– Senedd Cymru am 4:02 pm ar 4 Hydref 2022.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon ar dreftadaeth y byd yn y gogledd-orllewin. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog i wneud y datganiad. Dawn Bowden.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Y llynedd, ymunodd Aelodau'r Senedd â chymunedau ar draws y gogledd-orllewin i ddathlu arysgrif tirwedd llechi gogledd-orllewin Cymru, ar restr safleoedd treftadaeth y byd UNESCO. Llwyddodd Llywodraeth Cymru i gyflawni ein rhaglen yn llwyddiannus ar gyfer ymrwymiad y llywodraeth i gefnogi'r arysgrif safle treftadaeth y byd tirwedd llechi. Roedd yn foment o ddathlu a oedd yn nodi penllanw blynyddoedd lawer o waith caled gan bartneriaeth dan arweiniad Cyngor Gwynedd, gyda chefnogaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Llywodraeth Cymru.
Mae'r bartneriaeth honno'n nodedig am ei ystod. Mae'n cynnwys Cadw, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn ogystal â dau gorff treftadaeth a noddir gan Lywodraeth Cymru—sef Amgueddfa Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru—ochr yn ochr â chynrychiolwyr o ddiwydiant a'r sector preifat, gan gynnwys perchnogion chwareli, gweithredwyr twristiaeth ac, wrth gwrs, grwpiau cymunedol lleol.
Mae arysgrif yn gyflawniad sy'n nodi dechrau her newydd: rheoli a gofalu am safle treftadaeth y byd ar ran cenedlaethau'r dyfodol. Felly, mae blwyddyn yn ddiweddarach yn amser da i fyfyrio ar yr hyn sydd wedi ei gyflawni a'r hyn mae treftadaeth y byd yn ei olygu i Gymru.
Mae hi'n 50 mlynedd ers i UNESCO sefydlu confensiwn safle treftadaeth y byd, sy'n cydnabod bod ambell i dreftadaeth mor bwysig nes ei bod yn pontio ffiniau cenedlaethol i siarad â'r ddynoliaeth gyfan. Mae'r adeiladau, henebion a'r tirweddau hyn yn dweud rhywbeth sylfaenol amdanom ni, ynglŷn ag o le yr ydym ni'n dod a'r byd yr ydym ni'n byw ynddo. Mae dros 190 o wledydd wedi cymeradwyo'r confensiwn, yn cynnwys mwy na 1,000 o safleoedd ac mae miliynau o bobl yn ei gydnabod. Mae gwarchod, cadw a diogelu ein safleoedd treftadaeth y byd, a'u trosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol, yn ddyletswydd bwysig i gymdeithas heddiw.
Rydym ni'n falch o fod yn gyfrifol am bedwar safle treftadaeth y byd yng Nghymru, gyda dau yn y gogledd-orllewin: y dirwedd lechi a chestyll Edward I. Mae tri o'r safleoedd hynny'n cydnabod ein swyddogaeth ganolog yn y chwyldro diwydiannol, cyfnod pan brofodd ein gwlad gyfnod digynsail o drawsnewid gyda'n haearn, dur a llechi, yn ogystal â'n harbenigedd mwyngloddio a pheirianneg, yn cyfrannu at adeiladu dinasoedd a threfi ledled y byd.
Heddiw, mae treftadaeth y byd yn chwarae rhan bwysig yn ein heconomi dwristiaeth, gan ddenu miloedd o ymwelwyr yma bob blwyddyn. Ond ni ddylem anwybyddu ei fuddion ehangach; yn benodol, balchder cymunedol, llesiant ac ymdeimlad o le.
Roedd yr enwebiad tirwedd llechi yn nodedig am gynnwys y gymuned. Fe wnaeth y prosiect LleCHI, a ariannwyd gan Dreftadaeth y Loteri, gefnogi pobl ifanc o'r rhanbarth i chwarae rhan flaenllaw wrth ymchwilio a dehongli eu treftadaeth a chymryd rhan yn yr asesiad arysgrif ffurfiol. Mae'r cyfranogiad hwnnw'n argoeli'n dda ar gyfer y dyfodol.
Felly, beth sydd wedi digwydd ers yr arysgrif? Wel, yn gyntaf, mae'r cynllun rheoli partneriaeth yn cael ei roi ar waith. Mae'r ddau awdurdod cynllunio lleol wedi mabwysiadu canllawiau cynllunio atodol ac wedi cyhoeddi canllawiau arddull cymunedol yn Gymraeg a Saesneg er mwyn cynorthwyo trigolion, datblygwyr a'r diwydiant adeiladu i chwarae eu rhannau wrth reoli eiddo hanesyddol yn gynaliadwy o fewn y safle.
Mae partneriaid yn parhau i chwarae rhan weithredol. Mae gwaith dynodi Cadw bron wedi gorffen, a'i bwyslais bellach wedi troi at gadwraeth. Mae grantiau Cadw yn cefnogi gwaith yn y tŷ injan yn chwarel Dorothea, a'r llynedd cyhoeddodd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol grant gwerth £3.1 miliwn i Reilffyrdd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru, un o'r partneriaid craidd sydd yn y safle, i adfer ei adeiladau yn Boston Lodge.
Cyfrifoldeb pwysig i reolwyr treftadaeth y byd yw trosglwyddo gwerthoedd y safleoedd trwy addysg a dehongli, ac yma hefyd gwnaed cynnydd da. Mae grant o £150,000 gan Lywodraeth Cymru wedi ariannu arwyddion a deunydd dehongli unedig ar draws y safle treftadaeth y byd. Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo i ddatblygu cynllun ymgysylltu cymunedol, dehongli a rheoli ymwelwyr cynhwysfawr, wedi’i gefnogi gan £128,000 o arian datblygu gan y Loteri Genedlaethol. Ochr yn ochr â hyn, mae Amgueddfa Cymru yn datblygu cynigion ar gyfer ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru, gydag amgueddfa gogledd Cymru yn ffurfio rhan o hyn.
Dechreuais drwy ein hatgoffa bod yna ddau safle treftadaeth y byd yn y gogledd-orllewin. Cestyll a muriau trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd oedd y safleoedd treftadaeth y byd cyntaf i gael eu harysgrifio yng Nghymru ac maen nhw'n ddarluniad diddorol o amcanion ehangach treftadaeth y byd, nad ydyn nhw, fel mae rhai pobl yn tybio, yn syml i ddathlu treftadaeth, ond yn hytrach i gydnabod safleoedd o bwys hanesyddol ac i ddarparu cyfleoedd i ddysgu ohonyn nhw.
Mae hanesion cymhleth i'r pedwar castell sy'n rhan o safle treftadaeth y byd sy'n codi cwestiynau pwysig am ddigwyddiadau a luniodd ein cenedl. Cestyll Seisnig oedd y rhain yn wreiddiol, a adeiladwyd gan Edward I i reoli pobl oedd wedi’u llorio yn sgil colli eu tywysog, Llywelyn ap Gruffudd, ac yn anorfod maen nhw'n codi llawer o emosiynau pwerus. Mae'r cyfeddiannu canoloesol hwnnw wedi atseinio ers canrifoedd ac mae'n bwysig bod y ffordd yr ydym yn rheoli ac yn cyflwyno’r cestyll hyn, yn arbennig castell Caernarfon, yn cydnabod pob agwedd ar yr hanes hwnnw a beth mae'n ei olygu i bobl heddiw.
