Her Ysgolion Cynaliadwy

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 12 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 1:55, 12 Hydref 2022

Diolch, Weinidog. Yn sicr, fe fyddwn ni yn gofyn ichi ymrwymo i sicrhau bod y ddwy ysgol hon yn rhai Cymraeg neu yn rai fydd yn dod yn ysgolion Cymraeg. Yn amlwg, mae'n allweddol bwysig. Roedden ni'n trafod wythnos diwethaf yr adroddiad 'Cymraeg 2050' a'r angen am fuddsoddi mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg os ydyn ni am gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr. Ond, ar yr un pryd, a ninnau mewn argyfwng hinsawdd, byddech hefyd yn disgwyl bod pob ysgol newydd, nid dim ond y ddwy newydd hon, gyda chynaliadwyedd yn ganolog iddynt. Byddwch yn ymwybodol, dwi'n siŵr, fod cynlluniau ar gyfer safle newydd i Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn-y-Forwyn yng Nglynrhedynog wedi ei gyflwyno gan gyngor Rhondda Cynon Taf. Heb os, mae dirfawr angen adeilad newydd ar yr ysgol hon, ac mae'r cynlluniau i'w croesawu. Ond rhaid imi fynegi pryder bod y cynlluniau â cheir yn ganolog iddi, gan nodi y bydd ardal gollwng benodol ar y safle, 30 o lefydd parcio ar gyfer staff a 40 o lefydd parcio ychwanegol wedi'u neilltuo ar gyfer rhieni yn ystod amserau gollwng a chasglu. Cyferbynnwch hyn â 24 o lefydd parcio beiciau a 12 lle ar gyfer parcio sgwter. Sut, felly, y byddwch yn sicrhau bod pob ysgol newydd yn adlewyrchu blaenoriaethau'r Llywodraeth o ran yr iaith a chynaliadwyedd?