1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 11 Hydref 2022.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith bosib polisïau economaidd Llywodraeth y DU ar wasanaethau cyhoeddus ym Mlaenau Gwent? OQ58545
Llywydd, pobl ym Mlaenau Gwent fydd yn talu am bolisi Llywodraeth y DU o doriadau treth heb eu hariannu ar gyfer y cyfoethog. Gofynnir iddyn nhw dalu am y dyledion y bydd y Llywodraeth ddi-hid hon yn eu cronni. Toriadau i wasanaethau cyhoeddus hanfodol eraill fydd canlyniad bwriadol y trychineb economaidd hwn.
Diolch yn fawr. Gwnaethom ddeffro y bore yma wrth gwrs i'r newyddion gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid bod twll gwerth £60 biliwn heb ei ariannu yng nghyllid cyhoeddus y DU o ganlyniad i benderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth y DU—nid o ganlyniad i ryfel yn Ewrop, nid o ganlyniad i COVID, ond o ganlyniad i'w penderfyniadau eu hunain. Cyn i ni orffen ein brecwast, roedd Banc Lloegr wedi cyhoeddi ei fod yn ehangu'r ymyrraeth i gynnal rhywfaint o sefydlogrwydd mewn marchnadoedd. Prif Weinidog, ydych chi'n cytuno â mi mai'r casgliad yr ydym ni wedi dod iddo yw bod naill ai Llywodraeth Geidwadol y DU yn gwbl anfedrus o ran cyllid cyhoeddus ac na ellir ymddiried ynddi i redeg cyllid cyhoeddus, neu mae hi'n ei wneud yn fwriadol, fel y nododd Simon Clarke ychydig wythnosau yn ôl, pan ddywedodd fod angen gwladwriaeth lai arnom i gyd-fynd ag economi treth isel—toriadau treth ar gyfer y cyfoethog y telir amdanyn nhw gan doriadau i wasanaethau cyhoeddus i bawb arall? Prif Weinidog, mae angen i'r Llywodraeth hon warchod pobl Blaenau Gwent yn y ffordd y mae angen iddi warchod pobl Cymru rhag yr anfedrusrwydd hwn a'r cynllwyn hwn yn erbyn y sector cyhoeddus. Rwy'n gobeithio y gall Llywodraeth Cymru sicrhau y gallwch wneud popeth yn eich pwerau i ddiogelu'r gwasanaethau cyhoeddus y mae pobl Blaenau Gwent eisiau gweld buddsoddi ynddyn nhw ac nid toriadau. Diolch.
Wel, Llywydd, rwy'n rhoi sicrwydd i'r Aelod y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ein pwerau i amddiffyn pobl ym Mlaenau Gwent ac mewn rhannau eraill o Gymru rhag yr ymosodiadau hyn arnom. Llywydd, nid wyf yn credu ei bod yn bosibl gorbwysleisio'r difrifoldeb sy'n wynebu economi'r DU heddiw. Neithiwr, llithrodd y bunt ymhellach ar farchnadoedd rhyngwladol, a phan fydd Banc Lloegr yn ymyrryd a rhoi datganiad i ddweud mai'r rheswm eu bod yn gorfod ymyrryd yw oherwydd bod 'risg ddiriaethol' i sefydlogrwydd ariannol y DU—mae Banc Lloegr yn dewis pob un gair gyda'r gofal a'r pwyll mwyaf—nid yw hwn yn sylw ffwrdd-â-hi, Llywydd; dyna ddatganiad o Fanc Lloegr sy'n arwydd i bawb arall pa mor ddifrifol yw sefyllfa economi'r Deyrnas Unedig.
Neithiwr crynhodd Jim Pickard, y newyddiadurwr uchel ei barch y Financial Times, a arferai gwmpasu Cymru yn rhan o'i rawd, pan ofynnwyd iddo beth y mae hyn i gyd yn ei olygu, dywedodd y bydd yn golygu'r tri pheth hyn: bydd cyfraddau morgeisi yn parhau i gynyddu, bydd costau benthyca'r Llywodraeth yn cynyddu'n sydyn, a bydd cronfeydd pensiynau unwaith eto mewn argyfwng. Ac mae amcangyfrif y Sefydliad Astudiaethau Cyllid y bore yma o doriad o £60 biliwn mewn un flwyddyn mewn gwariant cyhoeddus yn golygu toriadau go iawn yma yng Nghymru. Maen nhw'n amcangyfrif toriad o 15 y cant mewn cyllidebau adrannol. Llywydd, byddai toriad o 15 y cant i gyllideb Llywodraeth Cymru yn rhywbeth na welwyd hyd yn oed yn ystod dyddiau tywyllaf cyni, ac rwyf eisiau dweud mewn modd difrifol heddiw, os wynebwn ni doriadau ar y raddfa honno, rydym yn sôn am filoedd ar filoedd o bobl yn colli eu swyddi mewn gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru, gyda'r holl effaith fydd hynny yn ei gael ar fywydau'r bobl hynny sy'n dibynnu ar y gwasanaethau hynny. Rydym yn wynebu canlyniadau mwyaf difrifol y penderfyniadau a wnaed dim ond ychydig wythnosau yn ôl. A'r ateb yw bod yn rhaid i Lywodraeth y DU—mae'n rhaid iddi—newid cwrs. Rhaid iddi wneud yr hyn a ddywedodd Rishi Sunak bod angen ei wneud yn ystod yr etholiad arweinyddiaeth gyda Liz Truss. Beth ddwedodd e? 'Os nad ni yw'r blaid arian cadarn, dydw i ddim yn gweld diben i'r Blaid Geidwadol.' A does dim arian cadarn yn unman i'w gael o dan Lywodraeth Liz Truss.