Yn ddiweddarach y mis hwn, byddaf yn ymweld â Chaernarfon i agor prosiect newydd Porthdy’r Brenin y mae Cadw wedi'i gyflawni. Mae hwn yn fuddsoddiad o £5 miliwn a fydd yn galluogi ymwelwyr i brofi ystafelloedd o fewn y castell na fu modd eu cyrraedd ers canrifoedd ac i gael mynediad i lawr uchaf y porthdy drwy ddefnyddio lifft. Am y tro cyntaf, bydd pob ymwelydd yn cael mynediad i'r neuadd ganoloesol ar y lefel uchaf, a gynlluniwyd, ond na chafodd ei chwblhau erioed. Ochr yn ochr â hyn mae dehongliad newydd sy'n adlewyrchu hanes heriol y castell yn onest, gan ddefnyddio cyfuniad o naratif a cherfluniau i helpu ymwelwyr i ystyried ei swyddogaeth yn y gorffennol a heddiw. Yn ogystal â bodloni ein rhwymedigaeth i warchod ein treftadaeth y byd, bydd y buddsoddiad hwn hefyd yn gwneud cyfraniad hanfodol i economi'r rhanbarth.
Rwy'n gorffen trwy gymryd y cyfle hwn i ddiolch i’r holl sefydliadau, unigolion a chymunedau sy'n rheoli ein safleoedd treftadaeth y byd ar ein rhan ni i gyd. Drwy eu hymdrechion nhw rydym ni’n cyflawni ein rhwymedigaethau o dan y confensiwn i ofalu am y safleoedd hyn ar ran cenedlaethau'r dyfodol, yma yng Nghymru ac ar draws y byd.
Allaf i ddiolch i’r Dirprwy Weinidog am ei datganiad? Rydyn ni i gyd yn gwybod am bwysigrwydd a natur hanesyddol ein safleoedd treftadaeth ar draws gogledd-orllewin Cymru. O’r pedwar safle treftadaeth y byd yng Nghymru, mae dau ohonyn nhw wedi cael eu lleoli yng ngogledd-orllewin Cymru. Rydw i a fy mhlaid i yn falch o hanes diwylliannol cyfoethog Cymru.
Y ddau safle treftadaeth y byd sydd wedi eu lleoli yng ngogledd-orllewin Cymru, fel eich bod chi wedi dweud, yw tirwedd llechi gogledd-orllewin Cymru a chestyll a muriau trefi Edward I. Gall ymwelwyr a phobl leol sydd yn dod i’r ardaloedd ymweld ag Amgueddfa Lechi Cymru, a ddathlodd ei phen-blwydd yn 50 yn ôl ym mis Mai, yn chwarel Dinorwig, i ddysgu hanes anorchfygol, tra bod rheilffordd Ffestiniog yn cludo ymwelwyr ar hyd lein 200 mlwydd oed.
Rwy’n croesawu’r £150,000 sydd wedi ariannu arwyddion a dehongliadau unedig ar draws y safle treftadaeth y byd, ond allai’r Dirprwy Weinidog amlinellu sut mae’r £128,000 gan y Loteri Genedlaethol ar gyfer ymgysylltu ac ar gyfer y cynllun rheoli ymwelwyr yn cael ei roi ar waith? Sut bydd hyn yn cael ei fesur, ac a oes targed y mae i'w gyrraedd ar lefelau ymwelwyr â’r ardal? O ystyried hanes y safle, sut mae’r arian ar gyfer ymgysylltu cymunedol o’r cyllid hwn yn cael ei wario i sicrhau bod teuluoedd, ysgolion ac ymwelwyr â’r ardal yn deall arwyddocâd diwylliannol gogledd-orllewin Cymru?
Erbyn hyn, mae gwifren wib gyflymaf y byd wedi'i lleoli dros chwarel Penrhyn, gydag atyniadau wedi'u lleoli o fewn y pyllau llechi ym Mlaenau Ffestiniog—atyniadau o fewn safle treftadaeth y byd yn dod â miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn. Ers creu ZipWorld yn 2013, mae dros 400,000 o ymwelwyr wedi ymweld â'r atyniadau yn flynyddol, yn ôl y ffigyrau diweddaraf a gyhoeddwyd yn 2019. Bu buddsoddi sylweddol yn yr ardal hon, a chredir bod ZipWorld wedi dod â dros £250 miliwn i economi'r gogledd. Yn ôl adolygiad Twristiaeth Gogledd Cymru yn 2018 o effaith yr atyniad, gwelwyd mai yn yr atyniad ogof y cafodd ymwelwyr y profiad gorau. Yn yr un flwyddyn, roedd 152,903 o ymweliadau, yn union, ag Amgueddfa Lechi Cymru sydd wedi ei lleoli yn chwarel Dinorwig. Denodd cestyll y Brenin Edward I bron i 600,000 o ymwelwyr rhyngddyn nhw yn 2019. Felly, a gaf i ofyn, Dirprwy Weinidog, sut fyddwn ni'n sicrhau bod lefelau ymwelwyr yn aros mor uchel â hynny, ac mor uchel ag y gallan nhw fod? Beth mae Croeso Cymru yn ei wneud i hyrwyddo'r ardaloedd penodol hynny?
Wrth i chi siarad am dreftadaeth y gogledd-orllewin, roeddwn i’n siomedig na chlywais unrhyw sôn na chyfeiriad at ein treftadaeth chwaraeon yn y gogledd-orllewin, gyda mabolgampwyr enwog fel Wayne Hennessey a George North yn meithrin eu sgiliau yn y gogledd-orllewin—ac maen nhw wedi mynd ymlaen i gynrychioli ein gwlad gyda rhagoriaeth yn eu priod gampau. Felly, roeddwn i wedi gobeithio y byddem ni wedi clywed rhywbeth gan y Gweinidog heddiw i gydnabod eu heffaith wrth ysbrydoli sêr chwaraeon y dyfodol yn y gogledd-orllewin. Gyda hynny mewn golwg, Dirprwy Weinidog, pa gamau ydych chi'n eu cymryd i gydnabod eu cyfraniadau i dreftadaeth chwaraeon Cymru, a hefyd i wella cyfleusterau'n lleol i sicrhau sêr chwaraeon y dyfodol?
