Part of the debate – Senedd Cymru am 4:46 pm ar 4 Hydref 2022.
Diolch, Llywydd. Mae colli bioamrywiaeth a chwymp ecosystemau yn brif fygythiad i'r ddynoliaeth. Mae'r amgylchedd naturiol yn sail i'n lles a'n ffyniant economaidd, ond eto mae ein perthynas ag ef yn gwbl anghynaladwy. Er mwyn sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn gallu mwynhau ein treftadaeth naturiol hardd, mae angen i ni gyflymu'r camau yr ydym yn eu cymryd i atal y dirywiad mewn bioamrywiaeth.
Dros yr haf, rwyf wedi bod yn gweithio gyda grŵp o arbenigwyr ac ymarferwyr allweddol i ymgymryd ag archwiliad dwfn bioamrywiaeth i ddatblygu set o gamau gweithredu ar y cyd y gallwn eu cymryd yng Nghymru i gefnogi adferiad natur. Cynhaliwyd yr archwiliad dwfn cyn Cynhadledd Partïon y Cenhedloedd Unedig, neu COP15, yng Nghanada ym mis Rhagfyr, lle bydd arweinwyr byd-eang yn cwrdd i gytuno ar dargedau am y 10 mlynedd nesaf i fynd i'r afael â'r argyfwng natur.
Trwy'r archwiliad dwfn, nodwyd argymhellion allweddol gennym i sicrhau bod y targed yn cael ei gyflawni'n ystyrlon, targed a elwir yn 30x30: diogelu a rheoli o leiaf 30 y cant o'n tir, dŵr croyw a môr ar gyfer byd natur erbyn 2030. Dyma un o'r targedau byd-eang i'w cytuno yn COP15. Mae'r argymhellion hyn yn ategu'r camau yr ydym eisoes yn eu cymryd fel Llywodraeth, gan gynnwys y cynllun gweithredu diweddar i fynd i'r afael â llygredd ffosfforaidd yn ein hafonydd, a gweithredu targedau natur statudol.
Blaenoriaeth fydd trawsnewid ein cyfres o safleoedd gwarchodedig fel ei bod yn well, yn fwy, ac wedi'i chysylltu yn fwy effeithiol. Y safleoedd gwarchodedig hyn yw'r elfennau mwyaf gwerthfawr ar gyfer bioamrywiaeth ac fe'u dynodwyd i warchod rhai o'n cynefinoedd a'n rhywogaethau pwysicaf yng Nghymru. Byddwn yn ehangu ac yn cyflymu ein rhaglen rhwydweithiau natur i wella cyflwr a chysylltedd ein rhwydwaith safleoedd gwarchodedig ac adfer cyflwr cynefinoedd allweddol er mwyn sicrhau bod planhigion ac anifeiliaid mewn sefyllfa well i wrthsefyll newid hinsawdd. Bydd dynodi rhagor o safleoedd yn arf pwysig hefyd o ran helpu i ddiogelu ein safleoedd mwyaf agored i niwed, ynghyd â rheoli'n briodol. Byddaf hefyd yn codi uchelgais ein rhaglen weithredu genedlaethol ar fawndir, fel y bydd y rhaglen, erbyn 2030, yn cyflawni ar raddfa sy'n gallu cyrraedd targed sero-net 2050 o 45,000 hectar o fawndir wedi'u hadfer.
Er mwyn cefnogi dulliau partneriaeth cydweithredol lleol, mae'n bleser gennyf gyhoeddi y byddwn yn darparu £3.3 miliwn yn ychwanegol i bartneriaethau natur lleol dros y tair blynedd nesaf. Rydym yn cydnabod bod y partneriaethau hyn yn allweddol o ran dod â sefydliadau, busnesau a chymunedau ynghyd i gymryd camau ar y cyd i fynd i'r afael â blaenoriaethau lleol.
Mae ein hamgylchedd morol yn cynnwys rhai o'r moroedd mwyaf biolegol amrywiol yn y DU, a bron i 50 y cant wedi'u diogelu o fewn y rhwydwaith ardaloedd morol gwarchodedig. Fodd bynnag, er bod gennym gynefinoedd a rhywogaethau allweddol a warchodir fel y dolffin trwynbwl, mae ychydig dros hanner y rheiny mewn cyflwr anffafriol. Fel blaenoriaeth, byddwn yn cyflymu camau i gwblhau'r rhwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig, er mwyn sicrhau bod y diffygion o ran gwarchod cynefinoedd a nodweddion yn cael sylw. Cyn bo hir, byddaf yn lansio'r broses o ddynodi parthau cadwraeth morol fel rhan o'n camau i gwblhau'r rhwydwaith. Byddwn yn cwblhau'r gwaith o asesu rhyngweithio gêr pysgota posibl â nodweddion ardaloedd morol gwarchodedig. Bydd hyn yn ein galluogi i ddeall pa ddifrod y mae'r rhain yn ei wneud i nodweddion ardaloedd morol gwarchodedig a pha fesurau rheoli y gallai fod eu hangen i atal hyn.
