1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 11 Hydref 2022.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf fe wnes i eich herio ar eich anallu i gyflwyno ymchwiliad COVID, ac mae gwahaniaeth rhwng fy marn i a'ch barn chithau, ac rwy'n derbyn hynny, ac mae hynny'n wahaniaeth gwleidyddol. Fodd bynnag, mae Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru eisiau'r ymchwiliad annibynnol hwnnw. Yn ystod eich atebion i mi, fe wnaethoch chi nodi eu bod nhw wedi 'symud ymlaen'. A ydych chi'n derbyn mai eu nod o hyd yw cyflawni ymchwiliad COVID Cymru gyfan annibynnol?
Llywydd, rwy'n credu ei bod hi'n well i mi ddyfynnu geiriau'r teuluoedd mewn profedigaeth eu hunain, fel nad oes amwysedd o ran yr hyn rwy'n ei ddweud. Felly, dyma—. Rwy'n dyfynnu nawr yn uniongyrchol o'r datganiad i'r wasg a gyhoeddwyd ganddyn nhw ddydd Mawrth yr wythnos diwethaf. Maen nhw'n dweud eu bod nhw'n credu'n gryf mai ymchwiliad i Gymru gyfan fyddai'r ffordd orau o,
'gyflawni'r gwaith craffu y mae Cymru'n ei haeddu'.
Dyna fu eu barn nhw erioed. Rwyf wedi ei ailadrodd a'i drafod gyda nhw mewn pum cyfarfod ar wahân. Ânt ymlaen i ddweud, er gwaethaf y cyfarfodydd hynny, mae'r Prif Weinidog,
'yn dal heb ei argyhoeddi mai dyma'r ffordd iawn i fynd ymlaen'.
Dyna grynodeb teg iawn o fy safbwynt i. A fy mod i'n credu hynny,
'rhaid i bob penderfyniad sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru gael ei weld yng nghyd-destun y rhai a wneir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig'.
Unwaith eto, cynrychiolaeth hollol deg o fy marn i. Yna maen nhw'n dweud,
'felly, mae CBFJC wedi symud eu pwyslais i sicrhau y bydd craffu llawn ar Gymru yn Ymchwiliad Covid-19 y DU'.
Rwy'n credu ei bod hi'n haws i mi roi eu geiriau ar gofnod yn hytrach na cheisio eu dehongli nhw fy hun.
Rwy'n derbyn y pwynt yr ydych chi wedi'i wneud, Prif Weinidog, ond yr wythnos diwethaf, fe wnaethoch chi geisio gwneud y pwynt eu bod wedi 'symud ymlaen', pan fo eich sylwadau agoriadol mewn gwirionedd yn ein cyfeirio at eu datganiad i'r wasg yr wythnos diwethaf yn dangos yn glir eu bod eisiau cael ymchwiliad Cymru gyfan, annibynnol. Ond fe fydd y cofnod yn siarad a bydd pobl yn barnu yn unol â hynny.
Hoffwn godi gyda chi, Prif Weinidog, e-bost fy etholwr a gefais neithiwr. Tynnodd Ross sylw at y profiad gafodd ei nain yn yr adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd. Rwy'n gwerthfawrogi na allwch ymateb i achosion unigol, ond roedd hon yn neges e-bost arbennig o ingol a gefais, ac rwy'n siŵr bod llawer o Aelodau yn y Siambr hon yn cael y negeseuon e-bost hyn. Aeth ei nain 86 oed i'r adran damweiniau ac achosion brys, nid mewn ambiwlans, ond mewn tacsi, a hithau o dan amheuaeth o fod wedi dioddef strôc, oherwydd cafodd wybod y byddai'n cymryd sawl awr, os nad diwrnod cyfan, i gael ambiwlans ar ei chyfer. Ar ôl cyrraedd yr ysbyty, arhosodd 20 awr cyn gweld meddyg—20 awr. Ei hasesiad nawr yw na fydd hi byth yn mynd yn ôl i ysbyty, a'r cyfan y mae'n dymuno amdano yw y caiff farwolaeth ddi-boen.
