Part of the debate – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 4 Hydref 2022.
Ledled ein rhanbarthau ni i gyd, mae ein gwasanaeth Busnes Cymru yn helpu i ysbrydoli unigolion i ymgymryd â mentrau a sicrhau bod microfusnesau a busnesau bach a chanolig yn gallu cael gafael ar gefnogaeth. Rwyf i wedi ymrwymo i ddarparu £20.9 miliwn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2025, gan ymestyn asgwrn cefn gwasanaeth Busnes Cymru y tu hwnt i ddiwedd nawdd gan yr UE yn 2023. Mae hyn yn cynnwys cyngor a chefnogaeth ymroddedig i'n sector mentrau cymdeithasol ni. Wrth gynnig siop-un-stop ar gyfer cefnogaeth, rwy'n cydnabod na all Busnes Cymru gyflawni'r holl gymorth busnes lleol y mae entrepreneuriaid, busnesau micro a busnesau bach a chanolig yn gofyn amdano yng Nghymru. O'r herwydd, bwriad y gwasanaeth yw adeiladu ar ei gryfderau o ran bod yn gynnig a estynnir yn genedlaethol sy'n ategu darpariaeth leol a chyfleoedd ariannu sydd ar gael i'r trydydd sector a'r sector cyhoeddus yn fwy eang.
Dirprwy Lywydd, fel gwyddoch chi, mae porthladdoedd Cymru yn ased cenedlaethol anhygoel ac yn rhan gynhenid o'n hanes, ein heconomi a'n ffordd ni o fyw. Rydym ni wedi cytuno â Llywodraeth y DU o ran darparu rhaglen o borthladdoedd rhydd yng Nghymru, a ddylai gefnogi ein cenhadaeth economaidd i ddatblygu'r nod sylfaenol o sicrhau twf cynhwysol. Rwy'n edrych ymlaen at dderbyn ceisiadau uchelgeisiol ac arloesol sy'n cynnig y posibilrwydd o fanteision cynaliadwy, yn economaidd a chymdeithasol i Gymru. Mae ein neges ni'n eglur yn y prosbectws: mae'n rhaid i'r rhaglen porthladdoedd rhydd gyfrannu at ein hamcanion ehangach ni yng Nghymru, nid dwyn oddi arnyn nhw, ar gyfer llunio Cymru gryfach, tecach, gwyrddach. Dyna enghraifft arwyddocaol o sut y gall Llywodraethau gydweithio mewn partneriaeth gydradd.
Dirprwy Lywydd, mae perfformiad economaidd ein rhanbarthau ni'n cael ei effeithio gan yr amgylchiadau macro-economaidd eithafol a wynebwn ni ar hyn o bryd, wrth gwrs. Yn ogystal â her ddeuol ymadael â'r Undeb Ewropeaidd a phandemig COVID, rydym ni'n wynebu bygythiadau byd-eang i'n diogelwch ni o ran ynni a'r sioc o ran telerau masnachu sydd wedi cyfuno i achosi codiadau dramatig mewn prisiau i bawb. Anfonodd datganiad cyllidol atchweliadol heb ei ariannu gan Lywodraeth y DU donnau sioc drwy ein heconomi ni, gan sbarduno ymateb o'r farchnad a fydd yn diddymu llawer o'r gefnogaeth a gafodd ei gadarnhau i gartrefi a busnesau. Bydd effaith barhaol y datganiad yn golygu costau uwch ar bob haen o lywodraeth ac mae ein setliad ni yn £4 biliwn yn llai o werth na'r hyn yr oedd pan gafwyd yr adolygiad cynhwysfawr o wariant.
Mae'r gwrthodiad o bolisi diwydiannol ar lefel y DU yn cosbi rhanbarthau a gwledydd y tu hwnt i Lundain a'r de-ddwyrain yn benodol. Yn hytrach, mae hynny'n rhoi argraff amlwg nad yw Llywodraeth newydd y DU yn eu hystyried nhw—ni—yn hanfodol i lwybr twf y DU. Nid yw cynlluniau ffyniant bro, fel maen nhw, yn gwneud cyfiawnder â'r broblem hon mewn unrhyw ffordd, gan achosi dyblygu a chanlyniadau gwael o ran cael gwerth am arian gwael wrth danseilio datganoli hefyd. Mae'r arian sy'n cefnogi agenda ffyniant bro fel y'i gelwir yn golygu colled i Gymru o £1.1 biliwn erbyn 2025, o'i gymharu ag addewid maniffesto Llywodraeth y DU i gyfateb maint cronfeydd yr UE i Gymru. Mae Llywodraeth y DU yn defnyddio'r cronfeydd hyn i gefnogi ei blaenoriaethau ei hun mewn meysydd datganoledig lle nad oes mandad ganddi hi. Mae'n amlwg bod maes canolbwyntio Multiply, er enghraifft, yn rhy gyfyng ac y bydd yn dyblygu darpariaeth ddatganoledig, gan arwain at wastraff y gellir ei osgoi a chynnig gwerth gwael am arian. Mae'r gronfa ffyniant a rennir o'r pen i'r gwaelod yn cynrychioli heriau tebyg, ac fe gafodd ei nodweddu gan oedi o fewn dull didoreth a feirniadir yn eang gan leisiau annibynnol arbenigol ar lefel Cymru a'r DU. Fe fydd y gronfa ffyniant a rennir yn dwysáu'r anghydraddoldebau presennol hefyd gan nad yw hi'n cael ei dyrannu ar sail angen. Yn hytrach, mae swm cyffredinol llai yn cael ei wyro i ffwrdd oddi wrth ein cymunedau mwyaf difreintiedig ni yn yr amser gwaethaf posibl.
Dirprwy Lywydd, mae Gweinidogion y DU sy'n gyfrifol am yr arian newydd hwn yn gwybod eu bod nhw'n wynebu problemau sylweddol o ran cyflenwi. Ni fu unrhyw ymgynghori â llywodraeth leol Cymru ynglŷn â'r arian ac fe'u cadwyd nhw yn y tywyllwch wrth i'r cyhoeddiadau oddi wrth Whitehall gael eu gohirio yn aml. Yn y bôn, mae hyn yn tanseilio gallu pob un o'r partneriaid i gynhyrchu cynlluniau cydgysylltiedig sy'n diwallu anghenion ein cymunedau ni. Mae hi'n dod yn gynyddol amlwg bod Gweinidogion y DU yn awyddus i grafangu pwerau yn ôl ond heb ddiddordeb mewn cymryd cyfrifoldeb amdanyn nhw. Mae hi'n hanfodol fod y gwersi cywir yn cael eu dysgu o'r ymosodiad milain hwn ar ddatganoli, ac fe fyddwn ni'n herio unrhyw ymgais a wneir gan Weinidogion y DU i symud y bai am eu camgymeriadau costus ar awdurdodau lleol Cymru. Dirprwy Lywydd, bydd y Llywodraeth hon yng Nghymru yn parhau i fuddsoddi mewn rhanbarthau cryfach a neilltuol i gefnogi economi Gymreig decach a gwyrddach. Rwy'n edrych ymlaen at ddiweddaru Aelodau wrth i ni ddatblygu ein cynlluniau uchelgeisiol ni i'w cyflawni nhw ar draws y pedwar rhanbarth i gyd.