2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 12 Hydref 2022.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf i ofyn cwestiwn i'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant. James Evans.
Diolch, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, a ydych yn credu y dylai pobl sydd â phroblem iechyd meddwl gael sicrwydd o asesiad iechyd meddwl o fewn mis?
Diolch am y cwestiwn hwnnw. Yn amlwg, ein nod yng Nghymru yw cael gwasanaeth 'dim drws anghywir'. Mae gennym dargedau ar waith yng Nghymru ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl sylfaenol a mynediad at wasanaethau eraill. Mae gwasanaethau dan bwysau ar hyn o bryd ac rydym yn cymryd camau i adfer perfformiad gyda'r byrddau iechyd.
Diolch am yr ateb hwnnw, Ddirprwy Weinidog. Dywedodd eich arweinydd Llafur yn y DU, Keir Starmer, y byddai Llywodraeth Lafur yn y DU yn gwarantu triniaeth iechyd meddwl o fewn mis, ond mae ystadegau eich gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer plant a phobl ifanc yn dangos bod y Llywodraeth yma yng Nghymru yn methu. Dim ond 50 y cant o blant sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl sy'n cael eu hasesiad o fewn mis. Mewn rhai byrddau iechyd, mae tri phlentyn o bob pedwar yn aros yn hwy na mis ar gyfer asesiad, ac yn Aneurin Bevan, mae 85 y cant o blant yn aros yn hwy na mis am ymyrraeth therapiwtig. Mae hyn yn annerbyniol a dweud y gwir. Felly, a ydych yn credu bod eich Llywodraeth yn gwneud cam â phlant sydd ag anghenion iechyd meddwl yng Nghymru?
Pe bai'r Aelod wedi bod yma ddoe ac wedi ymuno â ni ar gyfer fy natganiad ar ein strategaeth 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', byddai wedi fy nghlywed yn siarad yn fanwl am y rhain. Mae hawl gan Keir Starmer i amlinellu ei bolisïau ar gyfer y Llywodraeth Lafur sydd i ddod yn Lloegr, ond fe allai fod yn syndod i chi glywed bod iechyd wedi ei ddatganoli yng Nghymru. Nid wyf yn derbyn o gwbl ein bod yn gwneud cam â phlant Cymru. Fel y gwyddoch yn iawn, mae'r pandemig wedi cael effaith ar amseroedd aros. Rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer yr atgyfeiriadau a chynnydd yn aciwtedd yr achosion a welir.
Rydym wedi sefydlu arolwg yr uned gyflawni o wasanaethau CAMHS arbenigol. Disgwylir iddynt adrodd y mis hwn. Yn ogystal â hynny, rydym yn gweithio, ynghyd â'r uned gyflawni, gyda phob bwrdd iechyd yng Nghymru i wneud yn siŵr eu bod yn adfer eu sefyllfa CAMHS. Rwy'n aros am yr adroddiad hwnnw gan yr uned gyflawni, a bydd gweithredu ei argymhellion yn allweddol. Unwaith eto, pe baech chi wedi bod yma ddoe, byddech wedi fy nghlywed hefyd yn disgrifio'r ystod gyfan o gymorth yr ydym yn ei ddarparu ar lefel ymyrraeth gynnar ac ar lefel ysgol, sydd wedi'i gynllunio i atal problemau rhag gwaethygu i lefel gwasanaethau CAMHS arbenigol.
Mae'n ddiddorol ei fod hefyd yn dangos nad yw arweinydd y Blaid Lafur yn y DU yn credu bod gan Lywodraeth Cymru unrhyw uchelgais mewn perthynas â gwasanaethau iechyd. Mae'n debyg mai dyna pam ei fod yn gosod ei dargedau ei hun, oherwydd nad yw eisiau cysylltu ei hun â'r methiannau yma. Mae'r ffigurau'n hollol glir fod argyfwng iechyd meddwl yn wynebu ein plant, sy'n cael ei waethygu gan y ffaith nad yw'r Llywodraeth hon yn ymdrin ag ef. Ac ni waeth sawl gwaith y dywedwch fod pethau'n anodd, dylech fod yn ymdrin â'r broblem hon.
