1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 11 Hydref 2022.
2. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Phrif Weinidog y DU ynglŷn â'r argyfwng costau byw sy'n wynebu trigolion yng nghanolbarth a gorllewin Cymru? OQ58550
Llywydd, ni ddaeth cyfle i drafod hwn nac unrhyw fater arall o du Prif Weinidog diweddaraf y DU.
Wel, rwy'n credu bod hynny'n hurt. Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Ferch, efallai y dylai Liz Truss fyfyrio ar yr hyn yr ydym ni'n ei ddysgu i'n plant am bwysigrwydd deialog a thrafodaeth agored. Pan lwyddwch i gael gafael arni, a wnewch chi bwyso ar Brif Weinidog y DU i roi ateb i'r tri cham gweithredu ar gostau byw y mae'r gweinyddiaethau datganoledig yn galw amdanyn nhw: y cynnydd o £25 i bob budd-dal sy'n dibynnu ar brawf modd, diddymu'r cap budd-dal a'r terfyn dau blentyn, ac ymgyrch frys i hybu'r nifer sy'n manteisio ar fudd-daliadau? Byddai'r camau hyn yn lleddfu'r baich ar lawer o aelwydydd yn fy rhanbarth i ar unwaith ac yn atal degau o filoedd yn fwy o bobl yn y wlad hon rhag cael eu gwthio i dlodi.
Llywydd, diolch i Joyce Watson am hynna, a diolch iddi am dynnu sylw at y ffaith ei bod hi'n ddiwrnod y ferch heddiw. Mae Llywodraeth Cymru wedi chwarae ein rhan, ynghyd â llywodraethau o amgylch y byd yn hynny o beth. Rwy'n falch iawn yn wir o roi gwybod i'r Aelodau fod Jaime, sydd wedi bod yn fy nghysgodi dros y 24 awr ddiwethaf, yn yr oriel a bydd yn gwylio ein trafodion y prynhawn yma. Llywydd, wrth gwrs, pan fydd cyfleoedd yn codi, bydd Gweinidogion eisiau dilyn y pwyntiau yr ydym wedi'u gwneud i Lywodraeth y DU drwy'r ohebiaeth gan ein Gweinidog cyllid. Ond nid yn unig y ffaith na ddaeth gwahoddiad i gwrdd â Phrif Weinidog y DU, ond y ffaith nad yw un o gydrannau'r adolygiad rhynglywodraethol y cytunwyd arnyn nhw yn ofalus ac a gwblhawyd gan Lywodraeth ddiwethaf y DU, y cytunwyd arno gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, yn gweithredu ychwaith. Roedd cyfarfod o'r hyn sy'n cael ei alw'n FISC, Y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid i fod i ddigwydd. Roedd i fod i ddigwydd ym mis Medi; cafodd ei ohirio gan Lywodraeth y DU. Fe'i haildrefnwyd ar gyfer 5 Hydref; mae wedi cael ei ohirio eto gan Lywodraeth y DU. Nid yw un o'r ddau bwyllgor hynny—y pwyllgor gweinidogol a'r pwyllgor cyllid—wedi cwrdd ers i'r Prif Weinidog newydd ddod i rym. Sefydlwyd 11 o grwpiau ar lefel weinidogol dan yr adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol. Bu 20 o gyfarfodydd o'r grwpiau hynny rhwng mis Mawrth a dechrau mis Medi. Does dim un ohonyn nhw wedi cwrdd ers i'r Prif Weinidog newydd ddod i rym. Mae'n chwalfa—mae'n chwalfa—o set o drefniadau y cytunodd y Llywodraeth Geidwadol ddiwethaf, dan arweiniad ac, i raddau, a ddigwyddodd yn y chwe mis rhwng mis Mawrth a mis Medi. Fe wnawn ni gymryd pa bynnag gyfleoedd sy'n dod i'n rhan ni, ond y gwir yw bod Llywodraeth bresennol y DU wedi troi ei chefn nid yn unig ar ein dyfodol economaidd, ond ar ddyfodol y Deyrnas Unedig hefyd.
