Part of 1. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 12 Hydref 2022.
Dwi'n gobeithio'n fawr iawn bod un o'r ysgolion, o leiaf, sy'n ennill y gystadleuaeth hon yn ysgol cyfrwng Cymraeg. Mae'n dibynnu ar ba gynigion a ddaw i law, wrth gwrs, ond dyna beth fyddai fy ngobaith i, yn sicr, am resymau amlwg.
O ran yr her roedd yr Aelod yn cynnig am ysgolion yn y dyfodol, fel y bydd hi eisoes yn gwybod, mae gofyniad ar unrhyw ysgol newydd sy'n cael ei gynnig i'w hariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru—mae gofyniad eu bod nhw'n sero net o ran carbon yn y dyfodol, ac mae hynny'n cynnwys hefyd safonau uchel o ran active travel a mynediad at yr ysgol. Felly, mae'r canllawiau hynny eisoes yn eu lle; maen nhw'n gyhoeddus, ac mae cyfle i'r Aelod gael golwg arnyn nhw, ac, os oes ganddi unrhyw awgrymiadau pellach, byddwn i'n hapus i'w clywed nhw.