Fel y soniodd y Dirprwy Weinidog, mae'n siŵr y byddwch chi’n ymwybodol bod ein cestyll yn wirioneddol fyd-enwog, ac mae hynny'n sicr yn wir i'r rhai yn y gogledd a'r gogledd-orllewin. Mae castell Gwrych yn sir Conwy wedi dod yn enwog dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, gan iddo fod yn gartref i raglen ITV I'm a Celebrity... Get Me Out of Here! Mae miloedd o ymwelwyr ychwanegol, gan gynnwys Sam Rowlands, rwy'n credu, wedi ymweld â chastell Gwrych yn ei holl ogoniant yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Bydd y Dirprwy Weinidog, rwy'n siŵr, yn ymwybodol o'r ffaith na allwn ni siarad am dreftadaeth ein hardaloedd heb siarad am dwristiaeth. Defnyddiwyd castell Caernarfon gan y frenhiniaeth ym 1911 a 1969 ar gyfer arwisgiad Tywysogion Cymru, a gwelwyd yr un ym 1969, ar gyfer y Brenin Charles erbyn hyn, gan 19 miliwn o bobl ledled Prydain Fawr a 500 miliwn arall ledled y byd. Roedd hynny'n gwerthu ein gwlad i'r byd ynghyd â'n treftadaeth y byd. Pleidleisiwyd mai rheilffordd hanesyddol Blaenau Ffestiniog yw’r rheilffordd olygfaol orau yn Ewrop yn gynharach eleni, a daeth tirwedd llechi gogledd-orllewin Cymru yn bedwerydd safle treftadaeth i ni ym mis Gorffennaf 2021, yn dilyn ymdrech wych a oedd yn ymestyn dros ymgyrch 15 mlynedd.
Dyna rai o'r ardaloedd sydd â phwysigrwydd sylweddol, ond beth sydd ganddyn nhw i gyd yn gyffredin? Maen nhw'n dibynnu ar ymwelwyr o bedwar ban byd. Ond yn anffodus, mae Llywodraeth Cymru eisiau gosod treth dwristiaeth ar yr ardaloedd hyn—treth dwristiaeth fyddai’n lladd y diwydiant. Dyna'r gwir fygythiad mae'r safleoedd hyn a safleoedd treftadaeth pwysig eraill ar draws y gogledd orllewin a thu hwnt yn ei wynebu. Felly, Dirprwy Weinidog, a wnewch chi amlinellu pa drafodaethau yr ydych chi wedi'u cael gyda naill ai'r Gweinidog cyllid neu Weinidog yr Economi am yr effaith y bydd y dreth hon fyddai’n lladd y diwydiant yn ei chael ar y safleoedd hyn a'r diwydiant treftadaeth ar draws y gogledd-orllewin? Diolch.
A gaf i ddiolch i Tom Giffard am y sylwadau a'r cwestiynau yna? Os wnaf i gychwyn gyda'i sylwadau cyntaf ynglŷn â'r rhaglen ymgysylltu a rheoli ymwelwyr, mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni'n amlwg yn parhau i ymgysylltu â'r gymuned leol yn ei gylch, gydag amgueddfa gogledd Cymru a sefydliadau rheoli tirwedd lechi, gan gynnwys Cyngor Gwynedd, parc cenedlaethol Eryri ac ati. Felly, bydd ymgysylltu parhaus â'r sefydliadau hynny a fydd yn cyflawni'r ymgysylltu hwnnw, a byddwn yn gobeithio gallu dod yn ôl atoch chi rywbryd yn y dyfodol agos gyda diweddariad ar sut mae hynny wedi gweithio'n ymarferol a beth fu lefel yr ymgysylltu ag ymwelwyr ar gyfer hynny.
Rydych chi'n gwneud nifer o bwyntiau eraill am dreftadaeth a thwristiaeth yn yr ardal, ac rydych chi'n hollol briodol yn cyfeirio at y ffaith bod gennym ni ddau safle treftadaeth y byd o bwys—nid yn unig y tirweddau llechi, ond cestyll y Brenin Edward ac ati. Yr hyn yr ydym ni'n ei wybod yw bod y safleoedd hynny'n denu tua 500,000 i 600,000 o ymwelwyr y flwyddyn. Yn sicr yr hyn yr ydym ni’n gobeithio yw y bydd y datblygiad yr ydym ni wedi buddsoddi ynddo yng nghastell Caernarfon yn gweld nifer yr ymwelwyr hynny'n cynyddu. Rhan o bwrpas y datblygiad hwnnw yw dod â mwy o ymwelwyr i'r rhan honno o Gymru, ond hefyd i sicrhau nad ydym chwaith yn anghofio’r stori yr ydym eisiau i gastell Caernarfon ei hadrodd. Mae rhan o'r buddsoddiad hwnnw'n ymwneud â dweud y stori honno ac er mwyn i bobl weld y stori honno gyda'i holl ffaeleddau, yn ei holl onestrwydd, a thrwy holl gyfnodau cythryblus hanes y castell hwnnw. Ond, rhaid i ni gofio, uwchben y castell hwnnw heddiw mae baner Cymru yn cyhwfan, ac, wrth gwrs, dyna'r swyddogaeth olaf bwysig yn hanes castell Caernarfon.
O ran y sylwadau am y wifren sip, yn amlwg mae hwn yn atyniad twristaidd enfawr eto yn yr ardal honno. Mae o fewn y dirwedd dreftadaeth, felly rydym ni’n gweithio'n agos iawn gyda pherchnogion y wifren sip er mwyn iddyn nhw allu gweithio i ddatblygu eu cynnig a'u safle gydag agwedd gydymdeimladol tuag at yr hyn sy'n atyniad sy'n eistedd yng nghanol yr hyn sydd yn awr yn dirwedd dreftadaeth y byd.
Rydych chi'n hollol gywir yn cyfeirio at y materion sy'n ymwneud â threftadaeth chwaraeon. Rwy'n ddiolchgar iawn i Sam Rowlands, sydd â dweud y gwir, yn cyflwyno dadl yfory ar hynny, a byddaf yn ymateb i honno. Felly, efallai y bydd rhai o'r cwestiynau yr ydych chi wedi’u codi yn cael eu hateb yn yr ymateb i'r ddadl honno. Ond, rydych chi'n hollol gywir: mae ein treftadaeth chwaraeon yn un y dylem ni fod yn falch iawn ohoni, ac mae llawer o bethau ynghylch treftadaeth chwaraeon y gogledd yn arbennig y dylem fod yn falch iawn ohonyn nhw. Fe ddywedaf fwy am hynny yfory mewn ymateb i ddadl Sam. Roedd fy natganiad heddiw yn benodol am y tirweddau llechi ac am gastell Caernarfon.
O ran yr ardoll dwristiaeth, rwy'n codi fy het i Tom ac i'w holl gyd-Aelodau Ceidwadol sy'n ceisio codi'r mater hwn ynghylch yr ardoll dwristiaeth bob cyfle a gânt. Dyna yr ydych chi’n ei wneud; chi yw'r wrthblaid, ac rwy’n deall mai dyna sydd angen i chi ei wneud. Yn amlwg, rydym ni eisiau gweld diwydiant twristiaeth ffyniannus, wrth gwrs, ac rydym ni eisiau gweld yr adferiad cryf yna ar ôl y pandemig. Mae angen ei bwysleisio dro ar ôl tro—oherwydd dywedwyd lawer gwaith—bydd yr ardoll ymwelwyr yn ardoll ddewisol er mwyn i awdurdodau lleol benderfynu drostyn nhw eu hunain p’un a ydyn nhw'n teimlo y dylai cyfran fach iawn o wariant ymwelwyr yn eu hardal gael ei chymryd mewn ardoll dwristiaeth a fydd yn helpu i ddatblygu twristiaeth yn yr ardal honno.
