Part of 1. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 12 Hydref 2022.
Mae pedwar diben gorfodol y Cwricwlwm i Gymru yn darparu’r weledigaeth a’r dyhead a rennir ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc. Mae’r dibenion, a’r sgiliau craidd sy’n eu cefnogi, yn gosod disgwyliadau uchel i sicrhau bod pob dysgwr yn cael addysg eang a chytbwys, gan gynnwys y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ffynnu.