Canlyniadau TGAU a Safon Uwch Haf 2022

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 12 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:09, 12 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Yn sicr. Rydym yn falch o weld pobl ifanc yn ymgymryd â phynciau STEM a byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i barhau i wneud hynny. Mae her wedi bod o ran y bwlch rhwng y rhywiau ymhlith pobl ifanc sy'n gwneud pynciau STEM, ond mae'r gwaith y buom yn ei wneud drwy ein partneriaid wedi helpu i fynd i'r afael â hynny i ryw raddau. Darparodd adroddiad 'Menywod Dawnus ar gyfer Cymru Lwyddiannus' rai argymhellion inni mewn perthynas â'r ffordd orau i geisio cau'r bwlch rhwng y rhywiau ym maes STEM ac mae'r Llywodraeth yn gweithredu'r camau hynny. Ond hoffwn longyfarch pawb a gafodd ganlyniadau da mewn mathemateg a phob pwnc arall yr haf hwn. Rwy'n credu ei fod yn brawf anhygoel o'u gwytnwch, eu creadigrwydd, ac mae'n beth i'w ddathlu.