Part of 1. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 12 Hydref 2022.
Rhan arall o'r cwricwlwm newydd a'r sgiliau craidd yr ydym yn ceisio eu datblygu yn ein pobl ifanc yw hyder. Mae'n ymwneud â phethau cymhleth a sylfaenol iawn, ond mae a wnelo hefyd â phlant hyderus a chreadigol sy'n barod i godi eu llais a chymryd rhan. Yn aml, gallwch ddweud pan fyddwch yn cerdded i mewn i ystafell ddosbarth ac maent yn sgwrsio â'i gilydd—yn ymddwyn yn dda, ond yn sgwrsio.
Cawsom ysgol gynradd Bryncethin i fyny yn yr oriel heddiw. Gofynnais iddynt, Weinidog, mewn perthynas â'r cwestiwn hwn, 'Pe bawn yn gofyn rhywbeth iddo sy'n ymwneud â hyn, beth fyddwn i'n ei wneud?', a saethodd y dwylo i fyny, ac roedd yn wych gweld hynny. Felly, Weinidog, rwyf am ofyn y cwestiwn i chi, er y bydd efallai'n eich llorio chi. Y cwestiwn y gwnaethant ei ofyn—hyn gan blant ysgol gynradd—oedd sut yr ydym yn adeiladu mwy o ysgolion newydd, cyffrous yng Nghymru?