Gofal Brys Acíwt

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 12 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of James Evans James Evans Conservative 2:24, 12 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae triniaeth frys ar gyfer cyflyrau acíwt fel strôc neu ataliad ar y galon yn anos i'r bobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig yn fy etholaeth. Gyda digwyddiadau strôc a chardiaidd, mae munudau ac eiliadau'n gallu golygu'r gwahaniaeth rhwng byw a marw, ac os ydych yn goroesi, mae amseriad yr ymyrraeth yn cael canlyniad uniongyrchol ar eich adferiad. Yn fy etholaeth i, mae pobl yn cael eu gorfodi i deithio dros 45 munud i gael gofal yn Lloegr neu siroedd eraill yng Nghymru. Rwy'n clywed trigolion dro ar ôl tro yn cysylltu â mi i ddweud eu bod yn aros dros saith awr am ambiwlans a'u bod yn gorfod rhoi eu hanwyliaid mewn car a'u gyrru i ysbyty. Mae'r teithiau hyn yn beryglus dros ben ac yn ofidus i aelodau'r teulu. Felly, Weinidog, hoffwn wybod pa drafodaethau a gawsoch gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i sicrhau mynediad amserol at driniaethau brys i'r preswylwyr sydd gennyf ym Mrycheiniog a sir Faesyfed, fel nad ydynt o dan anfantais o ganlyniad i'r ffaith nad oes unrhyw ysbytai dosbarth ym Mhowys.