Part of the debate – Senedd Cymru am 5:27 pm ar 11 Hydref 2022.
Diolch, Gweinidog. Mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu ers blynyddoedd i wahardd plastig untro. Fe wnes i alw am hyn yn gyntaf yn 2019. Mae hyn heddiw yn gam pwysig ymlaen, a rhywbeth i'w groesawu, yn sicr. Achos mae plastig wedi plethu i fod yn rhan annatod o'n bywydau—o becynnau bwyd, ein dillad ni, y ffyrdd mae pobl yn glanhau, y pethau rŷn ni’n bwyta, mae plastig ym mhobman. Roeddwn i'n darllen yr wythnos hon fod microplastics wedi cael eu ffeindio yn llaeth y fron am y tro cyntaf. Ac er bod llygredd plastig yn wybodus i ni, mae COVID-19 wedi cyflymu effaith niweidiol microblastigau ar ein hamgylchedd a bioamrywiaeth. Dwi’n siŵr ein bod ni i gyd yn cofio’r delweddau trist o adar a chreaduriaid eraill wedi eu clymu mewn masgiau un defnydd, a’u boliau yn llawn o blastig. Bydd rhai yn cofio gweld darnau o blastig wedi eu darganfod yn nyfnderau'r môr, ar ben Everest, ar draethau Indonesia ac ar lannau afonydd ar draws y byd. Gogoniannau’r ddaear, a dyma ydy’r marker rŷn ni’n ei rhoi lawr fel dynoliaeth—wel, fe fyddwn ni'n rhoi marker arall lawr trwy ddeddfwriaeth fel hyn.
Rŷn ni’n gweld effaith plastig ar arfordir prydferth ein gwlad ein hunain. Mae microblastigau i’w canfod yn nifer o’n rhywogaethau dyfrol, brodorol. Mae’r data yn dangos, er gwaethaf yr ymgyrchu yn erbyn plastig untro, fod y canran o’r plastig a’r polystyrene hynny sydd yn gynwysedig yn y Bil o hyd yn uchel iawn ar ein traethau ac yn ein moroedd.
Mae bron pawb yn cytuno bod angen gweithredu. Ond does bron neb eisiau newid eu bywydau nhw o gwbl, a dyna ydy'r sialens, wrth gwrs. Mae gennym ni ddyletswydd, wrth gwrs, i amddiffyn pobl ar draws y byd rhag peryglon gwastraff plastig, ac mae’n glir, er bod y Bil hwn yn gam pwysig ymlaen, a dwi rili yn dweud ei fod e'n gam pwysig, dyw e dal ddim yn ddigon cadarn o ran gwahardd gweithgynhyrchu eitemau plastig untro, fel mae Cadeirydd y pwyllgor newid hinsawdd wedi bod yn rhoi mas.
Rwy'n pryderu, yn wahanol i'r Ddeddf ddiweddar a basiwyd yn yr Alban, fod Cymru ond yn gwahardd y cyflenwad yn hytrach na’r gweithgynhyrchu o’r eitemau rhestredig. Dylem ni fod yn atal allforio llygryddion hysbys i wledydd eraill hefyd. Gallai'r diffiniad cyfredol o 'ddefnydd sengl' ganiatáu cyflenwi cynhyrchion 'aml-becyn' neu 'maint teuluol' sy'n cynnwys nifer o eitemau wedi'u pecynnu'n unigol fel rhan o un cynnyrch. Mae'n arbennig o bwysig sicrhau bod y diffiniad hwn yn glir, a heb fylchau. Felly, mi fuaswn i’n hoffi clywed ar ddiwedd y ddadl os ydy’r Gweinidog yn cytuno y dylid diwygio'r diffiniad o eitem un defnydd i gynnwys y gair 'wedi'i genhedlu' wrth adlewyrchu diffiniad yr Undeb Ewropeaidd o gynnyrch plastig untro.
Mae’r pwyllgor wedi trafod yn helaeth y ffaith—eto, mae hyn wedi cael ei amlygu'n barod yn y ddadl—fod wet wipes—dwi'n meddwl bod Llyr yn eu galw nhw'n 'wipes gwlyb'—ar goll yma. Yn eu hymateb i ymchwiliad y pwyllgor blaenorol ar ficroblastigau, amlygodd Dŵr Cymru cymaint ydy effaith y broblem o wet wipes o ran carthffosydd. Os na fyddan nhw’n cael eu hatal, beth mwy a all y Llywodraeth ei wneud a beth mwy a all cymdeithas ei wneud i hysbysu pobl am y niwed maen nhw’n ei wneud?
Mae Wales Environment Link, fel rydyn ni wedi clywed, yn dadlau y gallai addysg dinasyddion fod o gymorth, ond, yn y pen draw, mae angen ymyrraeth reoleiddiol yn y maes hwn achos, fel rydyn ni wedi clywed gymaint o weithiau yn y Siambr ac yn y pwyllgor, mae newid ymddygiad yn beth mor eithriadol o anodd ei ysgogi. Ar hyn o bryd, does dim i atal cwmnïau rhag rhoi 'flushable' ar y wipes sy'n achosi difrod difrifol i'n systemau dŵr, a heb ddiffiniadau safonol o beth sydd yn biodegradable, mae hyn yn achosi dryswch i'r cyhoedd.
I gloi, Llywydd, mae angen i’r Bil ysgogi newid. Mae angen i’n hymddygiad ni i gyd newid, ac mae angen gwneud yn siŵr bod hyn yn wir nid dim ond yn ein bywydau bob dydd yng Nghymru, ond hefyd yr effaith rŷm ni’n ei gael ar weddill y byd. A dyna’r her i’r Llywodraeth, wrth gwrs: gwneud yn siŵr bod arferion pobl wir yn newid, eu bod nhw'n teimlo eu bod nhw'n rhan o hyn, bod hyn ddim yn rhywbeth sydd yn digwydd iddyn nhw, ond eu bod nhw eisiau datrys y broblem, a'n bod ni ddim yn gohirio'r problemau i'r cenedlaethau sydd i ddod. Mae’r gwaith sydd wedi mynd i mewn i’r Bil yma i’w glodfori, ac rwy'n gobeithio bydd modd datrys nifer o’r pryderon hyn wrth i’r ddeddfwriaeth fynd yn ei blaen. Diolch.