1. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru ar 12 Hydref 2022.
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar fentrau penodol Llywodraeth Cymru i leihau'r bwlch tlodi o ran cyrhaeddiad myfyrwyr yn dilyn y pandemig? OQ58537
Gwnaf. Roedd fy natganiad i'r Siambr ym mis Mawrth a'r araith a roddais i Sefydliad Bevan ym mis Mehefin yn nodi fy mwriad i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad, ac rwyf wedi rhoi ystod o fesurau ar waith i wireddu'r amcan hwn, o gyflwyno hyrwyddwyr cyrhaeddiad i archwilio ffyrdd o gymell athrawon i weithio yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.
Diolch yn fawr iawn am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Rwy'n croesawu'r datganiad a wnaeth y Gweinidog rai misoedd yn ôl, a byddai'n ddefnyddiol clywed diweddariad gan y Gweinidog am y cynnydd sy'n cael ei wneud, er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc o bob cefndir yn cael cyfle cyfartal i symud ymlaen gyda'u haddysg. Rydym i gyd yn gwybod ac rydym i gyd yn ymwybodol fod plant sy'n dod o gefndiroedd arbennig o anodd a difreintiedig wedi dioddef yn ystod y pandemig, ac rydym wedi gweld y bwlch cyrhaeddiad hwnnw'n ehangu. Rydych yn ffyddiog iawn, os nad oes ots gennych imi ddweud, Weinidog, y byddwch yn gallu lleihau'r bwlch cyrhaeddiad hwn yn y dyfodol, a gobeithio y caiff eich optimistiaeth ei wireddu. Ond a allwch chi roi diweddariadau pellach i ni i sicrhau bod pob un ohonom yma'n deall y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau'r bwlch cyrhaeddiad, a sicrhau bod popeth yn cael ei wneud i sicrhau bod y plant yr ydym yn eu cynrychioli sy'n dod o'r cefndiroedd anoddaf yn cael y cyfle y byddai pawb ohonom eisiau iddynt ei gael er mwyn iddynt allu cyflawni eu potensial?
Rwy'n cytuno'n llwyr gyda'r Aelod. Enw ein strategaeth yw 'Safonau ac Uchelgeisiau Uchel i Bawb', a hynny i gydnabod bod gan bob dysgwr, ni waeth beth fo'u cefndir, hawl i gael system ysgol sy'n annog eu dyheadau ac sy'n rhoi'r cyfle gorau posibl iddynt gyflawni eu potensial.
Mae'r ystod o fesurau a nodais, ym mis Mawrth a mis Mehefin, yn cynorthwyo athrawon i ddatblygu eu harferion i gefnogi dysgwyr difreintiedig: mae rhywfaint o hynny'n ymwneud ag addysg gychwynnol i athrawon; mae rhywfaint ohono'n ymwneud â'n rhaglenni dysgu proffesiynol newydd; mae rhywfaint ohono'n ymwneud â ffocws ar lefel arweinyddiaeth, ar strategaethau arwain mewn ysgolion, i gefnogi athrawon; ac mae rhywfaint ohono'n ymwneud â chael athrawon i weithio yn yr ysgolion sydd fwyaf o angen sgiliau'r athrawon gorau. Ond mae yna hefyd nifer o ymyriadau penodol i gefnogi dysgwyr yn uniongyrchol: mae rhywfaint o hynny'n ymwneud â darllen a llafaredd, ac fe fyddwch yn cofio imi sôn am y rhaglen iaith a llythrennedd ar gyfer 2,000 o bobl ifanc ychwanegol y mae Prifysgol Bangor yn gweithio gyda ni arni i gefnogi sgiliau cyfathrebu a sgiliau darllen. Ond mae yna rai trafodaethau heriol y bydd angen inni eu cael hefyd ynglŷn â'r arfer o setio mewn ysgolion ac ar ba bwynt y mae hynny'n fwyaf priodol. Rwy'n credu bod yna drafodaeth ehangach i ni ei chael mewn perthynas â hynny.
Yr allwedd, rwy'n credu, mewn perthynas â'r ddwy gyfres o fesurau a nodais yw eu bod yn ddulliau system gyfan. Mae'n ffocws o'r blynyddoedd cynnar, drwodd i'r ysgolion a thrwy addysg bellach, addysg uwch a dysgu gydol oes, ac rwy'n credu mai'r amcan cyffredin hwnnw ar draws y system yw'r allwedd i wneud cynnydd yn y maes hwn. Ni all y system ysgolion, y system addysg, wneud hyn ar ei phen ei hun, ond yn sicr mae yna bethau y gallwn eu gwneud i gyfrannu at gau'r bwlch cyrhaeddiad. Rwy'n bwriadu cyflwyno datganiad cyn diwedd y tymor hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ein sefyllfa mewn perthynas â phob un o'r cynlluniau hyn.