1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 5 Hydref 2022.
5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y bydd datganiad cyllidol Llywodraeth y DU yn ei gael ar allu pobl i dalu am filiau ynni? OQ58477
Diolch am y cwestiwn. Mae'r mesurau a gyhoeddwyd yn natganiad y Canghellor yn annheg. Maent yn methu darparu cefnogaeth i'r bobl fwyaf agored i niwed, gan ddarparu budd sylweddol i'r bobl gyfoethocaf ar yr un pryd. Bydd hyn yn golygu y bydd mwy o gartrefi yng Nghymru yn ei chael hi'n anodd talu costau ynni ac eitemau hanfodol eraill, gan arwain at lefelau uwch o dlodi.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog, ac rwy'n cytuno â'ch casgliad. Ni fydd y cynlluniau hyn yn gwneud fawr ddim i gefnogi teuluoedd drwy'r cyfnod anodd hwn ac yn hytrach, maent yn canolbwyntio ar roi mwy o arian yn nwylo'r cyfoethog. Mae hyn yn golygu bod y gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru hyd yn oed yn fwy hanfodol, ac rwy'n derbyn bod y Llywodraeth wedi rhoi llawer mwy mewn grantiau costau byw nag y mae wedi ei gael gan Lywodraeth y DU at y diben hwn. Mae pryderon, fodd bynnag, y gallai'r grantiau hyn fod yn anhygyrch i'r rhai sydd eu hangen fwyaf, oherwydd allgáu digidol neu ddiffyg mynediad at wasanaethau cyhoeddus. Fe'i codwyd yn ddiweddar mewn uwchgynhadledd costau byw a fynychais ym Mhlas Madoc, gyda fy nghyd-Aelod, Ken Skates.
Yn ystod y pandemig, ysgrifennodd Llywodraeth Cymru at bob cartref i sicrhau bod gan bawb fynediad at yr wybodaeth yr oeddent ei hangen. Weinidog, a ydych yn cytuno â mi fod angen ymgyrch debyg, wrth inni wynebu anterth yr argyfwng costau byw hwn, fel bod pawb yn ymwybodol o'r cymorth ariannol sydd ar gael yma yng Nghymru a sut y gallant gael mynediad ato?
Wel, mae hwnnw'n gwestiwn pwysig iawn, Carolyn Thomas, ac mae'n dilyn yr hyn yr oedd Russell George yn ei ddweud yn gynharach: sut y gallwn wneud yn siŵr fod y budd-daliadau sydd gennym yn cyrraedd y bobl sydd â hawl iddynt? Rydym yn gwybod bod llawer eisoes—rwyf wedi dweud, rwy'n credu, fod rhywfaint o'r grant cymorth tanwydd gwerth £200 yn mynd yn syth i gyfrifon, oherwydd bod pobl wedi ymgysylltu'n ddigidol ac oherwydd bod ganddynt gyfrifon ar gyfer cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor. Felly, rydym yn edrych i weld sut y gallwn, gyda'n partneriaid llywodraeth leol, ein landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, y trydydd sector, Cyngor ar Bopeth, helpu wyneb yn wyneb os oes angen, a hyfforddi mwy o bobl ym maes cyngor ar fudd-daliadau. Yn sicr, rhannodd Jenny Rathbone gyfarfod tebyg yr wythnos diwethaf yn Llanedeyrn, lle dywedodd ymwelwyr iechyd, 'Gallant ddweud, "Efallai fod gennych hawl i hyn", ond mae angen help ar bobl i lenwi ffurflenni cais ac yn y blaen'. Felly, dyma rywbeth ymarferol hanfodol sydd angen inni ei wneud, ac fe fyddwn yn ei wneud, ond rwyf eisiau dweud y bydd ein hymgyrch gaeaf 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi', y cam nesaf—mae angen i chi i gyd ein helpu gyda hyn—yn targedu cartrefi drwy hysbysebion radio, teledu, galwadau i rif ffôn ymgyrch Advicelink. Mae gan bawb yma etholwyr yr ydych eisiau iddynt hawlio'r hyn y mae ganddynt hawl iddo. Mae 9,000 o bobl wedi ymateb i'r alwad i gysylltu ag Advicelink Cymru, ac mae hynny wedi helpu pobl i hawlio dros £2.6 miliwn o incwm ychwanegol.
Gofynnais i Chloe Smith, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, fel y gwnaeth fy nghyd-Aelodau o'r Alban a Gogledd Iwerddon, a fyddai Llywodraeth y DU yn ymuno â ni mewn ymgyrch i gynyddu hawliadau ar draws y DU, ac rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno mai dyma'r ffordd ymlaen.
