Part of 1. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 12 Hydref 2022.
Weinidog, nod yr her ysgolion cynaliadwy yw uwchraddio’r seilwaith ysgolion presennol i'w wneud yn fwy amgylcheddol gynaliadwy, ond rwy’n siŵr y byddwch yn ymwybodol o’r tân ofnadwy a fu yn ysgol gynradd Maenorbŷr yn fy etholaeth i ddydd Llun, a achosodd ddifrod enfawr i adeilad yr ysgol. Diolch byth, ni chafodd neb ei anafu. Mae hyn, yn rhannol, oherwydd arweinyddiaeth wych y pennaeth, Mrs Sharon Davies, a’i staff, a wnaeth yn siŵr fod yr holl staff a'r disgyblion yn ddiogel, ac rwy’n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i ddiolch iddynt am eu gwaith yn hyn o beth. Ond a wnewch chi nodi pa gymorth sydd ar gael i Gyngor Sir Penfro i sicrhau y ceir cyn lleied â phosibl o darfu ar ddysgu disgyblion? A pha gymorth sydd ar gael iddynt wrth iddynt atgyweirio ac ailadeiladu’r ysgol? Diolch.