Mae'n annerbyniol i mi fod bron i 50 o blant a phobl ifanc o dan 18 oed, y rhan fwyaf ohonynt yn fenywaidd, wedi cael eu rhoi dan gadwad o dan adrannau 151 a 136 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 yn y chwarter diwethaf. A ydych yn credu ei bod yn dderbyniol rhoi plant ifanc dan gadwad? Beth yw cynlluniau'r Llywodraeth hon i ddatrys y broblem, ac os nad ydych yn credu bod hwnnw'n fethiant ar ran y Llywodraeth hon, beth yn union y mae methiant yn ei olygu i chi?
Wel, rwy'n credu y gwelwch chi, James, nad oes adran 151 o’r Ddeddf Iechyd Meddwl. Yn amlwg, mae amddiffyniadau ar waith o dan y gyfraith i gadw pobl sydd mewn argyfwng iechyd meddwl dan gadwad. Rydym am weld nifer y bobl ifanc sy'n cael eu cadw dan gadwad yn lleihau. Dyna pam ein bod yn buddsoddi'r holl arian hwn mewn ymyrraeth gynnar, atal, mewn gwasanaethau noddfa ac mewn gofal argyfwng. Ond bydd bob amser rhai pobl y bydd angen eu cadw dan gadwad er eu lles eu hunain o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Ac rydym yn monitro'r achosion hynny'n ofalus iawn, a gallwch weld, pan fydd rhywun yn cael eu cadw dan gadwad—drwy'r camau a gymerir wedyn, gyda llawer ohonynt yn cael eu hatgyfeirio at wasanaethau eilaidd—fod y penderfyniadau hynny'n cael eu gwneud i gadw pobl yn ddiogel.
Llefarydd Plaid Cymru nesaf, Rhun ap Iorwerth.
Ar 20 Medi, mi ddywedodd y Prif Weinidog mai ffigurau a data Elusen Ambiwlans Awyr Cymru sydd y tu cefn i gynlluniau'r elusen i gau'i ddau safle yn y Trallwng a Chaernarfon a symud yr hofrenyddion i un safle. Dwi, a rhai o fy nghyd-Aelodau, wedi ysgrifennu ato fo i nodi mai ffigurau y Llywodraeth ydy'r rhain—ffigurau EMRTS yn y gwasanaeth iechyd—ac i ofyn iddo gywiro’r record. Mi fuaswn i'n gwerthfawrogi pe tasai'r Gweinidog yn cadarnhau hynny heddiw hefyd. Os ydy o'n help, mi ddyfynnai o eiriau'r elusen ei hun, bod yr analysis,
'wedi'i wneud gan ein partneriaid meddygol, y Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS)'.
Rŵan, oherwydd ansicrwydd ynglŷn ag union sail y data yma, na, yn wir, beth yn union mae'r data yn ei ddweud wrthym ni, ydy'r Gweinidog yn barod i gomisiynu adolygiad annibynol o'r data yna ac, yn benodol, i gael yr adolygiad i ystyried impact tebygol y newid ar yr ardaloedd hynny sydd fwyaf anodd eu cyrraedd ar y ffordd ac sydd ymhellach o'r canolfannau gofal brys—llefydd fel pendraw Llŷn, gogledd Môn a Phowys?
Diolch yn fawr. Edrychwch, ar hyn o bryd, mae pob un ohonom yn gweithio ar sail adroddiad a ddatgelwyd yn answyddogol. Felly, y peth pwysig yw ein bod yn gadael i'r system a'r broses wneud eu gwaith. Nawr, gwn fod prif gomisiynydd y gwasanaeth ambiwlans yn gweithredu’n annibynnol ar y gwasanaeth ambiwlans awyr, a’r peth allweddol i ni ei wneud, yn gyntaf oll, yw darganfod, ar ôl i’r adroddiad gael ei gyhoeddi’n briodol, a yw hyn yn gyfystyr â newid gwasanaeth, ac os ydyw, yna yn amlwg, byddwn yn ymgysylltu â'r cynghorau iechyd cymuned. Ac ar y pwynt hwnnw, byddant yn penderfynu a yw'r newidiadau arfaethedig yn cynrychioli newid gwasanaeth, ac os ydynt, bydd hynny'n sbarduno ymgynghoriad ffurfiol. Ac ar y pwynt hwnnw, wrth gwrs, bydd yn rhaid inni edrych ar y data. Ond gadewch imi ddweud wrthych am y data, gan fy mod wedi ymchwilio i hyn ac wedi gofyn pa ddata a ddefnyddiwyd: cawsom sicrwydd ynghylch trylwyredd y gwaith modelu data cynhwysfawr. Yr hyn a ddywedir wrthyf yw ei bod yn anodd inni gyhoeddi—
Eich data chi ydyw.
