Lleoedd Ysgolion

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 12 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Altaf Hussain Altaf Hussain Conservative 1:33, 12 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Weinidog, yn 2011, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gylchlythyr o’r enw, 'Mesur capasiti ysgolion yng Nghymru’, i gynorthwyo awdurdodau lleol i gynllunio lleoedd ysgolion, i adrodd ar leoedd gwag ac i bennu niferoedd derbyn ysgolion. Nawr, mae defnyddio data, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod Sarah Murphy yn gwbl gywir—rydym yn defnyddio data i gynllunio ein lleoedd ysgolion—yn hanfodol, fel cyfraddau genedigaethau, nifer y cartrefi newydd a gaiff eu hadeiladu, data mudo a theuluoedd newydd yn symud i ardaloedd newydd. Felly, beth y mae’r Gweinidog yn ei wneud yn awr i sicrhau bod unrhyw ganllawiau ategol yn addas i'r diben er mwyn cefnogi awdurdodau lleol i gynllunio lleoedd ysgolion yn awr ac ar gyfer y dyfodol?