Part of 1. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 12 Hydref 2022.
Weinidog, gwyddom fod llawer o addysgwyr, ers blynyddoedd, wedi galw am ffocws ar y pynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Yn Abertawe eleni, mathemateg oedd y pwnc Safon Uwch mwyaf poblogaidd ac fe'i cydnabuwyd fel un o'r pynciau anoddaf. Fe gafodd 59.6 y cant A* neu A ac fe lwyddodd 85.7 y cant i ennill gradd C neu uwch. Mae hwn yn ganlyniad eithriadol. Beth y gallwn ei ddysgu o'r llwyddiant hwn wrth inni geisio ysbrydoli pobl ifanc i ddilyn y pynciau STEM?