Nawr, ym mis Mehefin, cynhaliodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru archwiliad dirybudd o'r adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Rwy'n gobeithio, fel Aelod dros etholaeth yma yng Nghaerdydd, eich bod yn gyfarwydd â chanlyniadau eu hargymhellion a'r sefyllfa a ganfuwyd ganddynt. Yr wythnos diwethaf, fe ddywedoch chi wrthyf fy mod wedi amlygu anallu gwrthblaid. Allech chi ddangos gallu eich Llywodraeth i mi wrth fynd i'r afael ag adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar yr adran damweiniau ac achosion brys, ac yn benodol, mynd i'r afael â'r pryderon sydd gan nain Ross, na fydd hi byth yn mynd i adran ddamweiniau brys eto ac sy'n dymuno marwolaeth ddi-boen?
Wel, mae angen i bryderon yr unigolyn gael eu trafod gan y clinigwyr sy'n gyfrifol am ei gofal, oherwydd byddai'r hyn y mae arweinydd yr wrthblaid wedi'i ddweud yn amlwg yn annerbyniol, ac mae angen i'r rhai a oedd yn gyfrifol drafod gyda hi sut mae hi'n teimlo nawr a beth allan nhw ei wneud i wneud iawn am hyn.
Rwy'n gyfarwydd wrth gwrs, Llywydd, ag adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar yr adran achosion brys yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Mae'n bwysig pwysleisio, onid yw e, bod yr adroddiad wedi canfod bod y mwyafrif o gleifion wedi dweud eu bod yn cael eu trin ag urddas a pharch a'u bod yn cael gofal brys da. Dyna mae'r adroddiad yn ei ddweud. Ond mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod nifer o ffactorau amgylcheddol yn effeithio ar allu staff i ddarparu gofal urddasol. A gadewch i mi fod yn glir y prynhawn yma, Llywydd; mae'n gwbl annerbyniol i mi ddarllen adroddiad sy'n dweud bod adran achosion brys yn fudr, nad oes gan adran achosion brys ddigon o gadeiriau i bobl eistedd arnyn nhw, ac nad yw adran achosion brys yn gallu cynnig dŵr i bobl sy'n aros.
Edrychwch, rwy'n deall bod y system o dan bwysau enfawr, gyda niferoedd digynsail o bobl yn dod i mewn, a staff sydd o dan y pwysau mwyaf oherwydd yr hyn y maen nhw wedi mynd drwyddo yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Nid yw hynny'n esgusodi bwrdd iechyd am fethu â chyflawni'r safonau amgylcheddol sylfaenol iawn hynny. Nawr, heddiw, mae'r Gweinidog iechyd wedi cyhoeddi £2 filiwn arall i helpu byrddau iechyd ledled Cymru gyda'r pethau bach, sylfaenol hynny sy'n gwneud cymaint o wahaniaeth i brofiad y claf ac i brofiad staff hefyd. Mae'n ddigon anodd gweithio yn yr adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Athrofaol Cymru heb orfod teimlo bod yr amgylchedd yr ydych chi'n gweithio ynddo yn fudr ac yn annerbyniol. Felly, mae'r Aelod yn gofyn 'Beth all Llywodraeth Cymru ei wneud?' Wel, fe ddown o hyd i swm arall o arian y byddwn yn ei ddarparu i'r adrannau brys hynny, ac yna edrychaf yn ar y bobl sy'n cael eu talu i reoli'r sefydliadau hynny i wneud yn siŵr y cedwir yn briodol at y safonau sylfaenol hynny ac nad yw'r amgylchedd ffisegol y mae'n rhaid i staff weithio ynddo ac y bydd cleifion yn dod iddo o'r math a ddisgrifiwyd yn yr adroddiad hwnnw.
Un o'r enghreifftiau a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad hwnnw, Prif Weinidog, oedd plant yn cyrraedd â llosgiadau difrifol ac, oherwydd nad oedd offer ar gael, roedd staff yn gorfod rhoi plant mewn sinciau i oeri eu llosgiadau neu ddefnyddio'r cawodydd yn ystafelloedd newid staff. Dyna lefel yr her yn yr adran damweiniau ac achosion brys honno, ac yn wir adrannau damweiniau ac achosion brys ar draws Cymru gyfan.