Prif Weinidog, mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn dechrau ymchwiliad i ddeintyddiaeth yn ddiweddarach yr wythnos hon. Fel y gwyddoch chi, mae problemau enfawr o ran pobl yn gallu cael triniaeth ddeintyddol, ond un o'r prif broblemau yw'r effaith y bydd yr heriau costau byw yn ei chael ar gleifion. Pryder a godwyd yw y bydd cleifion sy'n cael triniaeth breifat nawr yn ymuno â rhestrau aros y GIG, neu'n ceisio ymuno â nhw, ac, yn ôl Conffederasiwn GIG Cymru, mae gan hynny'r potensial i roi mwy o bwysau fyth ar y system. Nawr, yn ôl ymatebion yr ymgynghoriad, mae anghydraddoldebau enfawr ym maes iechyd y geg. Nid yw cleifion newydd sy'n byw yn y canolbarth, yn enwedig os ydych chi'n byw ym Mhowys, yn gallu cael gafael ar ddeintydd y GIG o gwbl. Felly, a gaf i ofyn beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i gau'r bwlch anghydraddoldeb? A beth mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud i gefnogi'r rhai nad ydyn nhw'n gallu fforddio cael gafael ar driniaeth ddeintyddol?
Wel, Llywydd, bydd unrhyw beth yr wyf i ar fin ei ddweud, gall yr Aelod fod yn sicr, yn bitw o gymharu ag effaith y toriadau y gwyddom bellach eu bod ar eu ffordd. Felly, mae angen rhyw fath o realaeth bwyllog, hyd yn oed gan Aelodau ar y meinciau Ceidwadol. Nawr, o ganlyniad i'r newidiadau i'r contract deintyddol, newidiadau a oedd, wrth gwrs, yn cael eu gwrthwynebu gan Aelodau ar y meinciau hynny, bydd degau o filoedd o apwyntiadau newydd ar gael yng ngwasanaeth deintyddol y GIG yn y flwyddyn galendr hon. Eisoes, mae miloedd yn rhagor o gleifion y GIG yn cael eu derbyn ym mhob rhan o Gymru. Roedd yna dwf disgwyliedig, rwy'n credu, o ychydig dros 120,000 o gleifion deintyddol o ganlyniad i'r newidiadau i'r contract. Rydym ni wedi cyflawni dros hanner hynny yn hanner cyntaf y flwyddyn, ac mae hynny'n cynnwys ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys—y bwrdd iechyd lleiaf oll—lle mae cannoedd a channoedd o apwyntiadau newydd yn bosibl. Rwy'n credu bod hynny'n deyrnged i'r gwaith a wnaed ochr yn ochr â Chymdeithas Ddeintyddol Prydain i lunio'r cytundeb newydd, ond bydd y pwysau yr ydym ar fin ei wynebu yn cael ei deimlo ym maes deintyddiaeth, fel ym mhob rhan arall o'r gwasanaethau a ddarperir gan GIG Cymru.
Prynhawn da, Prif Weinidog. Rwyf eisiau dweud fy mod i'n teimlo ei bod hi'n drist iawn nad yw'r Ceidwadwyr ar ochr arall y meinciau yn gwrando ar y pryderon go iawn sydd gennym ni ynghylch gwasanaethau yma yng Nghymru. Rwy'n gobeithio, drwy wrando—drwy wrando—eich bod yn gallu cyfleu'n glir iawn y neges bod angen sgwrs rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru er mwyn datrys ein gwasanaethau cyhoeddus, oherwydd rydym yn clywed, tra bo pensiynwyr yn destun clo triphlyg ar eu pensiwn gwladol, mae'r rhai sy'n hawlio mathau eraill o fudd-daliadau lles yn wynebu'r posibilrwydd o doriadau sylweddol mewn termau real i'r hyn y byddant yn ei gael. Gobeithio, Prif Weinidog, y byddwch chi'n condemnio'r sefyllfa benodol honno, ac y bydd hynny'n cael ei glywed gan gydweithwyr Ceidwadol hefyd, ac rwy'n gobeithio y bydd pethau'n newid o ran y mater penodol hwnnw.
Rwyf eisiau edrych ar ddigartrefedd, yn enwedig mater tai yn y canolbarth a'r gorllewin, a diolch i fy nghyd-Aelod am godi'r mater penodol hwn. A wnewch chi amlinellu'r camau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd i sefydlu llawr ar gyfer taliadau tai dewisol, a fyddai'n rhoi sicrwydd i gynghorau o ran yr arian sydd ar gael iddyn nhw i atal achosion o droi allan a digartrefedd? Diolch yn fawr iawn.
Diolch i Jane Dodds. Ar ddiwrnod sobreiddiol iawn, mae'n hollol sobreiddiol dychmygu y gallai'r bobl sy'n ymdopi ar bron i ddim yn ein cymdeithas ac sy'n gweld eu biliau'n cynyddu drwy'r amser, fod yn wynebu'r ffaith na fydd eu budd-daliadau hyd yn oed yn codi yn unol â chwyddiant, fel yr addawyd ym maniffesto'r Ceidwadwyr yn 2019. Rwy'n cytuno â Penny Mordaunt, a ddywedodd y byddai'n amhosibl meddwl y gallai hynny ddigwydd.
