Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 5 Hydref 2022.
Diolch am y cwestiwn. Rwyf eisoes wedi gwneud datganiad ar hynny—mae datganiad ysgrifenedig wedi cael ei gyhoeddi. Credaf ei fod yn ddatganiad a oedd yn cynnwys cryn dipyn o bethau cadarnhaol, oherwydd roedd yn dangos bod modd goresgyn llawer o'r materion technegol a'r problemau a fyddai'n deillio o system etholiadol wedi'i digideiddio a bod modd eu gweinyddu, a chredaf y byddwn yn dysgu'r gwersi hynny pan fyddwn yn ystyried y ddeddfwriaeth wrth inni ddatblygu'r polisi mewn perthynas â'n gwaith diwygio etholiadol ein hunain. Hoffwn ddweud fy mod wedi cyfarfod â'r Comisiwn Etholiadol ar sawl achlysur. Rydym wedi trafod yr adroddiad. Rwyf wedi cyfarfod â chadeirydd newydd y Comisiwn Etholiadol yn ogystal i drafod hynny, ac mae canlyniad y trafodaethau hynny wedi bod yn gadarnhaol iawn yn fy marn i.