Yr hyn y byddwn i'n ei awgrymu hefyd yw mai un o wasgbwyntiau mawr adrannau damweiniau ac achosion brys yn amlwg yw'r amseroedd aros y mae pobl yn eu dioddef pan fydd yn rhaid iddyn nhw fynd ar restrau a phan nad ydyn nhw'n cael triniaethau. Mae hynny'n rhoi pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys, gyda phobl yn cyrraedd gyda chymhlethdodau wedi datblygu yn sgil yr arosiadau. Nawr, dywedodd y Gweinidog Iechyd, ar Sunday Supplement nad yw wedi rhoi'r gorau iddi o ran amseroedd aros eto—dyfyniad uniongyrchol o Sunday Supplement. Yr un amser aros yr heriwyd hi i ddweud y byddai'r Llywodraeth yn ei gyflawni oedd y targed cyntaf o gyflawni holl apwyntiadau cleifion allanol erbyn diwedd y flwyddyn ar gyfer y rhai sydd wedi bod yn aros 12 mis neu fwy. A ddywedwch chi'n nawr y bydd y targed penodol hwnnw'n cael ei gyrraedd ymhen ychydig dros ddau fis a hanner?
Wel, yr hyn a ddywedaf i, Llywydd, yw bod arosiadau hir yn y GIG yng Nghymru wedi gostwng dros bedwar mis yn olynol, ac mae pobl ledled y system yn gwneud eu gorau glas i sicrhau eu bod nhw'n cyrraedd y targedau y mae'r gwasanaeth iechyd wedi ymrwymo iddyn nhw. Mae arweinydd yr wrthblaid yn iawn, mae adrannau damweiniau ac achosion brys yn ymdrin â methiannau mewn rhannau eraill o'r system—nid cymaint, rwy'n credu, â'r methiant y cyfeiriodd ato. Ond, rydym ni'n gwybod, pan fydd pobl yn teimlo efallai na fyddan nhw'n cael apwyntiad mewn mannau eraill yn y system, maen nhw'n gwybod y gallan nhw fynd i adran damweiniau ac achosion brys ac yn y diwedd, cael eu gweld. Efallai y bydd yn rhaid i chi aros yn hirach nag yr oeddech chi eisiau ac efallai na fyddai amgylchedd y bydd yn rhaid i chi aros ynddo yr hyn y byddech chi'n ei ddisgwyl, ond yn y diwedd fe gewch eich gweld. A dyna pam mae pobl yn dewis y llwybr hwn os nad oes ganddyn nhw ffydd y byddan nhw'n cael y gofal amserol sydd ei angen arnyn nhw mewn rhannau eraill o'r system. Dyna egluro i raddau y pwysau y mae adrannau damweiniau ac achosion brys yn ei wynebu ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig.
Mae staff yn gweithio mor galed ag sy'n bosibl o dan yr amgylchiadau anodd iawn y maen nhw'n eu hwynebu. Bob wythnos, rwy'n adrodd—anaml y caf fy holi, ond bob wythnos rwy'n adrodd ar effaith coronafeirws yn GIG Cymru. Ddiwedd yr wythnos diwethaf, roedd cynnydd o dros 100 yn nifer y cleifion mewn gwely mewn ysbyty yng Nghymru gyda coronafeirws mewn un wythnos, nôl i dros 500 ddydd Gwener. Aeth nifer y staff a oedd i ffwrdd o'u gwaith oherwydd COVID-19 yn ôl dros 1,000 yr wythnos diwethaf. Bob tro mae hynny'n digwydd, mae'n ei gwneud hi'n anoddach i staff sy'n ceisio clirio'r ôl-groniad o bobl sy'n aros am ofal wedi'i gynllunio. Ac eto, bob dydd, maen nhw'n gwneud popeth o fewn eu gallu i geisio sicrhau bod pobl Cymru'n cael y gofal o ansawdd a'r ymyriadau parhaus yr ydym ni'n gwybod eu bod eu hangen.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Mae argyfwng costau byw y gaeaf hwn yn dod ar ben blynyddoedd o gyni, pryd y mae cyflog gweithwyr wedi disgyn flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae pobl yn gweithio mwy o oriau am lai o arian, ac mae nifer cynyddol o bobl sy'n gweithio yn dweud mai digon yw digon. Dim ond ychydig wythnosau yn ôl, yng nghynhadledd y Blaid Lafur, cafodd cynnig ei gefnogi'n unfrydol gan Unsain ar gyfer codiadau cyflog yn ddiogel rhag chwyddiant. Dan arweiniad Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffordd, Morwrol a Thrafnidiaeth, Unite, Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol, Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu ac undebau eraill, mae cannoedd o filoedd o weithwyr eisoes yn streicio dros gyflog.
