Part of 1. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 12 Hydref 2022.
Gwelais y digwyddiad ym Maenorbŷr, ac rwy'n talu teyrnged i waith arweinwyr a staff yr ysgol yn diogelu'r bobl ifanc a sicrhau bod y trefniadau priodol ar waith. Mae trafodaethau'n mynd rhagddynt rhwng y Llywodraeth ac awdurdodau lleol ynglŷn â’r hyn y gallwn ei wneud i’w cefnogi lle ceir enghreifftiau penodol yn codi sy'n ychwanegol at y trefniadau cyfalaf sydd eisoes ar gael i awdurdodau. Ac rwy’n siŵr y bydd hyn yn rhan o’r trafodaethau sydd eisoes yn mynd rhagddynt.