Rydw i wedi dod yn ôl o'r Eidal yn ddiweddar. Es i i'r Eidal ar wyliau yn yr haf, ac roeddwn i'n ffodus iawn i gyrraedd tirwedd winllan treftadaeth y byd, sef Piedmont yng ngogledd yr Eidal. Roedd hi'n anodd iawn llusgo fy hun oddi yno—roedd yn brydferth—ond roeddwn i'n hapus i dalu ardoll dwristiaeth pan oeddwn i yno, fel yr ydw i’n ei wneud yn unrhyw un o'r lleoliadau gwyliau y byddaf yn mynd iddyn nhw. Fel y bydd cyd-Aelodau yn ymwybodol, bydd Cwpan Rygbi'r Byd Merched yn dechrau'r wythnos nesaf yn Seland Newydd, ac, fel Gweinidog chwaraeon, byddaf yn mynd allan i Seland Newydd er mwyn cynnig cefnogaeth y Llywodraeth a chenedl Cymru i'n menywod sy'n chwarae rygbi allan yna. Rydw i newydd orfod gwneud cais am fisa i fynd i mewn i Seland Newydd ac wele, wrth wneud cais am y fisa hwnnw roedd yn rhaid i mi dalu ardoll dwristiaeth o £18 hefyd. Dyna fel mae hi. Mae gan fwy na 40 o wledydd a chyrchfannau gwyliau ledled y byd ardoll ymwelwyr, ac rwy'n credu pe bai'r ardoll ymwelwyr mor ddinistriol ag yr ydych chi’n awgrymu y gallai fod, byddai'r rhan fwyaf o'r gwledydd hynny wedi cefnu arni erbyn hyn.
Diolch, Ddirprwy Weinidog, am y datganiad heddiw.
Os caf i ddechrau gyda'r pwynt olaf, dwi'n cytuno gyda'r Dirprwy Weinidog—rwy’n credu mai camsyniad yw parhau i ddweud y bydd y dreth dwristiaeth yn atal pobl rhag dod i Gymru. Mewn gwirionedd, y gwir fygythiad i dwristiaeth yn y gogledd ac yng Nghymru yn gyffredinol yw costau ynni sy'n effeithio ar fusnesau a'r argyfwng costau byw sy'n golygu na fydd pobl yn gallu mynd ar wyliau. Oherwydd, fel y gwyddom, mae gwyliau o fewn Cymru yn bwysig iawn, ac rydym ni’n gweld y caledi mae teuluoedd yn ei ddioddef. Hefyd, rydym ni'n gwybod yr effeithir ar awdurdodau lleol. Mae cyfle i ddefnyddio'r dreth hon i fuddsoddi mewn seilwaith hanfodol er mwyn i ni allu cefnogi twristiaeth. Roeddwn i eisiau cofnodi fy mhwynt.
Fel yr ydych chi wedi sôn, Gweinidog, mae'n bwysig iawn ein bod ni'n pwyso a mesur, oherwydd y 15 mlynedd o baratoi ar gyfer y cais llwyddiannus hwnnw flwyddyn yn ôl, a bod cymaint i'w ddathlu. Oherwydd pan fyddwch chi’n ystyried yr hanes, cloddiwyd llechi yn yr ardal am dros 1,800 o flynyddoedd, ac yn ystod y chwyldro diwydiannol roedd cynnydd mawr yn y galw ac roedd llechi o Wynedd yn cael eu defnyddio a'u cludo'n helaeth ar draws y byd. Mae eu safon yn dal i gael ei gydnabod hyd heddiw. Mae'n dal i fod yn ddiwydiant byw ac, yn wahanol i'r hyn yr ydym ni’n ei weld yn y Pwll Mawr ac yn y blaen, lle mae'n ddiwydiant o'r gorffennol, yn amlwg, mae hwn yn ddiwydiant sy'n dal i gynnal yr economi leol. Felly, mae'n bwysig ein bod ni'n edrych arno yn y cyd-destun hwnnw. Yn amlwg, mae hynny'n cyflwyno heriau i'r awdurdod lleol yn benodol, o ran sut yr ydych chi'n cefnogi diwydiant wrth gynnal y dirwedd ddiwydiannol honno.
Sylwais fod Tom Giffard hefyd yn sôn bod Amgueddfa Lechi Cymru yn dathlu 50 mlynedd eleni. Roeddwn i'n falch o weld, ddoe ar Twitter, eu bod nhw wedi cyflawni dros 4 miliwn o ymwelwyr yn ystod y cyfnod hwnnw. Gallai fod yn gymaint mwy na hynny, ond nid yw'r seilwaith yn ei le ar hyn o bryd. Mae hyn hefyd yn ymwneud â'r pwynt ynghylch y cestyll yn y gogledd. Wrth edrych ar ymwelwyr i Gaernarfon ar hyn o bryd, i gastell Caernarfon yn enwedig, mae llawer yn dod ar fws. Maen nhw'n teithio o amgylch y DU, ac efallai mai dim ond am ddiwrnod y byddan nhw’n dod i ogledd Cymru. Felly, un o'r pethau yr hoffwn i ei ofyn yw: sut ydych chi'n buddsoddi er mwyn i ni gael y seilwaith yno yn lleol i sicrhau bod mwy o ymwelwyr yn aros ac yn gwario arian yn yr ardal, a hefyd yn cael cyfle i ymgolli yn yr iaith a'r diwylliant Cymraeg—nad yw’n rhywbeth maen nhw'n ei gael drwy ymweld â'r castell neu ba bynnag atyniad arall yn unig, ond eu bod nhw wir yn cael y cyfle hwnnw i ymgolli mewn ffordd sydd hefyd yn cefnogi busnesau lleol?
Hoffwn hefyd ofyn i chi yn benodol a wnewch chi egluro beth yr ydych chi'n ei olygu wrth ddweud 'amgueddfa gogledd Cymru'. Mae'n ymddangos i mi, o eiriad eich datganiad, fod hyn yn rhywbeth gwahanol i ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru. Mae rhywfaint o ddryswch ymhlith rhanddeiliaid lleol a hefyd y sector amgueddfeydd yn ei gyfanrwydd o ran beth yr ydych chi’n ei olygu wrth ddweud 'amgueddfa gogledd Cymru'. Ydy hyn yn rhywbeth sy'n cael ei ddatblygu fel gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y safle, neu rywbeth ar gyfer Amgueddfa Cymru? Oherwydd, wedi'r cyfan, stori'r llechi yw stori'r llechi, felly rwy’n awyddus ein bod ni'n gallu gweld ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru o ran y cyd-destun cenedlaethol hwnnw. Rwy'n mynegi pryder am y defnydd hwnnw o 'amgueddfa gogledd Cymru' yn hytrach na chael y stori genedlaethol honno. Yn yr un modd, tybed a wnewch chi amlinellu pa gymorth ariannol sy'n cael ei roi i Amgueddfa Cymru er mwyn gwireddu uchelgeisiau'r ailddatblygiad hwnnw.
