Part of 1. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 12 Hydref 2022.
Hoffwn ddiolch i Natasha Asghar am gyflwyno’r cwestiwn pwysig hwn. Weinidog, o ystyried yr hyn y mae pobl ifanc wedi bod drwyddo gyda COVID, yr hyn y maent ar fin mynd drwyddo gyda'r argyfwng costau byw, mae'n hanfodol eu bod, drwy'r cwricwlwm newydd, yn gallu dysgu'r sgiliau bywyd hanfodol hynny, yn enwedig mewn llythrennedd ariannol ac ymwybyddiaeth iechyd meddwl. A wnewch chi ymuno â mi i gydnabod y gwaith caled yn y Senedd flaenorol gan Bethan Sayed, a bwysleisiodd yr angen i bobl ifanc ddatblygu sgiliau ariannol hanfodol?