Nawr, mae Llywodraeth San Steffan yn cuddio y tu ôl i gyflogwyr hyd braich a chyrff adolygu cyflogau annibynnol wrth osgoi ei chyfrifoldebau, ond, lle mae rhannau helaeth o'r sector cyhoeddus yng Nghymru yn y cwestiwn, chi a'ch Llywodraeth fydd yn penderfynu. Mae nyrsys ac athrawon yn pleidleisio dros streicio yng Nghymru oherwydd eich cynigion ar gyfer toriad mewn termau real i'w cyflogau. Felly, Prif Weinidog, ai polisi eich Llywodraeth chi yw y dylai gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus fod â hawl i setliad cyflog sydd o leiaf yn cadw i fyny â chwyddiant?
Wel, Llywydd, tynnodd arweinydd Plaid Cymru sylw at y penderfyniad a basiwyd yng nghynhadledd y Blaid Lafur. Dyna bolisi fy mhlaid, ac mae'n bolisi y mae'r Llywodraeth hon yn dymuno'n fawr ein bod ni mewn sefyllfa i'w weithredu. Bydd yn gwybod bod pob codiad o 1 y cant yn y bil cyflog ar draws y gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru yn costio £100 miliwn arall. Mae pob 1 y cant yn costio £100 miliwn. Os gall ddweud wrthyf lle y gellir dod o hyd i'r arian hwnnw, yna rwy'n fodlon trafod gydag ef. Os y cyfan sydd ganddo i'w gynnig i mi yw dyheadau a chyhuddiadau hunangyfiawn nad yw pobl eraill rywsut mor gydwybodol ag y mae ef, yna rwy'n ofni nad yw'r ddadl honno'n debygol o ffynnu.
Mae'n rhaid i mi ddweud wrth y Prif Weinidog: edrychwch, nid yw gwleidyddiaeth ofnadwy yn San Steffan yn esgus dros gael gwleidyddiaeth wael yma yng Nghymru. Nid ynghylch cyflog yn unig y mae'r anghydfodau hyn; maen nhw'n ymwneud â goroesiad ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Ym maes gofal iechyd, mae gennym argyfwng gweithlu, gyda mwy a mwy o bobl yn gadael bob dydd. Mae 3,000 o swyddi nyrsio gwag yng Nghymru, sy'n gynnydd o dros 1,200 ers y llynedd. Mae symiau cynyddol yn cael eu gwario ar nyrsys asiantaeth sy'n llenwi bylchau mewn rotâu.
Mae'r ffigurau ar gyfer gofal cymdeithasol yn waeth, gyda 5,500 o swyddi gwag. Yr wythnos diwethaf, wrth siarad am y frwydr i recriwtio gweithwyr gofal cymdeithasol, dywedodd y Dirprwy Weinidog Julie Morgan na allai gofal cymdeithasol gystadlu â'r sector lletygarwch. Er mwyn amddiffyn y gwasanaethau cyhoeddus yr ydych chi'n gyfrifol amdanyn nhw, mae'n rhaid i chi wneud rhywbeth ynghylch yr argyfwng cyflog isel, nyrsys—y nyrsys sy'n gweithio'n galed y gwnaethoch chi gyfeirio atyn nhw—yn gorfod defnyddio banciau bwyd, gweithwyr gofal a fyddai'n cael eu talu'n well mewn archfarchnadoedd. Fe gyfeirioch chi at gynnig y Blaid Lafur a'ch ymrwymodd i dalu codiadau o leiaf yn unol â chwyddiant, ond dywedodd nid San Steffan yn unig—. Dyfynnaf: roedd y cynnig yn annog
'Llywodraeth ar bob lefel i gymryd o ddifrif eu cyfrifoldeb i ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn iawn a darparu cyflog teg i'r rhai sy'n eu darparu'.
Pam nad ydych chi'n barod i wneud hynny yma yng Nghymru?
