Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 12 Hydref 2022.
Wel, rwy'n credu y gwelwch chi, James, nad oes adran 151 o’r Ddeddf Iechyd Meddwl. Yn amlwg, mae amddiffyniadau ar waith o dan y gyfraith i gadw pobl sydd mewn argyfwng iechyd meddwl dan gadwad. Rydym am weld nifer y bobl ifanc sy'n cael eu cadw dan gadwad yn lleihau. Dyna pam ein bod yn buddsoddi'r holl arian hwn mewn ymyrraeth gynnar, atal, mewn gwasanaethau noddfa ac mewn gofal argyfwng. Ond bydd bob amser rhai pobl y bydd angen eu cadw dan gadwad er eu lles eu hunain o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Ac rydym yn monitro'r achosion hynny'n ofalus iawn, a gallwch weld, pan fydd rhywun yn cael eu cadw dan gadwad—drwy'r camau a gymerir wedyn, gyda llawer ohonynt yn cael eu hatgyfeirio at wasanaethau eilaidd—fod y penderfyniadau hynny'n cael eu gwneud i gadw pobl yn ddiogel.