Mae cymaint o bethau y mae'n rhaid i ni eu croesawu o ran y statws treftadaeth y byd hwnnw, ond yn amlwg yr her fydd sicrhau bod y cyllid ar gael i'r awdurdod lleol a phartneriaid lleol, yn sgil yr argyfwng costau byw. Felly, a gaf fi ofyn beth yw'r weledigaeth strategol a’r cynllun i sicrhau ein bod ni’n defnyddio pob mantais bosibl? Dwi'n gweld bod yna beth datblygu, ond a yw hyn yn mynd i fod yn sgwrs barhaus gyda chefnogaeth a strategaeth gan Lywodraeth Cymru?
Diolch, Heledd. A gaf i ddechrau drwy gytuno'n llwyr gyda'ch sylwadau agoriadol sef mai'r bygythiad i dwristiaeth a'r economi ymwelwyr ar hyn o bryd yw'r argyfwng costau byw? Rwy'n credu y byddai'r rhan fwyaf o'n partneriaid twristiaeth a'n rhanddeiliaid yn dweud hynny wrthym ni. Rydw i a Gweinidog yr Economi yn cwrdd yn rheolaidd â rhanddeiliaid twristiaeth, ac mae hwnnw'n un o'r materion y maen nhw'n sôn amdano, nid yn unig o ran eu busnesau a'r costau ychwanegol a'r bygythiadau i'w busnesau, ond mewn gwirionedd y gost i ymwelwyr i ddod yma, oherwydd dyna un o'r pethau sy'n cael ei fwrw oddi ar y rhestr pan fydd pobl yn meddwl am wariant hanfodol. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â chi ar hynny.
O ran y dreftadaeth lechi, eto rwy'n cytuno. Mae'r diwydiant llechi wedi cael ei ddisgrifio fel y diwydiant mwyaf Cymreig. Roedd bron pob un o'r gweithwyr yn frodorol i'r rhanbarth, roedden nhw’n dod o Gymru, roedd Cymraeg yn cael ei defnyddio'n gyson ar bob lefel o'r gweithlu a'r rheolwyr, ac mae hynny'n dal i fod yn wir heddiw. Felly, rwy'n credu'n gryf bod hynny'n rhywbeth sy'n bwysig i'w gydnabod ac mae'n bwysig ei ymgorffori yn yr arlwy i ymwelwyr. Mae'n rhaid i'r arlwy i ymwelwyr fod â Chymraeg yn ganolog iddo fel ei bod yn rhan o'ch profiad chi wrth deithio i'r rhan honno o'r gogledd-orllewin ac wrth ymweld â hi. Mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn gwybod bod Cyngor Gwynedd a pharc cenedlaethol Eryri, sy'n bartneriaid yn natblygiad y dirwedd, yn awyddus iawn i sicrhau y bydd yn digwydd, ac mae'n rhan o'u cynlluniau datblygu nhw.
O ran y seilwaith, eto, does dim y byddwn i'n dadlau gyda chi yn ei gylch o ran hwnnw. Mae'r seilwaith yn llawer ehangach nag unrhyw beth yn fy mriff i, oherwydd mae hwnnw'n gwestiwn enfawr, sy'n cynnwys fy nghydweithwyr mewn gweinidogaethau eraill, ond un o'r pethau a allwn i ddweud yw bod hynny'n rhywbeth mawr y gallai ardoll twristiaeth gynorthwyo ag ef, o ran y seilwaith—byddai'n helpu i ddatblygu ardal ar gyfer twristiaeth. Ond mae'r seilwaith o ran sut mae'r atyniadau twristaidd hynny'n cael eu datblygu yn gyfrifoldeb mawr ar yr awdurdod lleol, ac am wn i mae hwn yn un o'r pethau y byddan nhw'n rhoi sylw iddo ac fe fyddan nhw'n ystyried pryd y byddan nhw'n penderfynu a fydden nhw eisiau cyflwyno ardoll dwristiaeth yn yr ardal honno ai peidio.
I ddod yn ôl at eich pwynt am iaith a diwylliant Cymru, roedd enwebiad Safle Treftadaeth y Byd—nid o reidrwydd nawr ynglŷn â'r atyniad twristaidd, ond yr enwebiad safle Treftadaeth y Byd—yn cydnabod pwysigrwydd yr iaith a'r diwylliant Cymraeg. Mae'r bwrdd llywio a'r cyfarfodydd bwrdd ar gyfer y safle treftadaeth i gyd yn cael eu cynnal yn Gymraeg, ac mae'r iaith yn parhau'n ganolog o ran y cynlluniau ymgysylltu a llysgenhadon cymunedol. Ni fyddwn yn ofni unrhyw fygythiad na phryder ynghylch datblygu a hyrwyddo'r Gymraeg yn yr ardal honno.
I ddod yn ôl, felly, at eich pwynt olaf, sy'n bwynt dilys iawn yn fy marn i, am amgueddfa gogledd Cymru a'r amgueddfa lechi a'u rhyngweithio a'u perthynas nhw, roedd datblygiad amgueddfa gogledd Cymru, fel y gwyddoch chi, yn ymrwymiad sylweddol yn rhaglen lywodraethu'r Llywodraeth, fel mae ailddatblygu safle Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis. Er mwyn bod yn glir, Heledd, oherwydd efallai nad oedd yn glir yn fy natganiad, bydd ailddatblygu'r amgueddfa yn canolbwyntio ar ddarparu cyfleusterau croeso newydd, gwell i ymwelwyr, cyfleusterau addysg a chyfleusterau cymunedol i gefnogi'r proffil rhyngwladol a ddaw yn sgil safle treftadaeth y byd UNESCO. Ond bydd yr amgueddfa wedi ei hailddatblygu yn dod yn bencadlys gogledd Cymru ar gyfer Amgueddfa Cymru. Felly, bydd yn gartref i arddangosfeydd o gasgliadau helaeth o gelf, gwyddoniaeth naturiol, hanes ac archaeoleg o'r rhanbarth sy'n cael eu cadw mewn rhannau eraill o Gymru ar hyn o bryd. Felly, mae'n golygu trosglwyddo'r rheiny i'r gogledd. A'r gobaith yw y bydd yr amgueddfa wedi ei hailddatblygu wedyn yn dod yn ganolbwynt ar gyfer cynigion diwylliannol a threftadaeth eraill ar draws y rhanbarth.
