Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 12 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 2:22, 12 Hydref 2022

Weinidog, mae'n amlwg bod yna broblem o fewn y maes yma. Ddydd Gwener diwethaf ces i ddau e-bost oddi wrth etholwyr am fethu â chael gwasanaeth i'w plant nhw. Roedd un yn cael ei hannog i fynd yn breifat gan y deintydd, a dywedwyd wrth y llall gan eu deintydd nhw y byddan nhw'n aros i'w plentyn dwyflwydd oed nhw am o leiaf dwy flynedd cyn cael apwyntiad. Mae iechyd dannedd plant Cymru yn ofid. Mae'r dystiolaeth yn dangos ein bod ni tu ôl Lloegr yn barod. Ar gychwyn mis Gorffennaf y flwyddyn ddiwethaf, fe wnaethoch chi ddweud y bydd gwasanaethau deintyddol yn mynd nôl i'r arfer wedi i wasanaethau brys gael eu delio â nhw yn gyntaf. Pryd mae hynny'n mynd i ddigwydd, Weinidog?