Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 4 Hydref 2022.
Diolch, Heledd. A gaf i ddechrau drwy gytuno'n llwyr gyda'ch sylwadau agoriadol sef mai'r bygythiad i dwristiaeth a'r economi ymwelwyr ar hyn o bryd yw'r argyfwng costau byw? Rwy'n credu y byddai'r rhan fwyaf o'n partneriaid twristiaeth a'n rhanddeiliaid yn dweud hynny wrthym ni. Rydw i a Gweinidog yr Economi yn cwrdd yn rheolaidd â rhanddeiliaid twristiaeth, ac mae hwnnw'n un o'r materion y maen nhw'n sôn amdano, nid yn unig o ran eu busnesau a'r costau ychwanegol a'r bygythiadau i'w busnesau, ond mewn gwirionedd y gost i ymwelwyr i ddod yma, oherwydd dyna un o'r pethau sy'n cael ei fwrw oddi ar y rhestr pan fydd pobl yn meddwl am wariant hanfodol. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â chi ar hynny.
O ran y dreftadaeth lechi, eto rwy'n cytuno. Mae'r diwydiant llechi wedi cael ei ddisgrifio fel y diwydiant mwyaf Cymreig. Roedd bron pob un o'r gweithwyr yn frodorol i'r rhanbarth, roedden nhw’n dod o Gymru, roedd Cymraeg yn cael ei defnyddio'n gyson ar bob lefel o'r gweithlu a'r rheolwyr, ac mae hynny'n dal i fod yn wir heddiw. Felly, rwy'n credu'n gryf bod hynny'n rhywbeth sy'n bwysig i'w gydnabod ac mae'n bwysig ei ymgorffori yn yr arlwy i ymwelwyr. Mae'n rhaid i'r arlwy i ymwelwyr fod â Chymraeg yn ganolog iddo fel ei bod yn rhan o'ch profiad chi wrth deithio i'r rhan honno o'r gogledd-orllewin ac wrth ymweld â hi. Mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn gwybod bod Cyngor Gwynedd a pharc cenedlaethol Eryri, sy'n bartneriaid yn natblygiad y dirwedd, yn awyddus iawn i sicrhau y bydd yn digwydd, ac mae'n rhan o'u cynlluniau datblygu nhw.
O ran y seilwaith, eto, does dim y byddwn i'n dadlau gyda chi yn ei gylch o ran hwnnw. Mae'r seilwaith yn llawer ehangach nag unrhyw beth yn fy mriff i, oherwydd mae hwnnw'n gwestiwn enfawr, sy'n cynnwys fy nghydweithwyr mewn gweinidogaethau eraill, ond un o'r pethau a allwn i ddweud yw bod hynny'n rhywbeth mawr y gallai ardoll twristiaeth gynorthwyo ag ef, o ran y seilwaith—byddai'n helpu i ddatblygu ardal ar gyfer twristiaeth. Ond mae'r seilwaith o ran sut mae'r atyniadau twristaidd hynny'n cael eu datblygu yn gyfrifoldeb mawr ar yr awdurdod lleol, ac am wn i mae hwn yn un o'r pethau y byddan nhw'n rhoi sylw iddo ac fe fyddan nhw'n ystyried pryd y byddan nhw'n penderfynu a fydden nhw eisiau cyflwyno ardoll dwristiaeth yn yr ardal honno ai peidio.
I ddod yn ôl at eich pwynt am iaith a diwylliant Cymru, roedd enwebiad Safle Treftadaeth y Byd—nid o reidrwydd nawr ynglŷn â'r atyniad twristaidd, ond yr enwebiad safle Treftadaeth y Byd—yn cydnabod pwysigrwydd yr iaith a'r diwylliant Cymraeg. Mae'r bwrdd llywio a'r cyfarfodydd bwrdd ar gyfer y safle treftadaeth i gyd yn cael eu cynnal yn Gymraeg, ac mae'r iaith yn parhau'n ganolog o ran y cynlluniau ymgysylltu a llysgenhadon cymunedol. Ni fyddwn yn ofni unrhyw fygythiad na phryder ynghylch datblygu a hyrwyddo'r Gymraeg yn yr ardal honno.
I ddod yn ôl, felly, at eich pwynt olaf, sy'n bwynt dilys iawn yn fy marn i, am amgueddfa gogledd Cymru a'r amgueddfa lechi a'u rhyngweithio a'u perthynas nhw, roedd datblygiad amgueddfa gogledd Cymru, fel y gwyddoch chi, yn ymrwymiad sylweddol yn rhaglen lywodraethu'r Llywodraeth, fel mae ailddatblygu safle Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis. Er mwyn bod yn glir, Heledd, oherwydd efallai nad oedd yn glir yn fy natganiad, bydd ailddatblygu'r amgueddfa yn canolbwyntio ar ddarparu cyfleusterau croeso newydd, gwell i ymwelwyr, cyfleusterau addysg a chyfleusterau cymunedol i gefnogi'r proffil rhyngwladol a ddaw yn sgil safle treftadaeth y byd UNESCO. Ond bydd yr amgueddfa wedi ei hailddatblygu yn dod yn bencadlys gogledd Cymru ar gyfer Amgueddfa Cymru. Felly, bydd yn gartref i arddangosfeydd o gasgliadau helaeth o gelf, gwyddoniaeth naturiol, hanes ac archaeoleg o'r rhanbarth sy'n cael eu cadw mewn rhannau eraill o Gymru ar hyn o bryd. Felly, mae'n golygu trosglwyddo'r rheiny i'r gogledd. A'r gobaith yw y bydd yr amgueddfa wedi ei hailddatblygu wedyn yn dod yn ganolbwynt ar gyfer cynigion diwylliannol a threftadaeth eraill ar draws y rhanbarth.
O ran ble awn ni gyda hynny, mae gwaith ar droed ar astudiaeth dichonoldeb, a fydd yn cynnwys cyflwyno cynigion ar gyfer sut y bydd amgueddfa gogledd Cymru a swyddogaeth well i Amgueddfa Lechi Cymru yn cael eu cyflawni. Mae Amgueddfa Cymru wedi sefydlu grŵp llywio mewnol nawr i ddatblygu'r prosiect hwnnw, ac mae cyfarwyddwr prosiect wedi'i benodi'n ddiweddar i arwain ar hynny. Ac rwy'n gwybod bod Amgueddfa Cymru wedi ymgysylltu â'r gymuned leol ac ymwelwyr â'r safle, yn ogystal ag amgueddfeydd a sefydliadau diwylliannol ledled Cymru, ac maen nhw'n parhau i gasglu adborth ar sut y dylid datblygu'r safle hwnnw, yr amgueddfa lechi ac amgueddfa gogledd Cymru.