O ran ble awn ni gyda hynny, mae gwaith ar droed ar astudiaeth dichonoldeb, a fydd yn cynnwys cyflwyno cynigion ar gyfer sut y bydd amgueddfa gogledd Cymru a swyddogaeth well i Amgueddfa Lechi Cymru yn cael eu cyflawni. Mae Amgueddfa Cymru wedi sefydlu grŵp llywio mewnol nawr i ddatblygu'r prosiect hwnnw, ac mae cyfarwyddwr prosiect wedi'i benodi'n ddiweddar i arwain ar hynny. Ac rwy'n gwybod bod Amgueddfa Cymru wedi ymgysylltu â'r gymuned leol ac ymwelwyr â'r safle, yn ogystal ag amgueddfeydd a sefydliadau diwylliannol ledled Cymru, ac maen nhw'n parhau i gasglu adborth ar sut y dylid datblygu'r safle hwnnw, yr amgueddfa lechi ac amgueddfa gogledd Cymru.
Rwy'n croesawu'r datganiad a'r buddsoddiad yn yr ardal, ac rwy'n falch o ddweud bod gan y gogledd bellach dri safle treftadaeth y byd, gan gynnwys dyfrbont Pontcysyllte, sy'n wych. Ac rwy'n edrych ymlaen at weld parc cenedlaethol newydd yn cael ei greu hefyd. Dynodwyd Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn ardal o harddwch naturiol eithriadol oherwydd ei threftadaeth adeiledig, ei chestyll a'i bryngaerau o oes yr haearn a'i habaty hefyd. Felly, mae llawer o dreftadaeth yn y gogledd, sy'n wych.
Rwy'n credu eich bod chi wedi ateb rhai o'r cwestiynau yr oeddwn i'n mynd i'w gofyn, oherwydd mae Heledd wedi eu codi nhw'n barod, ond rwy'n pryderu am y wasgfa ar ariannu cyhoeddus. Rydych chi wedi gweithio gyda phartneriaid ar hyn, ond wrth symud ymlaen gyda'r rhaglen lywodraethu a'r holl bethau sydd ynddi, fel yr amgueddfa genedlaethol ar gyfer y gogledd—sydd newydd ei grybwyll—Theatr Clwyd, yr AHNE yn cael ei dynodi'n barc cenedlaethol, yr holl bethau hyn sy'n dod o dan ddiwylliant a threftadaeth yn eich portffolio, rydw i'n poeni ychydig ynghylch a fyddwch chi'n gallu parhau i'w cyflawni nhw gyda'r wasgfa hon ar gyllid gwasanaethau cyhoeddus. Diolch.
Diolch, Carolyn, am y cwestiynau yna. Rydych chi'n hollol iawn, nid yw'r wasgfa ar arian cyhoeddus a'r her i ni yn ddibwys, mae'n berygl gwirioneddol. Yr hyn y gallaf fi ei ddweud wrthych chi yw ein bod wedi ymrwymo i gyflawni'r rhaglen ar gyfer ymrwymiadau llywodraethol yr ydym ni wedi eu gwneud yn yr ardaloedd yr ydych chi wedi eu hamlinellu—felly, amgueddfa genedlaethol Cymru, datblygiad yr amgueddfa genedlaethol honno, Theatr Clwyd, yr amgueddfa bêl-droed yn y gogledd, wrth gwrs, sy'n berthnasol iawn ar hyn o bryd, a'r holl ymrwymiadau diwylliannol eraill hynny yn ein rhaglen lywodraethu.
Yr hyn yr ydym ni'n ei wybod, fodd bynnag, yw bod gwerth ein cyllideb bellach yn sylweddol llai nag yr oedd, oherwydd ar yr adeg y dyrannwyd ein cyllideb, roedd chwyddiant ar lefel isel iawn, iawn. Erbyn hyn mae chwyddiant yn agosach at 10 y cant, a does dim rhaid i chi fod yn economegydd i wybod bod hynny'n golygu am yr un faint o arian, mae gennych chi lai o bunnoedd i brynu stwff. Felly, mae gwerth ein cyllideb yn llawer llai nag yr oedd pan gafodd ei ddyrannu, a bydd hynny'n cyflwyno heriau, does dim dwywaith. Ac rydym ni'n gwybod bod Theatr Clwyd yn profi heriau gyda chostau adeiladu cynyddol yn ymwneud â'u hailddatblygiad a sut mae hynny i gyd yn mynd i gael ei gyflawni. Ond yr hyn y gallaf fi ei ddweud wrthych chi'n sicr o'r fan hon heddiw yw bod ein hymrwymiad i'r addewidion ar gyfer rhaglenni'r llywodraeth, yr addewidion maniffesto a meysydd y portffolio diwylliant a gafodd eu cynnwys yn dal i fod ar y trywydd iawn. Diolch.
Diolch i chi, Dirprwy Weinidog, am gyflwyno'r datganiad heddiw am dreftadaeth y byd yn y gogledd-orllewin wrth gwrs, un hanner o ranbarth gwych yn y gogledd. Fel y gwnaethoch chi ei amlinellu, mae'n galonogol iawn gweld tirwedd lechi y gogledd-orllewin wedi'i harysgrifio ar restr safleoedd treftadaeth y byd UNESCO. A hoffwn hefyd gofnodi fy niolch i'r holl sefydliadau, unigolion a chymunedau sydd wedi helpu i wneud i hyn yn bosibl. Ac, fel sydd wedi'i amlinellu eisoes, mae'r statws newydd hwn yn ffordd wych o gydnabod pwysigrwydd ein diwydiant llechi, ac roeddwn i'n falch iawn o'ch clywed yn siarad am y swyddogaeth bwysig y mae treftadaeth yn ei chwarae yn ein heconomi dwristiaeth, gan ddod â nifer o fanteision, denu mwy o ymwelwyr, hybu buddsoddiad, creu swyddi ac, yn bwysig iawn, dweud rhan bwysig o'n stori fel pobl y gogledd. Dyma'r stori yr wyf i eisiau canolbwyntio arni am eiliad yn unig, oherwydd mae'r stori hon yn bwysig i ymwelwyr ond mae hefyd yn bwysig iawn bod ein trigolion lleol a'n cymunedau lleol yn deall pam y mae'r dirwedd yn edrych fel y mae hi. Ac rydw i'n myfyrio ar fy magwraeth, yn byw ym Mhenygroes yn blentyn hyd at naw mlwydd oed, gyda Dyffryn Nantlle ar fy stepen drws, ac efallai nad oeddwn i'n deall nac yn gwerthfawrogi beth oedd hynny i gyd yn ei olygu. Felly, tybed, Dirprwy Weinidog, sut y byddwch chi'n gweithio gyda'r Gweinidog Addysg i sicrhau bod ein plant yn ein cymunedau lleol, lle mae'r statws treftadaeth y byd hwn nawr, hefyd yn deall pwysigrwydd eu treftadaeth. Ac ie, i ymwelwyr ei ddeall yn dda, ond hefyd, ein cymunedau lleol, ac yn enwedig ein plant yn y cymunedau hynny.
