Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 12 Hydref 2022.
Diolch yn fawr. Rydych yn hollol gywir; mae'n rhaid inni wneud yn siŵr fod tegwch yn rhywbeth sy'n bodoli ledled Cymru. Mae gennym arweinydd clinigol ar gyfer strôc yng Nghymru, a gyda chymorth rheolwr y grŵp gweithredu ar gyfer strôc a'r arweinydd cenedlaethol proffesiynol perthynol i iechyd ar gyfer strôc, rydym yn datblygu cynlluniau ar gyfer gwasanaethau strôc rhanbarthol yng Nghymru. Mae hynny'n cynnwys sut y bydd gwasanaethau strôc hyperacíwt, y cyfeirir atynt bellach fel canolfannau strôc rhanbarthol cynhwysfawr, yn cael eu ffurfweddu i sicrhau mynediad teg. O ran Powys, fel rhan o'r broses honno, yn amlwg bydd rhaid i'r trefniadau sy'n cysylltu'r canolfannau strôc rhanbarthol cynhwysfawr hynny gyd-fynd â'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr. Gwn y bydd gan boblogaeth Powys ddiddordeb mewn clywed hynny, ac maent mewn cysylltiad â'r gwasanaethau yn Lloegr i wneud yn siŵr fod y cynllun hwnnw'n ystyried y ffaith fod pobl, mewn gwirionedd, yn croesi'r ffin i Loegr.