Yr wythnos diwethaf, gofynnais i arweinydd yr wrthblaid yma a fyddai'n ychwanegu ei lais at yr ymgyrch i sicrhau bod y lleiaf cefnog yn ein cymdeithas yn cael eu diogelu drwy gynyddu eu budd-daliadau yn unol â chwyddiant. Rwy'n cynnig y cyfle hwnnw iddo eto'r prynhawn yma. Bydd yn ymuno â llawer o Geidwadwyr sy'n credu y dylai hynny fod yn wir. Os nad ydyw, bydd popeth arall yr ydym yn ei weld a fydd yn effeithio ar fywydau'r bobl hynny yn cael eu gwneud hyd yn oed yn llai dioddefadwy gan weithredoedd Llywodraeth a fydd wedi dewis ei blaenoriaethau—fel y gwyddom, gan godi'r cap ar fonysau bancwyr a bod yn barod i dorri budd-daliadau y rhai lleiaf cefnog.
Mae hynny'n sicr i'w deimlo ym maes tai, fel y dywedodd Jane Dodds. Cafodd taliadau tai dewisol eu torri gan y Llywodraeth Geidwadol ddiwethaf. Maen nhw'n offerynnau mor ddefnyddiol i awdurdodau lleol, dyma'n union y math o beth yr oedd Peter Fox yn cyfeirio ato'n gynharach. Arian lleol sy'n caniatáu i awdurdod lleol ymateb i'r setiau penodol o amgylchiadau y maen nhw'n yn eu hwynebu a'r hyn y gallan nhw ei wneud i ymyrryd gyda'r taliadau dewisol hynny i osgoi'r llwybr llawer drytach, sef teuluoedd yn dod yn ddigartref. Rydym yn gwneud ein gorau yn y flwyddyn ariannol hon i roi mwy o'n harian i wneud yn iawn am golli arian y DU yn y maes hwn. Ond, ni fydd ond yn un peth arall ar restr hir iawn o bethau na fyddwn yn gallu eu cynnal ar y lefel bresennol os yw ein cyllidebau'n cael eu lleihau yn y ffordd yr addewir nawr.
Prif Weinidog, pan fydd Prif Weinidog y DU yn siarad â chi o'r diwedd ac nid amdanoch chi yn unig, a wnewch chi ei sicrhau hi ar ran pobl y canolbarth a'r gorllewin nad ydych chi yn erbyn twf o gwbl ond eich bod chi gyda balchder, yn erbyn trachwant?
Llywydd, mae'r nonsens ein bod ni rywsut—er ein bod ni ar restr hir iawn, iawn o bobl eraill y mae Prif Weinidog y DU wedi nodi nad ydyn nhw'n rhannu ei barn hi ar y byd, mae'n debyg. Tyfodd economi Cymru, yn ôl y ffigurau a gyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol a gyhoeddwyd ym mis Medi, yn gynt y llynedd nag unrhyw genedl arall yn y Deyrnas Unedig. Felly, pa ffon fesur posibl y mae Prif Weinidog y Du yn ei defnyddio i ddod i'r casgliad ein bod yn gwrthwynebu twf, wel nid oes gennyf syniad o gwbl. Rydym ni'n gwybod—ac yn sicr fe wnaeth Ken Skates, yn ei gyfrifoldebau blaenorol, lawer iawn i gyfrannu at hyn—y cynhwysion sy'n creu twf. Mae'n fuddsoddiad gan y cyhoedd a'r sectorau preifat i wneud yn siŵr bod gan bobl sy'n cyflawni swyddi yn economi Cymru a'r DU yr offer gorau posibl ar gael iddyn nhw, ac mae'n fuddsoddiad mewn sgiliau fel bod y bobl sydd gennym mor gymwys ag y gallan nhw fod hefyd i wneud eu cyfraniad mwyaf at yr economi.
Mae'r syniad bod y Deyrnas Unedig, sydd eisoes yn economi dreth isel wedi'i dadreoleiddio, llawer mwy nag economïau llawer mwy llwyddiannus mewn mannau eraill, angen mwy o hynny fel llwybr i dwf—nid oes tystiolaeth ar ei gyfer ac nid oes ffydd ynddo, nid yn unig gan wrthbleidiau ond gan farchnadoedd ledled y byd.