Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 5 Hydref 2022.
Nid wyf yn gwybod a glywsoch chi fy ymatebion i gwestiynau cynharach, Mark Isherwood. Fe ddywedais, ac rwyf am ailadrodd, fod lefelau tlodi plant wedi gostwng flwyddyn ar ôl blwyddyn o dan y Llywodraeth Lafur, a'u bod wedi codi flwyddyn ar ôl blwyddyn dros y 12 mlynedd diwethaf o dan y Llywodraeth glymblaid a Llywodraethau Torïaidd, o ganlyniad i bolisïau uniongyrchol a bwriadol. A glywsoch chi Gordon Brown y bore yma pan ddywedodd ei fod wedi cael ei brofi’n economaidd na allwch gael cynllun twf—sef yr hyn yr ydych chi'n ceisio’i ddweud—sy'n seiliedig ar doriadau treth a gwneud i'r tlawd dalu er lles y cyfoethog? Oherwydd dyma sy’n digwydd o ganlyniad i’r gyllideb fach hon. Os gwelwch yn dda, a wnewch chi ddylanwadu ar eich Llywodraeth i sicrhau bod yr ysgogiadau allweddol sydd ganddynt ar gyfer trechu tlodi plant yn cael eu defnyddio?