Diolch, Sam, am y cwestiwn yna. Rwy'n credu bod hwn yn bwynt pwysig iawn, iawn yr ydych chi'n ei godi: mae ein hanes, ein treftadaeth, sut rydym ni wedi esblygu, a pham ein bod ni fel yr ydym ni heddiw, yn hynod bwysig, ac mae'n rhywbeth y mae angen i blant ei ddeall a dysgu amdano o oedran cynnar iawn. A dyna un o'r manteision y mae'r cwricwlwm newydd yn ei roi i ni; mae'n rhoi'r hyblygrwydd hwnnw i ni allu cyflwyno'r mathau hynny o bethau i'r cwricwlwm cenedlaethol. Ac fe wnaf i roi un enghraifft i chi. Roeddwn i'n falch iawn o gael gwahoddiad i ddigwyddiad yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn Sain Ffagan yn ddiweddar, lle roedd amrywiaeth fawr o ysgolion wedi bod yn rhan o brosiectau am eu cymunedau lleol, ac roedd hynny'n enghraifft dda iawn o sut y byddwch chi'n ennyn diddordeb plant ifanc iawn i ddysgu am eu hardal eu hunain a'i dod yn fyw, ac fe ddaethon nhw â'u prosiectau gyda nhw, ac fe enillodd rhai ohonyn nhw wobrau ac ati. A, wyddoch chi, yn yr ardal dwi'n ei chynrychioli, wrth gwrs, hen ddiwydiant glofaol a haearn, rydym ni'n gweld hynny'n hynod o bwysig i ddiwylliant yr ardal. Felly, nid oes gennyf i amheuaeth, pan fydd ysgolion yn edrych ar yr hyn y bydd y cwricwlwm cenedlaethol yn gallu ei gyflawni yn y meysydd hynny, y bydd hanes lleol, y diwylliant lleol hwnnw, boed yn iaith, boed yn ddiwydiant, boed yn dopograffi, beth bynnag ydyw mewn ardal sydd wedi gwneud yr ardal honno yr hyn yw hi heddiw, y bydd yn cael ei gynnwys mewn addysg plentyn. Byddai peidio â gwneud hynny'n warthus, ac mae gen i bob ffydd y bydd y cwricwlwm newydd yn caniatáu i ni wneud hynny.
Diolch i’r Dirprwy Weinidog am y cyhoeddiad yma. Mae hyn yn newyddion arbennig o dda, onid ydy? Mae’n rhoi statws, mae'n cydnabod pwysigrwydd ardal, tirlun, technoleg a phobl yr ardal yna o Gymru, nid yn unig i hanes Cymru, ond i hanes y byd, ac mae’n dangos hanes ardal yn teithio o ardal amaethyddol i fod yn un diwydiannol, ac wrth gwrs, heddiw yn un, yn rhannol yn ôl-ddiwydiannol. A dwi'n edrych ar Ddwyfor Meirionnydd a hanes chwarel Bryn Eglwys yn Abergynolwyn a rheilffordd Talyllyn sydd ynghlwm â hwnna, y ddinas llechi Blaenau Ffestiniog a rôl Bro Ffestiniog, ac, wrth gwrs, y porthladd a gariodd y llechi i’r byd, i Awstralia, i'r Unol Daleithiau, i Ddenmarc, ac yn y blaen—Porthmadog, a rôl Port yn yr hanes hwnnw. Mae’n rhywbeth i’w ddathlu a sicrhau ein bod ni'n rhoi ar gof a chadw ac yn cymryd pwynt Sam ynghynt o ran sut mae plant yn mynd i elwa, ac mae eisiau i ni roi ar gofnod fan hyn y gwaith rhagorol ddaru'r prosiect yma wneud efo Lle-CHI, a sicrhau bod plant yn cael budd yn dysgu, a phobl ifanc yr ardal.
Felly, ar hynny, o ran pwy sy’n cael budd o’r statws yma, gaf i ofyn ichi beth fyddwch chi’n ei wneud i sicrhau—o ran yr incwm sy'n mynd i ddod ac o ran y budd twristiaeth, beth fyddwch chi’n gwneud i sicrhau mai’r cymunedau yma fydd yn cael budd economaidd o’r buddsoddiadau ac o’r statws UNESCO newydd yma?
Diolch, Mabon, am y cwestiwn yna. Rwy'n credu bod hynny'n bwynt hynod bwysig, datblygu'r safleoedd hyn, cael safle treftadaeth y byd ar stepen drws, safle treftadaeth y byd arysgrifedig—wel, nid un yn unig, ond pedwar yng Nghymru—dau yn y rhan honno o Gymru, a phopeth a ddaw yn sgil hynny. Felly, ydy, mae'n ymwneud â chydnabod ac arddel ein hanes a phwysigrwydd yr hanes hwnnw, nid yn unig i Gymru ond i'r byd, fel yr ydych chi wedi'i nodi yn gwbl briodol, ond mae datblygu economi'r ardaloedd hynny'n bwysig, gan fod y rhain yn ardaloedd ôl-ddiwydiannol sydd wedi dioddef yn drwm o ganlyniad i golli'r diwydiannau hynny. Ac, unwaith eto, rwy'n cyfeirio at yr ardal rwy'n ei chynrychioli, ar ôl i'r diwydiannau glo a haearn fynd—ac mae gan fy nghyd-Aelod yma o Flaenau Gwent sefyllfa debyg—rydym ni'n dal i ymdrin â gwaddol dirywiad ôl-ddiwydiannol, felly os gallwn ni ddatblygu twristiaeth mewn ardal fel y gogledd orllewin sy'n taflu goleuni ar ei hanes ac sy'n dod â phobl yno i ddathlu'r hanes hwnnw gyda ni, yna mae'n rhaid i hynny fod yn dda i'r economi leol, ac os yw'r economi leol yn datblygu, yna mae pawb yn elwa. Yr hyn na allaf fi ei ddweud wrthych chi yw mewn punnoedd, sylltau a cheiniogau, faint mae pawb yn ei gael o ganlyniad i hynny. Ond os yw economi leol yn ffynnu, yna dylai'r bobl sy'n byw yn yr ardal honno fod yn cael budd o'r economi lewyrchus honno, a dyna'r nod cyffredinol.
Dirprwy Weinidog, ymwelodd y pwyllgor diwylliant â Llanberis ac Amgueddfa Lechi Cymru yn y gwanwyn, a chawsom gyflwyniadau gan bobl yno am y gwaith oedd yn cael ei wneud i gefnogi'r statws treftadaeth y byd a sut byddant yn adeiladu ar hynny. Fe gafodd y gwaith hwnnw a'r cyflwyniadau a gawsom argraff fawr arnaf fi. Fe gafodd y ffordd yr oedd Dafydd Wigley yn sbarduno ac yn arwain llawer o'r gwaith hwn argraff arbennig arnaf i, ac fe roddodd gyflwyniad ardderchog i ni ar y strwythurau yr oedden nhw wedi eu creu, ond hefyd ar sut yr oedden nhw'n dod â phobl at ei gilydd ac wedyn yn cyflawni uchelgais a gweledigaeth gyffredin. Y cwestiwn amlwg a ddaeth i fy meddwl i yn ystod y cyflwyniad hwnnw oedd, 'Pam na allwn ni wneud hyn yn rhywle arall?' Rydych chi eisoes wedi cyfeirio mewn ateb blaenorol at ein hanes cyffredin ym Mlaenau'r Cymoedd, y gylchran ddiwydiannol fawr o Flaenafon ar draws i Ddowlais. Ac rwy'n gofyn y cwestiwn eto: os yw'r model yn gweithio yn y gogledd, pam na all weithio mewn mannau eraill? Ac efallai sut y gallwn ni wedyn ddod â phobl at ei gilydd i fanteisio i'r eithaf ar botensial ein treftadaeth gyffredin a'n hanes cyffredin mewn rhannau eraill o'r wlad.
