Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 12 Hydref 2022.
Rydym yn cyrraedd pwynt nawr lle—. Yn amlwg, rydym yn dal mewn sefyllfa lle mae COVID yn realiti. Mae gan un o bob 50 o bobl COVID, felly mae'n rhaid i ni gofio, mewn unrhyw sefyllfa sy'n cynhyrchu aerosol, ceir mwy o risg o ledaenu COVID. Felly, mae'n siŵr y bydd gostyngiad bach yn lefel y gweithgarwch.
O ran plant, rydym yn gobeithio edrych ar fodelau newydd o sut y gallwn edrych ar hynny, ac rwyf wedi gofyn i fy nhîm ystyried lle efallai y gallwn ystyried ffyrdd arloesol o fynd i'r afael â mater deintyddiaeth plant. Oherwydd rwy'n ymwybodol fod angen inni sicrhau bod pobl yn meddwl yn y ffordd briodol, mewn perthynas ag iechyd dannedd, o oedran cynnar iawn. Felly, mae'r gwaith hwnnw'n parhau, ac rwy'n gobeithio y gallaf adrodd ar beth yw'r sefyllfa gyda hynny rywbryd yn fuan.