Part of the debate – Senedd Cymru am 4:21 pm ar 4 Hydref 2022.
Os caf i ddechrau gyda'r pwynt olaf, dwi'n cytuno gyda'r Dirprwy Weinidog—rwy’n credu mai camsyniad yw parhau i ddweud y bydd y dreth dwristiaeth yn atal pobl rhag dod i Gymru. Mewn gwirionedd, y gwir fygythiad i dwristiaeth yn y gogledd ac yng Nghymru yn gyffredinol yw costau ynni sy'n effeithio ar fusnesau a'r argyfwng costau byw sy'n golygu na fydd pobl yn gallu mynd ar wyliau. Oherwydd, fel y gwyddom, mae gwyliau o fewn Cymru yn bwysig iawn, ac rydym ni’n gweld y caledi mae teuluoedd yn ei ddioddef. Hefyd, rydym ni'n gwybod yr effeithir ar awdurdodau lleol. Mae cyfle i ddefnyddio'r dreth hon i fuddsoddi mewn seilwaith hanfodol er mwyn i ni allu cefnogi twristiaeth. Roeddwn i eisiau cofnodi fy mhwynt.
Fel yr ydych chi wedi sôn, Gweinidog, mae'n bwysig iawn ein bod ni'n pwyso a mesur, oherwydd y 15 mlynedd o baratoi ar gyfer y cais llwyddiannus hwnnw flwyddyn yn ôl, a bod cymaint i'w ddathlu. Oherwydd pan fyddwch chi’n ystyried yr hanes, cloddiwyd llechi yn yr ardal am dros 1,800 o flynyddoedd, ac yn ystod y chwyldro diwydiannol roedd cynnydd mawr yn y galw ac roedd llechi o Wynedd yn cael eu defnyddio a'u cludo'n helaeth ar draws y byd. Mae eu safon yn dal i gael ei gydnabod hyd heddiw. Mae'n dal i fod yn ddiwydiant byw ac, yn wahanol i'r hyn yr ydym ni’n ei weld yn y Pwll Mawr ac yn y blaen, lle mae'n ddiwydiant o'r gorffennol, yn amlwg, mae hwn yn ddiwydiant sy'n dal i gynnal yr economi leol. Felly, mae'n bwysig ein bod ni'n edrych arno yn y cyd-destun hwnnw. Yn amlwg, mae hynny'n cyflwyno heriau i'r awdurdod lleol yn benodol, o ran sut yr ydych chi'n cefnogi diwydiant wrth gynnal y dirwedd ddiwydiannol honno.
Sylwais fod Tom Giffard hefyd yn sôn bod Amgueddfa Lechi Cymru yn dathlu 50 mlynedd eleni. Roeddwn i'n falch o weld, ddoe ar Twitter, eu bod nhw wedi cyflawni dros 4 miliwn o ymwelwyr yn ystod y cyfnod hwnnw. Gallai fod yn gymaint mwy na hynny, ond nid yw'r seilwaith yn ei le ar hyn o bryd. Mae hyn hefyd yn ymwneud â'r pwynt ynghylch y cestyll yn y gogledd. Wrth edrych ar ymwelwyr i Gaernarfon ar hyn o bryd, i gastell Caernarfon yn enwedig, mae llawer yn dod ar fws. Maen nhw'n teithio o amgylch y DU, ac efallai mai dim ond am ddiwrnod y byddan nhw’n dod i ogledd Cymru. Felly, un o'r pethau yr hoffwn i ei ofyn yw: sut ydych chi'n buddsoddi er mwyn i ni gael y seilwaith yno yn lleol i sicrhau bod mwy o ymwelwyr yn aros ac yn gwario arian yn yr ardal, a hefyd yn cael cyfle i ymgolli yn yr iaith a'r diwylliant Cymraeg—nad yw’n rhywbeth maen nhw'n ei gael drwy ymweld â'r castell neu ba bynnag atyniad arall yn unig, ond eu bod nhw wir yn cael y cyfle hwnnw i ymgolli mewn ffordd sydd hefyd yn cefnogi busnesau lleol?
Hoffwn hefyd ofyn i chi yn benodol a wnewch chi egluro beth yr ydych chi'n ei olygu wrth ddweud 'amgueddfa gogledd Cymru'. Mae'n ymddangos i mi, o eiriad eich datganiad, fod hyn yn rhywbeth gwahanol i ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru. Mae rhywfaint o ddryswch ymhlith rhanddeiliaid lleol a hefyd y sector amgueddfeydd yn ei gyfanrwydd o ran beth yr ydych chi’n ei olygu wrth ddweud 'amgueddfa gogledd Cymru'. Ydy hyn yn rhywbeth sy'n cael ei ddatblygu fel gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y safle, neu rywbeth ar gyfer Amgueddfa Cymru? Oherwydd, wedi'r cyfan, stori'r llechi yw stori'r llechi, felly rwy’n awyddus ein bod ni'n gallu gweld ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru o ran y cyd-destun cenedlaethol hwnnw. Rwy'n mynegi pryder am y defnydd hwnnw o 'amgueddfa gogledd Cymru' yn hytrach na chael y stori genedlaethol honno. Yn yr un modd, tybed a wnewch chi amlinellu pa gymorth ariannol sy'n cael ei roi i Amgueddfa Cymru er mwyn gwireddu uchelgeisiau'r ailddatblygiad hwnnw.
Mae cymaint o bethau y mae'n rhaid i ni eu croesawu o ran y statws treftadaeth y byd hwnnw, ond yn amlwg yr her fydd sicrhau bod y cyllid ar gael i'r awdurdod lleol a phartneriaid lleol, yn sgil yr argyfwng costau byw. Felly, a gaf fi ofyn beth yw'r weledigaeth strategol a’r cynllun i sicrhau ein bod ni’n defnyddio pob mantais bosibl? Dwi'n gweld bod yna beth datblygu, ond a yw hyn yn mynd i fod yn sgwrs barhaus gyda chefnogaeth a strategaeth gan Lywodraeth Cymru?