Rwyf hefyd yn dymuno datgloi potensial tirweddau dynodedig parciau cenedlaethol ac ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol i gyflawni mwy ar gyfer natur. Rwy'n credu bod ganddynt swyddogaeth hanfodol wrth wyrdroi dirywiad natur, yn ogystal â chyfrannu at y targed 30x30 yn rhai o'n tirweddau mwyaf annwyl ac eiconig. Byddwn ni'n cefnogi parciau cenedlaethol ac AHNE i ddatblygu cynlluniau gweithredu â blaenoriaeth ar gyfer adfer natur, gan ymwreiddio'r rhain mewn cynllunio strategol.
Llywydd, rydym hefyd yn dymuno sefydlu cyfres o ardaloedd enghreifftiol sy'n adfer natur—naill ai cydweithrediadau presennol neu newydd ar raddfa dirwedd o weithredwyr cyhoeddus, preifat, gwirfoddol a chymunedol a all ddod at ei gilydd i reoli ac adfer natur mewn ardaloedd gwarchodedig a'r dirwedd ehangach.
Rydym hefyd yn dymuno archwilio swyddogaeth statws ddiffinedig newydd mesurau cadwraeth effeithiol eraill sy'n seiliedig ar ardal, OECMs, yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur, wrth gydnabod ardaloedd y tu allan i safleoedd gwarchodedig a all gyfrannu at 30x30. Byddaf yn sefydlu gweithgor arbenigol i nodi ardaloedd enghreifftiol adfer natur ac OECMs posibl, gan gynnwys y cyfryngau rheoli a'r dulliau cyllido sydd eu hangen i sefydlu'r rhain.
Llywydd, byddwn ni'n parhau i ddiwygio rheoli a chynllunio tir a morol, gan gynnwys cynllunio gofodol, i gyflawni mwy ar gyfer safleoedd gwarchodedig a thirluniau a morluniau ehangach. Byddwn ni'n dilyn trywydd gofodol strategol, a ategir gan dystiolaeth gadarn, i sicrhau ein bod yn cymryd y camau cywir yn y lle cywir. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy ganllawiau cryfach, fel polisi 9 'Cymru'r Dyfodol', prif ffrydio bioamrywiaeth, cadernid ecosystemau a seilwaith gwyrdd.
Rydym yn dymuno buddsoddi mewn cynghorwyr arbenigol i weithio gyda rheolwyr tir a ffermwyr i reoli cynefinoedd allweddol a sicrhau bod y cymhellion cywir wedi'u cynllunio'n rhan o gynllun ffermio cynaliadwy yn y dyfodol.
Bydd mynd i'r afael â cholled bioamrywiaeth erbyn 2030 yn gofyn i'r ddarpariaeth bresennol fod yn fwy effeithiol a chael ei chyflwyno ar raddfa fwy. Rydym yn cydnabod bod angen i ni ddatgloi cyllid ychwanegol i gyflawni ar gyfer natur ar raddfa a chyflymder llawer mwy. Fel deiliaid cyllideb allweddol, mae gennym ran yn hyn hefyd; mae angen i ni sicrhau bod ein holl gyllidebau yn ceisio cyfrannu neu gyflawni camau cadarnhaol sy'n gadael bioamrywiaeth mewn cyflwr gwell.
Mae angen monitro effeithiol i gofnodi cynnydd tuag at ddarparu 30x30. Byddaf yn sefydlu grŵp gorchwyl monitro a thystiolaeth i barhau â'r gwaith sydd ei angen i sefydlu fframweithiau monitro a thystiolaeth cadarn a phriodol.
Mae angen dull ar draws y gymdeithas i fynd i'r afael â'r argyfyngau natur a hinsawdd. Mae angen i ni adeiladu sylfaen gref ar gyfer darparu capasiti yn y dyfodol drwy feithrin capasiti, newid ymddygiad, codi ymwybyddiaeth a datblygu sgiliau, cryfhau cysylltiadau rhwng cymunedau lleol a natur, a helpu pobl i ddeall a gallu cymryd camau a fydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol.
Llywydd, mae angen ymdrech tîm Cymru i ysgogi degawd o weithredu penderfynol er mwyn i ni allu rhoi'r brêcs ar ddirywiad bioamrywiaeth. Mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom ni sydd yma heddiw i arwain drwy esiampl fel bod cenedlaethau'r dyfodol yn gallu mwynhau'r amgylchedd naturiol, fel yr ydym ni wedi ei wneud. Rwy'n hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi cymryd rhan yn fy archwiliad dwfn, yn enwedig y grŵp craidd, yr is-grwpiau arbenigol a'r trafodaethau bwrdd crwn, gan helpu i'n rhoi ar lwybr i gyflawni ar gyfer dyfodol sydd wedi'i gyfoethogi gan natur. Diolch.