Wel, ar nodyn mwy cadarnhaol na fy nghyd-Aelod, rwy'n eithaf bodlon mewn gwirionedd gyda'r camau y mae Llywodraeth y DU yn eu cymryd. Popeth a wnawn yn awr, mae'n gyllideb fach ar gyfer twf, mae'n gyllideb fach i gael pobl yn ôl mewn gwaith. Ac mae'n rhaid i mi ofyn, yn dilyn pandemig COVID a'r ffaith bod gennym ryfel dychrynllyd yn Wcráin, sut yn union y byddech chi'n ei wneud a sut y byddai Llafur yn ei wneud. Nid oes gennych unrhyw atebion, dim ond beirniadaeth. Ac rwy'n dweud wrthych, mae'r bobl wedi gweld drwy hynny. Mae araith y Prif Weinidog heddiw wedi cael derbyniad gwych, ac mae sylwadau cadarnhaol ym mhobman. Felly, beth bynnag, rydym ni hefyd wedi cymryd—a phan ddywedaf 'ni', mae Llywodraeth y DU wedi cymryd nifer o gamau a fydd o fudd i bobl Cymru: capio biliau ynni ar £2,500 pan allent fod wedi bod yn £6,000—hyn, yn ychwanegol at y gostyngiad o £400 i bob aelwyd—[Torri ar draws.]
Dim pwynt o drefn. Parhewch â'ch cwestiwn, Janet.
Iawn. Diolch, Lywydd. A thaliadau ychwanegol i'r rhai mwyaf agored i niwed. Yn y gyllideb fach, cyhoeddwyd y byddai 1.2 miliwn o bobl yn elwa o'r toriad i gyfradd sylfaenol y dreth incwm a bydd 2 filiwn yn cael toriad yswiriant cenedlaethol o £235—[Torri ar draws.]
Na, dim pwynt o drefn. Rwy'n siŵr y gwnaiff y Gweinidog ymateb.
Mae'r mesurau hyn yn dangos mai Llywodraeth Geidwadol y DU sy'n ceisio lleddfu'r baich ar ein haelwydydd ni yma yng Nghymru. Oherwydd y toriad i'r dreth stamp yn Lloegr, mae disgwyl i Lywodraeth Cymru dderbyn £70 miliwn yn ychwanegol yn awr. Felly, a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthyf sut yn union y bwriadwch wario'r arian hwnnw?
Rwy'n rhyfeddu bod gennych wyneb i siarad yn y ffordd honno, Janet Finch-Saunders, pan fo gennym ni bobl yng Nghymru nawr nad ydynt yn gallu rhoi eu trydan ymlaen, nad ydynt yn gwybod o ble y byddant yn cael eu pryd nesaf, o ganlyniad i'ch Llywodraeth [Torri ar draws.] Nid wyf am ailadrodd popeth—rwy'n siŵr y bydd y Llywydd yn fy atal beth bynnag—ond ble y maent hwy am ddod o hyd i'r £45 biliwn? Maent wedi cael dau dro pedol yn barod. Ble maent—? Felly, rwyf am ddweud wrthych ble—mae'r Resolution Foundation yn dweud ei fod naill ai'n golygu torri gwasanaethau cyhoeddus neu dorri budd-daliadau lles, a fydd yn achosi mwy o dlodi ac amddifadedd.
Mae'n rhaid inni gydnabod bod cynyddu budd-daliadau, gan gynnwys pensiwn y wladwriaeth, drwy enillion yn lle chwyddiant—. Byddai toriad o 4 y cant mewn termau real yn costio dros £1,000 y flwyddyn i deulu incwm isel nodweddiadol gyda dau o blant. Beth a wnewch gyda'r etholwyr hynny, Janet Finch-Saunders? A gaf fi ddweud bod Dadansoddi Cyllid Cymru wedi nodi y bydd bron i 90 y cant o'r enillion yng Nghymru yn mynd i aelwydydd yn y 50 y cant uchaf? A ydych chi'n cytuno gyda hynny? Bydd 90 y cant o'ch polisïau, yn gyllidol, yn mynd i'r 50 y cant uchaf yma yng Nghymru; bydd 40 y cant yn mynd i gartrefi yn y 10 y cant uchaf yn eich etholaeth chi. Pam na all Llywodraeth y DU gael ei blaenoriaethau'n iawn? Dylent dargedu'r dreth ffawdelw i dalu am hyn, er mwyn talu am eu cyllideb sy'n torri trethi. Nid fydd yn sicrhau twf; bydd yn creu tlodi ac amddifadedd, ac mae hynny'n drasiedi i'r bobl a gynrychiolwn yng Nghymru.
Cwestiwn 6, i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog. James Evans.