Yn amlwg, roeddem yn disgwyl i'r rhethreg wleidyddol lifo heddiw. [Torri ar draws.] Mae Aelod Blaenau Gwent, o dan hynna i gyd, rwy'n siŵr yn bryderus iawn am wasanaethau cyhoeddus ym Mlaenau Gwent ac ni wnaeth gyfeirio at hynny. Er enghraifft, yr hyn sy'n arbennig o heriol ar hyn o bryd yw'r pwysau yn—[Torri ar draws.]
Gawn ni glywed yr Aelod, os gwelwch yn dda? Rwy'n credu bod angen i'r Prif Weinidog glywed ac mae angen i ni i gyd glywed yr Aelod yn cyfrannu—ac mae hynny'n cynnwys pobl o'ch meinciau eich hun i fod yn dawel, yn ogystal â meinciau cefn y Llywodraeth. Diolch.
Diolch Llywydd. Roeddwn i'n siarad am wasanaethau cyhoeddus lleol. Er enghraifft, mae'n gyfnod arbennig o heriol i lywodraeth leol, fel y gwyddoch chi, gyda'r pwysau cynyddol ar wasanaethau sydd ganddyn nhw, ac mae'r galw i'w deimlo'n arbennig ym maes gofal cymdeithasol, mewn gwasanaethau oedolion a phlant. Yn sir Fynwy, er enghraifft, mae'r angen am ofal sydd heb ei ddiwallu dros 2,000 awr yr wythnos ar hyn o bryd. Er fy mod yn gwybod y bydd rhywfaint o'r £70 miliwn o gyllid canlyniadol, sydd, fe wn i yn swm bach, sy'n gysylltiedig â'r cyhoeddiad ar dreth stamp yn Lloegr, yn ariannu rhan o'ch cyhoeddiadau treth trafodiadau tir, mae tua £46 miliwn ar ôl o'r cyhoeddiad hwnnw y credaf ei fod yn dal heb ei ddyrannu. Prif Weinidog, rwy'n gwybod bod gan y Llywodraeth alwadau ar ei chyllideb, ond a wnewch chi'n ystyried sianelu rhywfaint o'r arian hwnnw i lywodraeth leol i'w helpu i ymdopi â'r pwysau gofal cymdeithasol cynyddol, oherwydd, fel y gwyddom i gyd, mae hynny'n hanfodol er mwyn datgloi'r broblem enfawr honno sydd gennym ni gyda'r GIG yn tanberfformio yn y wlad hon ar hyn o bryd?
Llywydd, mae Peter Fox, yn siarad bob amser ag awdurdod mewn cysylltiad â llywodraeth leol, o ystyried ei brofiad o arwain awdurdod lleol. Bydd yn gwybod sut mae arweinydd awdurdod lleol yn teimlo pan fo'n ystyried gostyngiad o 15 y cant yn ei gyllidebau. Ac mae'n iawn fod cyllid canlyniadol yn sgil newidiadau i dreth dir y dreth stamp yn Lloegr. Ond yr hyn na fydd wedi cael cyfle i'w weld, rwy'n dychmygu, yw gweld bod Llywodraeth y DU, ddoe, wedi cyhoeddi y bydd cyllideb Llywodraeth Cymru £70 miliwn yn llai y flwyddyn nesaf a £70 miliwn yn llai eto yn y flwyddyn wedyn. Felly, efallai y bu £70 miliwn o ganlyniad i dreth dir y dreth stamp dros gyfnod o dair blynedd, ond, ddoe, fe wnaethon nhw gyhoeddi—ac mae hyn cyn yr holl doriadau a ddaw ar 31 Hydref—y bydd ein cyllideb £70 miliwn yn llai y flwyddyn nesaf a'r flwyddyn wedyn. Mae hynny'n golygu bod y cyfleoedd, er mai rhai bach fydden nhw wedi bod, i gynorthwyo awdurdodau lleol gyda'r pwysau gwirioneddol yr amlinellodd Peter Fox yn gwbl briodol, wedi eu dileu mewn un llythyr gan y Trysorlys.