1. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru ar 12 Hydref 2022.
2. Pa gefnogaeth y mae'r Llywodraeth yn ei darparu i fyfyrwyr prifysgol ar draws canolbarth a gorllewin Cymru wrth i'r argyfwng costau byw ddwysáu? OQ58543
Cymru sy'n cynnig y pecyn cymorth mwyaf hael yn y Deyrnas Unedig, ac mae'r lefelau uchaf o gymorth grant nad oes angen ei ad-dalu yn targedu'r bobl sydd ei angen fwyaf. Rŷn ni'n cydweithio'n agos â'r sector i sicrhau eu bod nhw'n ystyried pob opsiwn i gefnogi myfyrwyr y mae'r argyfwng costau byw yn effeithio arnyn nhw.
Diolch yn fawr iawn. Efallai y dylwn i fod yn datgan diddordeb gan fod dwy ferch gen i yn y brifysgol ar hyn o bryd, a dwi wedi cael nifer o e-byst gan fyfyrwyr, nifer ohonyn nhw yn y ddwy brifysgol sy'n digwydd bod yn fy rhanbarth i. Felly, dwi'n ymwybodol iawn o'r straen cynyddol y mae'n myfyrwyr prifysgol yn ei wynebu yn sgil yr argyfwng costau byw. Yn wir, tra bo chwyddiant yn parhau i godi, mae'r pecyn cynhaliaeth sy'n cael ei roi i fyfyrwyr ond wedi codi rhyw 3.5 y cant, sydd wrth gwrs yn is na lefel chwyddiant. Ac yn ôl ymchwil diweddar gan Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru, gwelwyd bod 92 y cant o fyfyrwyr yn pryderu am eu gallu i reoli eu harian, gyda bron hanner yn dweud bod hyn yn effeithio ar eu hiechyd meddwl. Yn wir, wrth roi tystiolaeth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ddiweddar, dywedodd llywydd UCMC bod un myfyriwr o Gaerfyrddin ond â rhyw £100 ar ôl, ar ôl talu rhent a biliau yn ystod tymor yr hydref. Felly, gan ystyried hyn, a wnewch chi, Weinidog, sicrhau bod pecyn cynhaliaeth ar gael i fyfyrwyr sydd o leiaf ar yr un lefel â chwyddiant?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Ein blaenoriaeth ni yma yng Nghymru yw sicrhau bod gan fyfyrwyr fynediad at gefnogaeth sy'n caniatáu iddyn nhw gwrdd â costau dyddiol, a hefyd bod gan ein sefydliadau addysg uwch ni fynediad at lefelau addas a digonol o arian ar gyfer hynny. Fel rwy'n dweud, mae gennym ni yma yng Nghymru eisoes y pecyn mwyaf cefnogol o unrhyw ran o'r Deyrnas Gyfunol. Mae'n sicr yn wir bod pob prifysgol yn cynnig ffynhonnell i roi cefnogaeth benodol i fyfyrwyr o dan bwysau. Mae peth o'r gwasgedd a pheth o'r pwysau sy'n dod ar y ffynonellau hynny yn deillio o'r ffaith nad yw myfyrwyr o rannau eraill o'r Deyrnas Gyfunol yn cael yr un gefnogaeth, felly mae mwy o alw ar y ffynonellau arian argyfwng hynny yn ein prifysgolion ni yma yng Nghymru. Rwyf wedi ysgrifennu'n ddiweddar at Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i sicrhau eu bod nhw'n gallu rhoi gwybod i fi fod digon o gefnogaeth ar gael drwy'r prifysgolion. O ran ein cefnogaeth ni fel rhan o'r system ariannu ehangach, mae gan bob myfyriwr access at isafswm o gefnogaeth sy'n gyfystyr â'r cyflog byw. Rwy'n bwriadu gwneud datganiad yn yr wythnosau nesaf ynglŷn â sut y bydd hynny'n edrych yn y dyfodol. Felly, bydd mwy o wybodaeth ar gael i'r Aelod, ac i Aelodau eraill, bryd hynny.
Weinidog, hoffwn godi mater yr oeddwn am wneud yn siŵr eich bod yn ymwybodol ohono. Gwnaeth un o fy etholwyr—myfyriwr o Gymru—gais i ddarparwr addysgol yn Lloegr ar gyfer cwrs hyfforddi bargyfreithwyr proffesiynol, a chawsant wybod gan y darparwr nad oeddent yn fodlon cael mynediad at y cyllid drwy Cyllid Myfyrwyr Cymru. Nawr, nid yw hwn yn fater o bryder—. Nid yw hyn yn gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru, ond rwy'n siomedig fod myfyrwyr o Gymru—ac o fy ymchwil fy hun, ymddengys bod hyn yn wir—yn cael eu trin yn wahanol i fyfyrwyr o Loegr os ydynt yn gwneud cais drwy Cyllid Myfyrwyr Cymru. Ni chredaf ei fod yn fater sy'n gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru, nac yn wir i Cyllid Myfyrwyr Cymru, ond tybed a ydych yn ymwybodol o’r sefyllfa hon, ac a yw hyn yn rhywbeth y byddech yn fodlon herio darparwyr yn Lloegr neu unrhyw ran arall o'r DU yn ei gylch, oherwydd a fyddech yn cytuno â mi y byddai’n gwbl anghywir i fyfyriwr o Gymru gael eu cosbi? Yn yr achos hwn, mae'r rhiant wedi gorfod ariannu'r cwrs a'r ffioedd eu hunain; pe bai'r teulu wedi bod yn Lloegr, ni fyddai hynny wedi digwydd. A ydych yn ymwybodol o'r materion hyn? Rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu atoch gyda rhagor o fanylion.
Byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallai’r Aelod ysgrifennu ataf ynglŷn â'r achos penodol hwnnw, a byddaf yn ymchwilio iddo. Mae gennym fecanwaith, system, yng Nghymru sy’n galluogi darparwyr cyrsiau mewn unrhyw ran o’r DU i gael eu hachredu, fel y mae’r Aelod yn amlwg yn gwybod, ac nid yw’n seiliedig ar ddaearyddiaeth; mae’n seiliedig ar feini prawf ac achredu gwrthrychol, sydd wedyn yn galluogi myfyriwr o Gymru i allu cael mynediad at y darparwr hwnnw mewn unrhyw ran o’r DU, a chael y cymorth sydd ar gael drwy Cyllid Myfyrwyr Cymru. Felly, mae clywed yr hyn y mae'r Aelod wedi'i amlinellu heddiw yn peri gofid i mi, a byddwn yn ddiolchgar pe gall ysgrifennu ataf ynglŷn â hynny.