Rydw i'n credu, unwaith eto, bod hwn yn bwynt dilys iawn, Alun. Roeddwn i ar fin dweud bod gennych chi safle treftadaeth y byd yn eich etholaeth chi, ond, wrth gwrs, nid chi sy'n gyfrifol am hwnnw, un Lynne Neagle yw e—mae yn Nhorfaen, ym Mlaenafon. Ond serch hynny, mae gennym ni safle treftadaeth y byd yn y Cymoedd gogleddol.
Ond rwy'n credu os af yn ôl at y pwynt yr oedd Mabon yn ei godi—rydym ni'n cyfeirio at y prosiect LleCHI a oedd â chysylltiad agos â datblygiad arysgrif y dirwedd dreftadaeth yn y gogledd-orllewin. Roedd y plant hynny'n rhan mor bwysig o'r ffordd yr oedd y stori honno'n mynd i gael ei hadrodd a sut mae'r safle hwnnw i'w ddatblygu, ac os ydym ni am ddysgu gwersi arysgrifau treftadaeth y byd llwyddiannus, yna, ie, dylem ni fod yn cyflwyno hynny mewn mannau eraill. Does dim rhaid iddo fod mewn safleoedd treftadaeth y byd yn unig. Rydym ni'n gwybod am y math o dreftadaeth a hanes a thirweddau gwych sydd gennym ni yr holl ffordd ar draws y Cymoedd—mae Parc Rhanbarthol y Cymoedd yn enghraifft. Felly, mae angen i ni ddefnyddio'r enghreifftiau gorau gallwn ni ar gyfer datblygu atyniadau hanesyddol i ymwelwyr a thirweddau hanesyddol yng Nghymru a'r hyn sy'n gweithio a chyflwyno hynny ar draws safleoedd eraill. Ac yn hynny o beth, rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud.
Yn olaf, Janet Finch-Saunders.
Diolch, Llywydd. Diolch i chi, Dirprwy Weinidog, am gyflwyno eich datganiad. Mae'n ddiddorol iawn, ond o ystyried bod yr hen fater yna o ardoll dwristiaeth wedi codi—neu dreth dwristiaeth yw e mewn gwirionedd—oni fyddech chi'n cytuno â mi—? Fe sonioch chi eich bod yn mynd i Seland Newydd ac rydych chi wedi bod i'r Eidal ac ni wnaeth y ffaith eich bod chi'n talu ardoll dwristiaeth eich poeni chi na chael effaith arnoch chi, ond gadewch i ni fod yn onest, mae pobl Cymru wedi bod yn wynebu argyfwng costau byw ers cryn amser, oherwydd, mewn gwirionedd, mae'r cyflog canolrif cyfartalog yng Nghymru yn sylweddol llai na'r hyn a geir yn Lloegr. Nawr, mae llawer o'n twristiaeth ni yng Nghymru yn dwristiaeth ddomestig pryd mae pobl o un rhan o Gymru yn hoffi mynd i ran arall. Felly, sut mae gwneud synnwyr o'r hyn yr ydych chi newydd ei ddweud? Gadewch i ni fod yn onest, rydym ni'n Aelodau o'r Senedd sydd â lwfans sy'n sylweddol uwch na'r cyflog canolrif, felly sut mae pobl, er enghraifft, sy'n byw ym Mlaenau Gwent, ac sy'n penderfynu efallai i ddod i Aberconwy—sut ydych chi'n meddwl eu bod nhw, gyda'r argyfwng costau byw newydd, newydd hwn—? [Torri ar draws.] Arhoswch eiliad, rwy'n siarad â'r Dirprwy Weinidog. Wedi'i ddwysáu gan yr argyfwng costau byw yr ydym ni wedi'i weld ers blynyddoedd yng Nghymru ac un arall yn ymwneud â phroblemau ynni, sut ydych chi'n meddwl bod pobl ar incwm sefydlog neu isel, wir yn mynd i allu fforddio treth dwristiaeth? Diolch.
Janet, eto, dwi'n codi fy het i chi, dwi wir yn gwneud hynny. I Aelodau Ceidwadol sefyll i fyny a sefyll acw a siarad am ba mor flin y maen nhw'n teimlo dros bobl sy'n cael eu taro gan yr argyfwng costau byw, mae'n hollol anghredadwy. Ydych chi wedi anghofio'r difrod mae eich Llywodraeth chi wedi'i wneud dros y dyddiau diwethaf, heb sôn am y 12 mlynedd ddiwethaf? Felly, pan ydym ni eisiau siarad am argyfwng costau byw, gadewch i ni siarad am y datganiad cyllidol bach a gyhoeddwyd ddydd Gwener, yr ydych chi bellach wedi gorfod gwneud tro penodol yn ei gylch oherwydd ei fod mor amhoblogaidd, am sut yr oeddech chi—[Torri ar draws.]—sut mae eich Llywodraeth chi—sut mae eich Llywodraeth chi—wedi benthyg miliynau—[Torri ar draws.]—wedi benthyg miliynau—i geisio mynd i'r afael â'r argyfwng ynni, yn hytrach na threthu'r cwmnïau ynni sydd wedi gweld yr elw mwyaf erioed sy'n gannoedd o biliynau o bunnau. Yn hytrach, yr hyn mae eich Llywodraeth yn y DU wedi'i wneud yw rhoi pobl Prydain mewn dyled am flynyddoedd i ddod. Felly, dydw i ddim yn mynd i sefyll yma a chymryd unrhyw wersi gan Geidwadwyr am—[Torri ar draws.] Dydw i ddim yn mynd i gymryd unrhyw wersi gan unrhyw wleidydd Ceidwadol am effeithiau'r argyfwng costau byw ar bobl yng Nghymru. Diolch.
Diolch yn fawr i'r Dirprwy Weinidog am y datganiad hwnnw. Ac a gaf i ofyn i chi weiddi, ar ran pob un o'r 60 o Aelodau yn y fan yma, yn uchel iawn i gefnogi tîm merched rygbi Cymru pan ewch chi i Seland Newydd ymhen ychydig ddyddiau neu wythnosau? Pob lwc. [Torri ar draws.] Pan fyddan nhw'n cyrraedd y rowndiau terfynol—a dywedais 'pan' nid 'os', Joyce—fe ofynnwn ni i'r Dirprwy Weinidog weiddi drostyn nhw hefyd.