd 16 y cant erbyn 2020. Fe wnaethom ragori ar hwnnw eto, a'r lefel bresennol o nifer yr achosion o smygu yng Nghymru yw'r isaf y mae wedi bod erioed ers i'r cofnodion hyn ddechrau, sef 13 y cant. Felly, heb os, rydym wedi cael llwyddiant sylweddol iawn. Mae'n un o newidiadau cymdeithasol mawr fy oes, rwy'n credu, fy mod wedi gweld y ffordd y mae nifer yr achosion o smygu wedi lleihau.
Pan fo pobl yn rhoi'r gorau i ddefnyddio tybaco ac yn smygu e-sigaréts, yna, heb os, mae e-sigaréts yn llai niweidiol na sigaréts confensiynol. Yn anffodus, y dystiolaeth yw, bod y rhan fwyaf o bobl yn defnyddio e-sigaréts yn ogystal â sigaréts confensiynol, nid yn eu lle nhw. Mae 85 y cant yn ôl astudiaethau diweddar yn achosion o ddefnydd deuol, ac nid yw defnydd deuol, mae gennyf ofn, yn cael gwared ar y niwed a ddaw yn sgil smygu sigaréts confensiynol. Mewn gwirionedd, mae'n achosi niwed ychwanegol, yn enwedig mewn cysylltiad â chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint. Felly, yn y termau a ddefnyddiodd yr Aelod, rwy'n cytuno â hi—os gallwn ni berswadio pobl i newid o sigaréts confensiynol i e-sigaréts, maen nhw'n bendant yn llai niweidiol. Y dystiolaeth yw nad ydym yn llwyddo i wneud hynny, ac mae pobl sy'n credu bod ychwanegu un sigarét at y repertoire gan gredu bod hynny yn eu helpu, wel rwy'n ofni bod y dystiolaeth a geir yn dangos yn bendant nad yw'n helpu dim.
Rwy'n cofio, Prif Weinidog, eich bod wedi ymdrechu i reoli'r arfer o ddefnyddio e-sigaréts pan wnaethoch chi gyflwyno'r Bil yn 2015, ond doedd dim cefnogaeth gan y meinciau Ceidwadol ar gyfer y mesur hwn felly bu'n rhaid tynnu'n ôl. Felly, rwy'n falch o weld bod y strategaeth rheoli tybaco yn cydnabod bod e-sigaréts yn borth i smygu, ac mae gennym epidemig gwirioneddol erbyn hyn ymhlith pobl ifanc o smygu e-sigaréts. Tybed pa gynlluniau, os o gwbl, sydd gan Lywodraeth Cymru i wahardd hyn mewn ysgolion a cholegau, oherwydd, heb os, mae'r cwmnïau tybaco yn ei ddefnyddio fel ffordd o gael pobl i smygu, a gwyddom ei fod mor niweidiol.
Wel, Llywydd, mae Jenny Rathbone yn hollol iawn—un o'r prif gymhellion ar gyfer y Bil Iechyd Cyhoeddus a fethodd â phasio yn 2016 oedd yr awydd i amddiffyn plant rhag y porth i gaethiwed nicotin sy'n cael ei gynrychioli gan fygythiad e-sigaréts i blant a phobl ifanc. Ac, yn drist iawn, mae'r dystiolaeth ddiweddaraf ynghylch hynny yn siomedig iawn. Ar lefel y DU, cynyddodd nifer y plant a phobl ifanc a nododd eu bod yn defnyddio e-sigaréts o 4 y cant yn 2020 i 7 y cant yn 2022, ac roedd hynny ymhlith pobl ifanc 11 i 17 oed. Ac mae llanw ar draws y byd sy'n llifo hyd yn oed yn gyflymach na hynny. Bydd Aelodau yma wedi gweld, mae'n siŵr, gyngor Llawfeddyg Cyffredinol yr Unol Daleithiau, yn rhoi cyngor iechyd cyhoeddus i wladwriaethau ar draws America sef bod yn rhaid i ni gymryd camau ymosodol—camau ymosodol—i amddiffyn ein plant rhag y cynhyrchion hynod rymus hyn. Mae e-sigaréts yn cynnwys nicotin; mae nicotin yn gaethiwus iawn. Mae nicotin yn arbennig o niweidiol i ymennydd pobl ifanc sydd wrthi'n datblygu; yn wir, mae'n parhau i achosi niwed i'r ymennydd hyd at 25 oed. Felly, pa bynnag gamau y gallem eu cymryd i gael y manteision iechyd cyhoeddus sy'n deillio o oedolion sydd wirioneddol yn defnyddio e-sigaréts i roi'r gorau i sigaréts confensiynol, rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn plant rhag y ffordd y mae defnyddio e-sigarét yn dod yn offeryn caethiwus, sydd wedyn yn arwain at ganlyniadau gwaeth fyth.