Part of 1. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 12 Hydref 2022.
Diolch, Weinidog. Mae rhent myfyrwyr yn benodol, wrth gwrs, wedi codi 29 y cant yng Nghymru dros y tair blynedd diwethaf, ac, erbyn hyn, yn llyncu bron i 60 y cant o'r pecyn cyllid myfyrwyr ar gyfartaledd. Fel plaid, rŷn ni wedi bod yn galw am weithredu mesurau costau byw brys a radical, fel rhewi rhent a gwahardd troi allan, gan y bydd y cynnydd mewn rhent yn drychinebus i nifer o fyfyrwyr sy'n ei chael hi'n anodd i ymdopi, gan effeithio'n negyddol ar eu hiechyd meddwl a chorfforol nhw, ac ar eu hastudiaethau, wrth gwrs. A yw'r Llywodraeth yn mynd i wrando ar alwadau rhai fel llywydd undeb myfyrwyr Cymru, Orla Tarn, sydd wedi datgan ei bod o blaid gosod cap ar rent ar lety a thai myfyrwyr, fel sy'n digwydd yn yr Alban, gan alw ar Lywodraeth Cymru i ddilyn Llywodraeth yr Alban i gefnogi myfyrwyr Cymru yn yr un modd?