Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 12 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 1:47, 12 Hydref 2022

Fel wnes i sôn yn gynharach, mae hon yn sefyllfa heriol iawn i fyfyrwyr am y rhesymau mae Sioned Williams yn sôn amdanyn nhw. Mae gan bob prifysgol yng Nghymru gronfa galedi i sicrhau bod darpariaeth ar gael i'r rheini sydd yn y sefyllfaoedd mwyaf heriol. Mae maint y cronfeydd hynny yn amrywio o sefydliad i sefydliad. Rwyf wedi gofyn i HEFCW roi sicrwydd i mi fod yr hyn sy'n cael ei ddarparu gan ein prifysgolion ni yn ddigonol, bod access digonol ar gael drwy'r prifysgolion i gefnogaeth ariannol ar gyfer y cyfnod anodd hwn. Ond ar gyfer blynyddoedd yn y dyfodol—y flwyddyn nesaf ymlaen—byddaf yn gwneud datganiad maes o law ynglŷn â'r lefel o gefnogaeth.