Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 5 Hydref 2022.
Diolch am yr ymateb hwnnw. Rwy'n sylwi na wnaethoch gyfeirio at yr effaith ar nifer y pleidleiswyr, wrth gwrs, sef y rheswm pennaf dros gynnal y cynlluniau treialu pleidleisio cynnar yn yr awdurdodau lleol dan sylw. Mae adroddiad y Comisiwn Etholiadol yn ei gwneud yn gwbl glir bod nifer y pleidleiswyr ym mhob un o'r pedwar awdurdod lleol—Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili a Thorfaen—wedi gostwng mewn gwirionedd; nid oedd unrhyw gynnydd o gwbl. Nid yn unig y mae wedi gostwng yn unol â'r cyfartaledd cenedlaethol; mae wedi gostwng yn is mewn gwirionedd na'r cyfartaledd cenedlaethol yn yr etholiadau awdurdodau lleol hynny a gynhaliwyd ledled Cymru. A ydych yn derbyn, felly, mai'r ffordd orau o hyrwyddo pleidleisio cynnar yw drwy'r system bresennol sydd gennym eisoes, sef pleidleisiau post—ac nad oes arnom angen y datblygiadau eraill honedig arloesol hyn y credwch fod eu hangen?