Llywydd, cyfraniad hynod o wag yw ailadrodd y broblem drosodd a throsodd, heb un frawddeg sy'n ein helpu i ddod o hyd i ateb. Mae'r Llywodraeth hon yn talu'r cyflog byw go iawn i weithwyr gofal cymdeithasol; y tro cyntaf erioed i hynny gael ei wneud yn hanes datganoli. Ond rwyf i newydd roi'r pwyntiau a wnes yn gynharach y prynhawn yma i arweinydd Plaid Cymru: mae toriad o dros £1 biliwn eisoes i'n cyllideb yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn nesaf. Rydym yn gwybod hynny, oherwydd bod Llywodraeth y DU wedi dweud na fydd yn cynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, ac effaith chwyddiant ar ein cyllideb yw ei bod werth dros £1 biliwn yn llai nag yr oedd pan osododd y Llywodraeth Geidwadol y gyllideb honno ym mis Tachwedd y llynedd.
Ar ben hynny, rydym ni'n mynd i wynebu mwy o ostyngiadau enfawr. Gadewch iddo ddweud wrthyf ble mae'r arian i wneud yr hyn y mae'n gofyn i mi wneud yr wythnos hon, heb sôn am yr arian i wneud yr hyn a ofynnodd i mi ei wneud yr wythnos diwethaf, a'r arian i wneud yr hyn a ofynnodd i mi ei wneud yr wythnos flaenorol—ble gellir dod o hyd i'r holl arian hwnnw mewn cyfnod pan nad oes gennym fwy o arian i fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus, mae gennym lai o arian nag ar unrhyw adeg yn ystod hanes datganoli.
Felly, rydych yn cytuno â mi, Prif Weinidog, ynghylch lefelau cyflog, ond rydych yn dweud bod eich dwylo wedi'u clymu gan San Steffan. Wel, onid yw'n amser, felly, i gymryd materion i'n dwylo ein hunain? Na, dydw i ddim yn golygu—. Dydw i ddim yn cyfeirio at annibyniaeth na datganoli lles; mater ar gyfer diwrnod arall yw hwnnw. Rwy'n golygu yn y fan hon, nawr. Mewn ymateb i Alun Davies, fe ddywedoch eich bod wedi ymrwymo i ddefnyddio'r holl bwerau oedd gennych i amddiffyn pobl Cymru rhag yr ymosodiad hwn gan y Torïaid. Wel, defnyddiwch yr holl bwerau sydd gennych. Mae gennym y gallu i ddefnyddio ein pwerau treth i gadw'r gyfradd dreth sylfaenol o 20c yng Nghymru a bod yn fwy blaengar trwy roi ceiniog ar y gyfradd uwch ac ychwanegol. Fe wnaethom ni ddadlau dros y pwerau hynny, buom yn ymgyrchu drostyn nhw, yn union ar gyfer sefyllfaoedd yn codi fel hyn. Byddai gwneud fel yr ydym ni'n ei gynnig yn codi'n agos at £250 miliwn gan fynd rhywfaint o ffordd, o leiaf, i fynd i'r afael â'r argyfwng cyflog a morâl yn ein gwasanaethau cyhoeddus, yn ogystal ag yn argyfwng ehangach bywiogrwydd. Byddai'n diogelu ein gwasanaethau cyhoeddus ac yn achub bywydau. Onid dyna'r ffordd Gymreig o undod, o gymuned, o chwarae teg, sef yr union resymau dros greu'r lle hwn?
Llywydd, rwyf i a'r Gweinidog cyllid wedi dweud y byddwn yn gwneud penderfyniadau ar y pwerau cyllidol sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn y ffordd yr ydym yn eu gwneud bob amser, fel rhan o'r broses o osod y gyllideb, pan fydd gennym yr wybodaeth lawn sydd ei hangen arnom er mwyn gallu gwneud hynny. Nawr, mae wedi gwneud achos y prynhawn yma; bydd yr achos hwnnw'n cael ei ystyried yn rymus o fewn Llywodraeth Cymru, ond bydd yn cael ei wneud yn y ffordd yr ydym yn ei wneud bob amser, yn drefnus, yn y broses o osod cyllideb, fel y byddai'r Pwyllgor Cyllid yn disgwyl i ni ei wneud, a phan fyddwn yn ymwybodol o'r holl benderfyniadau a fydd yn cael effaith ar ein gallu i ariannu gwasanaethau cyhoeddus y flwyddyn nesaf.