Rwy'n gwybod hynny. Rwy'n mynd i ddod at hynny, Rhun. Mae'n anodd inni gyhoeddi'r data hwnnw, gan y gallai ei gwneud yn bosibl adnabod cleifion, a dyna a ddywedwyd wrthyf. Dyna a ddywedwyd wrthyf, ac rwy'n fwy na pharod i roi hynny i chi yn ysgrifenedig.
Mae hynny'n nonsens llwyr.
Fy ofn i ydy bod yr ardaloedd mwyaf gwledig yn mynd i golli allan wrth i'r ambiwlans fynd ar ôl targedau niferoedd cleifion gall cael eu cyrraedd efo'r hofrennydd heb ystyried yn iawn y tebygrwydd y gallai'r rheini gael eu cyrraedd yn reit gyflym ar y ffordd beth bynnag mewn ardaloedd poblog.
Liciwn i dynnu sylw y Gweinidog at adroddiad, 'Service Evaluation of the Emergency Medical Retrieval & Transfer Service (EMRTS) Cymru', a gafodd ei gyhoeddi llai na blwyddyn yn ôl. Mae o'n nodi,
'Er i'r gwasanaeth wneud gwelliannau mawr o ran cydraddoldeb yn gyffredinol, roedd anghydraddoldeb yn parhau yn y ddarpariaeth yn y Gogledd Orllewin, a nodwyd y dylid ystyried ehangu i'r ardal hon.'
Mewn datganiad ysgrifenedig ym mis Ebrill eleni, wrth ymateb i'r adroddiad hwnnw, roedd y Gweinidog yn ganmoliaethus iawn ynghylch—ac rwy'n dyfynnu—'canfyddiadau cadarnhaol' yr adroddiad.
Nawr, rwy’n siŵr y gellid gwneud yr un dadleuon ar gyfer Powys, ond ar y mater penodol hwn, sut y gall symud yr hofrennydd ymhellach i ffwrdd, symud y cerbydau ffyrdd ymhellach i ffwrdd, fod yn gyfystyr ag ehangu gwasanaethau Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys yn y gogledd-orllewin yn benodol? Ni all ymwneud â chynyddu oriau hedfan—mae hynny'n helpu pawb; byddai pob un ohonom yn croesawu hynny. Sut y byddai cau Caernarfon yn gyfystyr ag ehangu’r ddarpariaeth yn y gogledd-orllewin fel modd o fynd i’r afael ag anghydraddoldeb parhaus yn y ddarpariaeth, neu beth sydd wedi newid ers eich datganiad ym mis Ebrill?
Edrychwch, mae'r ambiwlans awyr yn elusen annibynnol. Hwy sy'n gwneud y penderfyniadau hyn, ac maent wedi edrych ar effeithlonrwydd eu gwasanaethau. A chi fyddai'r cyntaf i ddweud wrthyf, 'Pam nad ydym yn cyrraedd pobl yn gyflymach' [Torri ar draws.] Rydych wedi gofyn yn y gorffennol, 'Pam nad ydym yn cyrraedd pobl yn gyflymach?' Ac maent yn dweud, 'Gallwn gael mwy o effeithlonrwydd'—[Torri ar draws.] Wel, mae pobl eraill wedi gofyn, Rhun. A gadewch imi ddweud yn glir, mae angen inni gyrraedd pobl yn gyflymach—mae honno'n broblem y mae angen inni fynd i'r afael â hi. Ac mae'r ambiwlans awyr yn ceisio mynd i'r afael â'r union broblem honno. Maent wedi edrych ar yr effeithlonrwydd, maent wedi darparu rhywfaint o ddata, ac maent wedi gwneud yr asesiad hwnnw. Nawr, nid ydym wedi ymwneud â'r broses honno eto, gan nad yw'n broses ffurfiol o hyd. Ar y pwynt hwnnw, byddwn yn ymwneud â’r broses, pan ddaw’n ffurfiol.