Lleoedd Ysgolion

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 12 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 1:34, 12 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy'n fodlon fod y canllawiau'n ddigonol i alluogi awdurdodau i wneud hynny. Mae Pen-y-bont ar Ogwr yn awdurdod lleol a chanddo fwy o leoedd ysgolion cynradd, mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn ogystal â rhai cyfrwng Saesneg, ac yn yr un modd mewn darpariaeth uwchradd, nag sydd o ddisgyblion. Fel y trafodais gyda Sarah Murphy funud yn ôl—. Yn anffodus, nid ydym mewn sefyllfa lle mae rhieni bob amser yn gallu anfon eu plant i'r ysgol o'u dewis cyntaf—nid dyna'r system sydd gennym. Mae cydbwysedd rhwng y dewis hwnnw ac argaeledd lleoedd yn lleol i’r ysgol honno, ond ar sail awdurdodau lleol, gallaf roi sicrwydd i chi fod digon o leoedd i ddiwallu'r angen sy'n codi.